AWST 2018 - RHIFYN 04 CYLCHLYTHYR · 2018. 8. 1. · AWST 2018 - RHIFYN 04 Hyfforddiant Torfaen...

3
Fel un o brif ddarparwyr hyfforddiant yn ne Cymru mae barn ein dysgwyr yn angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cynnal cyfleusterau a phrofiad dysgu Hyfforddiant Torfaen at y safon uchaf. Bob blwyddyn rydym yn trefnu Arolwg Llais Dysgwyr er mwyn monitro bodlonrwydd ar draws yr amrywiaeth eang o hyfforddiant galwedigaethol, cyrsiau masnachol a’r cymwysterau yr ydym yn darparu. Gofynnir i ddysgwyr am eu hadborth ar amrywiaeth eang o bynciau, o’r wybodaeth a ddarperir i’r cyfarpar a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae canlyniadau’r arolwg wedyn yn cael eu tablu gan ganiatáu i ystadegau cywir gael eu cynhyrchu fel y gallwn weld y camau dros y cyfnod 12 mis. Eleni cawsom nifer fawr o arolygon ac mae’r canlyniadau’n amlwg yn adlewyrchu safon uchel ein staff, ein cyfleusterau ardderchog a’r systemau cefnogaeth cryf sydd ar gael i’n dysgwyr. Yn Hyfforddiant Torfaen rydym yn ceisio sicrhau fod y profiad dysgu yn gwella o hyd ac mae gan ddysgwyr y cyfle i leisio barn am yr hyfforddiant a ddarperir. Croesawir adborth a syniadau bob amser er mwyn sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal a’u gwella bob blwyddyn. Nawr fod y canlyniadau ar gael rydym yn falch o gyhoeddi fod 95% o’n dysgwyr wedi rhoi mesur cadarnhaol i ni gyda nifer o feysydd yn gwella ar llynedd. Mae hyn yn sicrhau datblygiad parhaus i bob un o’n dysgwyr nawr ac yn y dyfodol gael mwynhau. Dyma rhai o’r canlyniadau: CYLCHLYTHYR AWST 2018 - RHIFYN 04 Hyfforddiant Torfaen Uned 25 – Ystâd Ddiwydiannol Springvale Cwmbrân, Torfaen, NP44 5BA www.torfaentraining.co.uk dilynwch ni ar 01633 875929 [email protected] Yn Hyfforddiant Torfaen mae diogelu lles ein dysgwyr yn flaenoriaeth. Gallwch lawrlwytho ‘Safeguarding and Prevent Policy For Learners’ o’n gwefan. Mae’r ddogfen hon yn esbonio’n fanwl y mesurau sydd mewn grym i sicrhau fod y profiad dysgu yn Hyfforddiant Torfaen yn digwydd mewn ffordd mor ddiogel â phosibl. Seremoni Wobrwyo Sylw’r Tu Fewn Polisi Diogelu a Prevent Trosolwg o Ail Seremoni Wobrwyo Hyfforddiant Torfaen ar 24 Mai 2018. Dysgwch fwy a dewch i gwrdd â’r enillwyr a’r terfynwyr ar dudalennau 2 a 3. Sgôr Cyffredinol Cwestiwn Arolwg Llais Dysgwyr 94% Yn cytuno ein bod ni wedi eich helpu i setlo i’r cwrs. 93% Yn cytuno ein bod yn deall ac yn parchu pobl o gefndiroedd gwahanol. 94% Yn cytuno ein bod yn esbonio’r gwaith y mae’n rhaid i chi ei wneud 96% Yn cytuno ein bod ni’n gwrando arnyn nhw. 96% Yn cytuno ein bod ni’n trin pawb yn deg. 95% Yn cytuno bod yr hyfforddiant yn berthnasol i’r gwaith yr oedden nhw’n gwneud. 96% Yn cytuno ein bod ni’n cadw pethau’n ddiogel tra eu bod ar y cwrs neu mewn hyfforddiant. 95% Yn cytuno ein bod ni wedi trafod eu hamcanion dysgu.

Transcript of AWST 2018 - RHIFYN 04 CYLCHLYTHYR · 2018. 8. 1. · AWST 2018 - RHIFYN 04 Hyfforddiant Torfaen...

  • Fel un o brif ddarparwyr hyfforddiant yn ne Cymru mae barn ein dysgwyr yn angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cynnal cyfleusterau a phrofiad dysgu Hyfforddiant Torfaen at y safon uchaf. Bob blwyddyn rydym yn trefnu Arolwg Llais Dysgwyr er mwyn monitro bodlonrwydd ar draws yr amrywiaeth eang o hyfforddiant galwedigaethol, cyrsiau masnachol a’r cymwysterau yr ydym yn darparu.

    Gofynnir i ddysgwyr am eu hadborth ar amrywiaeth eang o bynciau, o’r wybodaeth a ddarperir i’r cyfarpar a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae canlyniadau’r arolwg wedyn yn cael eu tablu gan ganiatáu i ystadegau cywir gael eu cynhyrchu fel y gallwn weld y camau dros y cyfnod 12 mis.

    Eleni cawsom nifer fawr o arolygon ac mae’r canlyniadau’n amlwg yn adlewyrchu safon uchel ein staff, ein cyfleusterau ardderchog a’r systemau cefnogaeth cryf sydd ar gael i’n dysgwyr.

    Yn Hyfforddiant Torfaen rydym yn ceisio sicrhau fod y profiad dysgu yn gwella o hyd ac mae gan ddysgwyr y

    cyfle i leisio barn am yr hyfforddiant a ddarperir. Croesawir adborth a syniadau bob amser er mwyn sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal a’u gwella bob blwyddyn.

    Nawr fod y canlyniadau ar gael rydym yn falch o gyhoeddi fod 95% o’n dysgwyr wedi rhoi mesur cadarnhaol i ni gyda nifer o feysydd yn gwella ar llynedd. Mae hyn yn sicrhau datblygiad parhaus i bob un o’n dysgwyr nawr ac yn y dyfodol gael mwynhau.

    Dyma rhai o’r canlyniadau:

    T R A I N I N GT R A I N , A C H I E V E , G R O W , S U C C E E D

    CYLCHLYTHYRAWST 2018 - RHIFYN 04

    Hyfforddiant TorfaenUned 25 – Ystâd Ddiwydiannol Springvale Cwmbrân,Torfaen, NP44 5BA

    www.torfaentraining.co.ukdilynwch ni ar

    01633 [email protected]

    Yn Hyfforddiant Torfaen mae diogelu lles ein dysgwyr yn flaenoriaeth. Gallwch lawrlwytho ‘Safeguarding and Prevent Policy For Learners’ o’n gwefan.

    Mae’r ddogfen hon yn esbonio’n fanwl y mesurau sydd mewn grym i sicrhau fod y profiad dysgu yn Hyfforddiant Torfaen yn digwydd mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.

    Seremoni WobrwyoSylw’r Tu Fewn

    Polisi Diogelu a Prevent

    Trosolwg o Ail Seremoni Wobrwyo Hyfforddiant Torfaen ar 24 Mai 2018. Dysgwch fwy a dewch i gwrdd â’r enillwyr a’r terfynwyr ar dudalennau 2 a 3.

    Sgôr Cyffredinol Cwestiwn Arolwg Llais Dysgwyr

    94%Yn cytuno ein bod ni wedi eich helpu i setlo i’r cwrs.

    93% Yn cytuno ein bod yn deall ac yn parchu pobl o gefndiroedd gwahanol.

    94% Yn cytuno ein bod yn esbonio’r gwaith y mae’n rhaid i chi ei wneud96% Yn cytuno ein bod ni’n gwrando arnyn nhw.

    96% Yn cytuno ein bod ni’n trin pawb yn deg.

    95%Yn cytuno bod yr hyfforddiant yn berthnasol i’r gwaith yr oedden nhw’n gwneud.

    96%Yn cytuno ein bod ni’n cadw pethau’n ddiogel tra eu bod ar y cwrs neu mewn hyfforddiant.

    95% Yn cytuno ein bod ni wedi trafod eu hamcanion dysgu.

  • Hyfforddeiaethy Flwyddyn

    Declan JonesCwmni: Ysgol Gynradd Overmonnow Cymhwyster ar ôl cwblhau: Hyfforddeiaeth Lefel 1 Galwedigaethol

    PrentisiaethSylfaen y Flwyddyn

    Sian DaviesCwmni: Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen Cymhwyster ar ôl cwblhau: Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2

    Prentisiaethy Flwyddyn

    Anne IrelandCwmni: Cymorth i Fenywod CyfannolCymhwyster ar ôl cwblhau: FfCC – Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 3

    Ymarferyddy Flwyddyn

    Hilary DaweCwmni: LMJ TrainingGyda chanolfannau cefnogaeth yn Y Barri, Abertawe a’r Coed Duon mae LMJ wedi adeiladu enw da fel un o’r darparwyr hyfforddiant maint canolig yn ne orllewin Cymru a de Cymru.

    Uwch Brentisiaeth y Flwyddyn

    Kayleigh GriffithsCwmni: Prancers Horse RidingCymhwyster ar ôl cwblhau: Prentisiaeth Lefel Uwch a EQL mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau

    Cyflogwry Flwyddyn

    Freight Logistics SolutionsRheolwr Gyfarwyddwr: Ieuan RosserYn y rheng flaen ymhlith gwasanaethau canolfannau data i Gymru ac eisoes yn darparu gwasanaethau i Heddlu Gwent, CBS Torfaen, Cyngor Sir Fynwy, CBS Blaenau Gwent, GGGC a Phrifysgol Cymru a’r sector preifat.

    Cwrdd â’r enillwyr

    Cwrdd â’r Terfynwyr

    2il Wobrau Hyfforddiant Torfaen ynllwyddiantYn dilyn llwyddiant digwyddiad llynedd, cynhaliwyd ail seremoni wobrwyo Hyfforddiant Torfaen yn y LIFE Station Trefddyn, Pont-y-pŵl ar ddydd Iau, 24ain Mai o flaen cynulleidfa o 50 o westeion, a oedd yn cynnwys y rheiny a gyrhaeddodd y rhestr fer. Cynlluniwyd y gwobrau er mwyn arddangos a dathlu campau’n dysgwyr, ymarferwyr a chyflogwyr sydd wedi rhagori trwy gydol eu rhaglenni dysgu.

    Roedd Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Karen Padfield, yn bresennol, ynghyd â’r Aelod Gweithredol dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd David Yeowell, a gyflwynodd y gwobrau trwy gydol y seremoni ac yn ystod ei araith i gloi dywedodd y Cynghorydd Yeowell:

    “Llongyfarchiadau i bawb ac i’r enillwyr sydd wedi cael eu henwebu am waith mor galed i’w rhaglenni

    hyfforddiant. Dyw llwyddiant mewn dysgu mewn gwaith ddim yn bosibl heb gefnogaeth cyflogwyr ac mae’r Cyngor yn ddiolchgar am eu hymrwymiad a chefnogaeth barhaol. Rwy’n falch hefyd fod y Seremoni Wobrwyo’n cydnabod ymroddiad y staff yn Hyfforddiant Torfaen ac ar draws eu rhwydwaith o isgontractwyr.

    Mae pawb sydd yma heddiw yn tystio pwysigrwydd dysgu mewn gwaith fel llwybr llwyddiannus i bobl o bob oed i gael cymwysterau, profiad ac i symud ymlaen yn y gweithle.”

    Roedd Karen a’r Cynghorydd Yeowell yn falch o weld cymaint o dalent sy’n dangos ymrwymiad Hyfforddiant

    Torfaen i wella sgiliau i bobl, cyflogwyr ac, yn y pendraw, economi Cymru.

    Dywedodd Karen Padfield:

    “Roedden ni’n falch iawn o’n seremoni gyntaf llynedd, yn arbennig gyda dau o’n henillwyr yn cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Mae gwobrau Hyfforddiant Torfaen yn dangos ein rhaglenni sgiliau yn wych a gallwn fod yn falch o gael dathlu llwyddiannau ein dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr.

    Mae’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd wedi bod yn anhygoel eto a hoffem longyfarch yr enillwyr a’r terfynwyr ar gyrraedd safonau mor uchel.”

    Hilary Dawe, enillydd Gwobr Ymarferydd y Flwyddyn yn dangos ei gwobr o wydr wedi ei argraffu.

    TheLIFE Station

    Unwaith eto digwyddodd y seremoni yn y LIFE Station Trefddyn, a oedd yn lleoliad delfrydol ar gyfer y gwobrau. Serch hynny, eleni, wrth i’r digwyddiad dyfu, roedd y lleoliad bron yn llawn.

    Roedd y gwesteion i gyd yn llawn edmygedd o’r cyfleusterau a dyluniad modern yr adeilad, gan fwynhau eglurder fideos y terfynwyr ar sgrin

    uwchben a oedd yn ganolbwynt y digwyddiad.

    Os ydych chi’n cynllunio digwyddiad, cyfarfod neu ddiwrnod hyfforddiant yna efallai gallech chi ei gynnal yn y LIFE Station.

    Mae cyfleusterau cynadledda ardderchog ar gael i’w llogi, am fwy o wybodaeth:

    Ffoniwch 01495 742910 neuE-bost: [email protected]

    Bethany LewisCwmni: Ysgol Gynradd Pembroke

    Kaedee JonesCwmni: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

    Georgina KerrCwmni: Chwarae Torfaen

    Carys GladwinCwmni: Cwmbrân Kitchens

    Traineeshipy Flwyddyn

    Foundation Apprenticeshipy Flwyddyn

    Terfynwr UwchBrentisiaeth y FlwyddynJessica PullinCwmni: GwasanaethIeuenctid Torfaen

    Terfynwr Prentisiaeth y Flwyddyn

    Emma MeadowcroftCwmni: Cartref PreswylOakdale Manor

    Terfynwr Cyflogwr y Flwyddyn

    King FinancialLleolir ym Mhont-y-pŵl

    Terfynwr Ymarferwr y Flwyddyn

    Gemma MarshCompany:Hyfforddiant Torfaen

    KING FINANCIAL SERVICESPERSONAL • FAMILY • HOME • SPORT • BUSINESS

    CWMBRAN KITCHENS

    CWMBRAN KITCHENS

  • Dewch o hyd i’r holl eiriau a restri isod a danfonwch eich pos wedi ei gwblhau at [email protected] erbyn 1af Medi 2018 am gyfle i ennill taleb Love2Shop gwerth £10.

    Dewisir enillydd o’r atebion cywir a dderbynnir.

    Telerau ac Amodau’n BerthnasolNi chaiff cyflogeion Hyfforddiant Torfaen geisio. Rhaid i bob un sy’n ceisio fod dros 18 oed. Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Dim ond un cais i bob person.Rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn y dyddiad cau uchod. Caiff yr enillydd ei hysbysu yn fuan ar ôl tynnu’r ceisiadau a bydd ei llun yn cael ei ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan Hyfforddiant Torfaen.

    I’r rheiny sydd newydd sefyll arholiadau TGAU a Lefel A, bydd y canlyniadau ar gael yn ystod Awst. Serch hynny, os na chewch chi’r graddau sydd angen arnoch chi ar gyfer addysg uwch neu efallai nad yw Prifysgol at eich dant yna cysylltwch â ni yn Hyfforddiant Torfaen, gan fod nifer o ddewisiadau ar gael ar gyfer Dysgu yn y Gweithle.

    Er enghraifft, mae Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn ffordd ddelfrydol i ddatblygu eich gyrfa. Gwelwch isod rhai o fanteision y llwybr yma.

    Hyfforddeiaethau

    • Lleoliad profiad gwaith o ansawdd uchel gyda chyflogwr.

    • Enillwch gymhwyster cydnabyddedig.

    • Ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

    • Llwybr gyrfa gwych at Brentisiaeth.• Cyflog tra’n dysgu.• Cyfuno sgiliau swyddogaethol

    gyda phrofiad gwaith ymarferol.

    Prentisiaethau

    • Enillwch sgiliau arbenigol gan bobl broffesiynol gyda blynyddoedd o brofiad

    • Dilyniant gyrfa ardderchog.• Gallwch ddechrau Prentisiaeth hyd

    yn oed os ydych chi eisoes mewn gwaith.

    • Dim benthyciadau myfyrwyr na ffioedd dysgu.

    • Gallwch ddechrau Prentisiaeth ar unrhyw adeg.

    • Ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

    Dyddiadau CanlyniadauAwst 2018

    Lefel A - Dydd Iau 16eg

    TGAU - Dydd Iau 23ain

    Ydych chi’n dweud IE i’r cwestiynau canlynol:Llai na 250 o staff.

    Wedi lleoli yng Nghymru.

    Heb gyflogi Prentis am dros 30 mis.

    Yn fodlon ymroi i gyflogi Prentis am dros12 mis am o leiaf 30 awr yr wythnos.

    Yn gallu talu Prentis yn unol â lleiafswmy gofynion cyfreithiol neu fwy.

    Cymhwyster PrentisiaethRhaid fod yn 16 - 19 mlwydd oed.

    Cyflogai newydd - ni fyddwch yn gallu rhoi cyflogai cyfredol yn y rhaglen Prentisiaeth yma.

    Rhaid i’r Prentis ddechrau gwaith yn syth ar ôl arwyddo.

    Os ydych chi’n ticio’r holl bwyntiau uchod ac am wybod mwy am yr Anogaeth Prentisiaeth i Gyflogwyr yna ffoniwch 01633 875929 neu e-bostiwch:

    [email protected]

    GWOBRPRENTISGYRFACWRSARDOLL

    ARHOLIADSYLFAENSWYDDDYSGWR

    UMCLLWYDDODARLLENMEDI

    HYFFORDDAIGWAITHCYFLOGWRTORFAEN

    Enillwch daleb Love2Shop gwerth £10

    Canlyniadau

    Etholiadau

    HY

    FF

    OR

    DD

    AI

    D

    SGWR

    ARHOLIA

    DEM

    GWAITH

    WG

    LF

    YC

    YL

    FA

    ENT O R F A E

    D A R L L E N

    D Y W SR

    DO

    L

    LLWYDDO

    PRENTIS

    GY

    R

    A

    GW

    BR

    CW

    S

    UMX

    X

    PV

    B

    J

    K

    P R