Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

37
TAG UG/U CYMRAEG 1 Cynnwys CBAC TAG UG mewn Cymraeg Ail Iaith CBAC TAG U mewn Cymraeg Ail Iaith 2007 a 2008 Tudalen Codau Cofrestru ac Unedau Asesu Ar Gael 2 Crynodeb Asesu 3 Cyflwyniad 5 Nodau 7 Cynnwys y Fanyleb 8 Sgiliau Allweddol 22 Amcanion Asesu 24 Cynllun Asesu 25 Disgrifiadau Graddau 28 Atodiad Sgiliau Allweddol 30

Transcript of Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

Page 1: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 1

Cynnwys

CBAC TAG UG mewn Cymraeg Ail Iaith CBAC TAG U mewn Cymraeg Ail Iaith

2007 a 2008

Tudalen Codau Cofrestru ac Unedau Asesu Ar Gael 2 Crynodeb Asesu 3 Cyflwyniad 5 Nodau 7 Cynnwys y Fanyleb 8 Sgiliau Allweddol 22 Amcanion Asesu 24 Cynllun Asesu 25 Disgrifiadau Graddau 28 Atodiad Sgiliau Allweddol 30

Page 2: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 2

TAG CYMRAEG AIL IAITH Codau Cofrestru Pwnc/Opsiwn

Cofrestriad Cyfnewid Uwch Gyfrannol (UG) Cofrestriad Cyfnewid Safon Uwch

590 80

0086 90 Uned CA1 591 01

Uned CA2 592 01

Uned CA3 593 01

Uned CA4 594 01

Uned CA5 595 01

Uned CA6 596 01

Unedau Asesu Ar Gael Uned Ionawr

Mai -Mehefin

CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 CA6

Page 3: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 3

CYMRAEG AIL IAITH

CRYNODEB ASESU

UWCH GYFRANNOL – 3 uned orfodol

UNED 1 UNED 2 UNED 3 CA1 Y Ffilm a Llafaredd (Arholiad llafar – tua 1/2 awr)

CA2 Gwaith Cwrs Ysgrifenedig (Asesiad mewnol)

CA3 Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth (Arholiad ysgrifenedig – 2 awr)

20% 15% 15%

Gall ymgeiswyr sefyll un neu fwy o’r cydrannau hyn yn ystod Mai/Mehefin y flwyddyn gyntaf. Ar y llaw arall gellir sefyll rhai neu bob un o’r cydrannau yn ystod Mai/Mehefin yr ail flwyddyn. Cynigir CA3 ym mis Ionawr yn ogystal. Gellir ailsefyll unrhyw uned gan gadw marciau'r canlyniad gorau.

SAFON UWCH – 3 uned orfodol

UNED 4 UNED 5 UNED 6 CA4 Y Ddrama a Llafaredd (Arholiad llafar terfynol ac asesiad synoptig – tua 3/4 awr)

CA5 Y Stori Fer a Thrawsieithu (gan gynnwys Ysgrifennu Personol) (Arholiad ysgrifenedig – 2 awr)

CA6 Defnyddio’r Iaith a Gwerthfawrogi Barddoniaeth (Arholiad ysgrifenedig terfynol – 2 awr)

17.5% 15% 17.5%

Fel arfer bydd ymgeiswyr yn sefyll y tair cydran hyn yn ystod Mai/Mehefin yr ail flwyddyn. Gellir ailsefyll unrhyw uned gan gadw marciau’r canlyniad gorau. Dylid nodi mai arholiadau terfynol yw CA4 a CA6. Bydd canlyniadau unedau asesu unigol, cyn tystysgrifo'r cymhwyster, yn ddilys am gyfnod a gyfyngir yn unig gan gyfnod dilysrwydd y fanyleb.

Page 4: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w
Page 5: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 5

CYMRAEG AIL IAITH

1 RHAGYMADRODD

1.1 Meini Prawf ar gyfer TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch

Y mae’r fanyleb hon yn corffori gofynion y meini prawf pynciol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith ar lefel Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Y mae pob uned asesu unigol yn cynnwys un neu ragor o elfennau’r meini prawf pwnc.

Adroddir y cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch ar raddfa pum gradd – A,B,C,D, ac E. Cofnodir cyrhaeddiad ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddo i gyrraedd y safon isaf posib ar gyfer gradd E fel U (diddosbarth) ac ni dderbyniant dystysgrif.

Cynllunir yr arholiad Uwch Gyfrannol fel ei fod yn asesiad priodol o’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a ddisgwylir gan fyfyrwyr sydd wedi cwblhau rhan gyntaf (neu Ran Un) y cwrs Safon Uwch llawn.

Bydd y cwrs Safon Uwch llawn yn cynnwys yr Uwch Gyfrannol ac ail ran (U2) y cwrs Safon Uwch llawn. Cynllunir yr arholiad U2 fel ei fod yn asesu’n briodol yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau yr ymwneir â hwy yn U2, ynghyd ag asesiad synoptig o’r elfennau Uwch Gyfrannol, ar ddiwedd y cwrs Safon Uwch.

Gellir ailsefyll unrhyw uned unwaith yn unig gan gadw'r canlyniad gorau. Gall ymgeiswyr ailsefyll y cymhwyster cyfan fwy nag unwaith, a bydd canlyniadau unedau asesu unigol, cyn tystysgrifo'r cymhwyster, yn ddilys am gyfnod a gyfyngir yn unig gan gyfnod dilysrwydd y fanyleb.

1.2 Dysgu Blaenorol

• Nid oes anghenion penodol parthed dysgu blaenorol, er y bydd llawer o ymgeiswyr wedi caffael gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Gymraeg ac wedi datblygu'r sgiliau priodol wrth astudio'r pwnc ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith.

• Gellir astudio'r fanyleb hon gan unrhyw ymgeiswyr beth bynnag eu rhyw neu gefndir ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol.

• Nid yw'r fanyleb yn oed-benodol ac, oherwydd hynny, darpara gyfleon i ymgeiswyr ymestyn eu haddysg gydol oes.

Page 6: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 6

1.3 Dilyniant

Bwriedir yr arholiad Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch Gyfrannol ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi sefyll arholiadau TGAU Cymraeg Ail Iaith, GNVQ (Unedau Cymraeg Ail Iaith) a Defnyddio'r Gymraeg ac sydd ym marn yr athrawon/tiwtoriaid yn fyfyrwyr addas i ddilyn y cwrs.

Bwriad yr arholiad Uwch Gyfrannol yw rhoi cyfle i ymgeiswyr Safon Uwch ehangu eu hastudiaethau gan ohirio penderfynu arbenigo. Bwriedir iddo fod yn her sylweddol i’r rhai nad ydynt yn gallu ymdopi â Safon Uwch ac sydd, ar y dechrau, yn fodlon ymrwymo’u hunain i addysg lawn amser am un flwyddyn arall yn unig.

Ar gyfer mwyafrif yr ymgeiswyr mae'r fanyleb hon yn adeiladu ar y Rhaglenni Astudio ar gyfer model Cymraeg Ail Iaith y Gorchymyn Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 1 - 4 a'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen yng Nghyfnod Allweddol 4.

Nid yw’r arholiadau Uwch Gyfrannol ac Uwch Cymraeg Ail Iaith yn addas ar gyfer myfyrwyr a ddilynodd y Rhaglen Astudio ar gyfer Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4.

1.4 Cyfuniadau gwaharddedig a Gorgyffwrdd

Ni chaiff ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad hwn sefyll arholiad Safon Uwch Gyfrannol nac Uwch mewn Cymraeg.

1.5 Ymgeiswyr ag Anghenion Penodol

Mae manylion trefniadau ac ystyriaethau arbennig ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion penodol wedi eu cynnwys yn y ddogfen a baratowyd gan y Cyngor Cyfunol ar Gymwysterau Cyffredinol (JCGQ) Ymgeiswyr ag anghenion asesu arbennig: Rheoliadau a Chyfarwyddyd. Mae copïau o'r ddogfen hon ar gael gan CBAC.

1.6 Rhesymeg

Amcan y fanyleb hon yw datblygu medrau'r ymgeiswyr i'w mynegi eu hunain yn Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Anelir at ddatblygu medrau'r ymgeiswyr i ddefnyddio iaith â dychymyg. Anogir darllen eang yn ogystal ag astudio'n fanwl weithiau llenyddol penodol. Hyrwyddir y gallu i ymateb i lenyddiaeth ac i ddeunyddiau diwylliannol cyfoes amlgyfrwng gan ennyn gwerthfawrogiad o etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.

Rhydd y fanyleb y cyfleoedd i ymgeiswyr symud ymlaen i astudio’r Gymraeg ymhellach neu’n uniongyrchol i fyd gwaith.

Page 7: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 7

2 NODAU Mae’r manylebau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn annog

myfyrwyr i:

• ddangos diddordeb, pleser a brwdfrydedd wrth astudio’r Gymraeg; • cyfathrebu’n hyderus, yn gywir ac yn rhugl yn llafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang

o sefyllfaoedd a chyd-destunau; • ysgrifennu’n greadigol a ffeithiol i amrywiaeth o bwrpasau; • darllen a dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol ac yn hyderus; • gwrando ac ymateb i farn eraill; amddiffyn neu addasu safbwynt yng ngoleuni dadleuon

eraill; • ymateb ac i fynegi barn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o ystod o

destunau llenyddol a ffeithiol yn glir, yn groyw ac yn strwythuredig; • ymateb yn berthnasol a diwastraff yn y Gymraeg.

Yn ogystal, mae’r manylebau Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn annog ymgeiswyr i:

• wneud cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau’r pwnc.

2.2 Y dimensiwn ysbrydol, moesol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol

Mae'r Gymraeg yn ei hanfod yn bwnc sydd yn mynnu bod ymgeiswyr yn ystyried materion

ysbrydol, moesol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol wrth ddarllen, astudio a thrafod ystod eang o lenyddiaeth Gymraeg (CA1, CA3, CA4, CA5, CA6) yn ogystal â rhoi sylw i’r defnydd cymdeithasol eang a wneir ohoni (CA2).

2.3 Y dimensiwn Ewropeaidd Trwy gyfrwng ystod eang o farddoniaeth gyfoes (CA3, CA6), gwaith y dramodydd Saunders

Lewis (CA4), yr awdur Mihangel Morgan (CA5) a’r ffilm Hedd Wyn (CA1) a thrwy ganolbwyntio ar yr iaith fel cyfrwng cyfathrebu naturiol a pherthnasol cyflwynir rhaglen waith a fydd yn atgyfnerthu ac yn ehangu ymwybyddiaeth yr ymgeiswyr o le'r Gymraeg, iaith fyw hynaf cyfandir Ewrop, yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Page 8: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 8

3 CYNNWYS Y FANYLEB

3.1 Gwybodaeth, Dealltwriaeth a Sgiliau Dylai ymgeiswyr UG a Safon Uwch arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o:

• strwythurau, gramadeg a phatrymau’r iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig oddi mewn i gyd-destunau ystyrlon;

• cywair a phriodoldeb iaith ac arddull ystod o ddarnau ffeithiol; • cynnwys ffilm ac ystod o gerddi a straeon; • diwylliant traddodiadol Cymru.

Dylai ymgeiswyr UG a Safon Uwch hefyd, yn llafar ac yn ysgrifenedig:

• arddangos cywirdeb wrth ddefnyddio cystrawen a gramadeg yr iaith mewn amrywiaeth o ffurfiau a chyd-destunau ac i ystod o gynulleidfaoedd a phwrpasau;

• defnyddio iaith yn y cywair priodol mewn ystod eang o gyd-destunau i ddibenion creadigol, i drafod llenyddiaeth, i drawsieithu ac i amrywiaeth o ddibenion ymarferol gan roi ystyriaeth i’r pwrpas a’r gynulleidfa;

• trafod, ystyried ac ymateb i safbwyntiau a barn eraill er mwyn dod i gasgliadau cytbwys;

• defnyddio geiriaduron yn briodol ond hefyd arddangos y gallu i gyfleu ystyr heb gyfeirio atynt;

• dadansoddi’n feirniadol a chyfleu ymateb personol i destunau a darnau cyfarwydd gan ddefnyddio termau addas;

• dewis a dethol yn berthnasol o destun wrth drafod, er mwyn egluro ac enghreifftio safbwyntiau personol;

• trafod, ystyried ac ymateb i’r diwylliant cyfoes amlgyfrwng megis theatr, darlledu, ffilm a newyddiaduraeth;

• ystyried agweddau a gwerthoedd mewn testunau. Bydd yr astudiaeth hon yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer astudiaeth bellach tra ar yr un pryd yn datblygu sgiliau addas i’r gweithle. Hefyd dylai ymgeiswyr Safon Uwch: • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod ehangach o farddoniaeth a drama; • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth fwy manwl gywir o gywirdeb a rheolau

gramadeg yr iaith a defnyddio ystod ehangach o eirfa a phriod-ddulliau; • cymharu darnau neu destunau er mwyn deall a gwneud sylwadau ar yr hyn sy’n

gyffredin ac yn wahanol rhyngddynt gan arddangos y gallu i ddadansoddi llenyddiaeth yn feirniadol, cyfleu ymateb personol a defnyddio termau addas;

• arddangos gwybodaeth ehangach a dealltwriaeth ddyfnach o’r maes; • arddangos sgiliau wedi eu mireinio a’u datblygu ymhellach.

Page 9: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 9

3.2 Uwch Gyfrannol CA1 Y Ffilm a Llafaredd - Arholiad Llafar (tua 1/2 awr) Nodiadau i Athrawon • Asesiad allanol yw hwn. Er hynny dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl

yn fewnol yn ystod y flwyddyn. • Bydd yr arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod tymor yr Haf.

Defnyddir asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo’r arholwr, ond gan yr arholwr yn unig y bydd yr hawl i bennu marciau terfynol yr ymgeiswyr.

• Arholir yr ymgeiswyr mewn parau/grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd. Dewisir y grwpiau yn ôl gallu’r ymgeiswyr neu ddoethineb yr arholwr. Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lle ceir grwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua hanner awr. Dyfernir marciau allan o 40.

Swyddogaeth yr arholwr Lle bo angen • sbarduno trafodaeth; • hybu newid cyfeiriad y drafodaeth; • gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl; • sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb. Wrth asesu’r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i arddangos gwybodaeth benodedig o’r ffilm a’i chefndir, gwrando’n astud ar eraill, codi cwestiynau, datblygu safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau. Yn ogystal ystyrir eu gallu i lefaru’r iaith yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan ystyried y pwrpas a’r gynulleidfa. Trefn yr arholiad A. Cynhesu’r disgyblion trwy drafod y diwylliant cyfoes amlgyfrwng yng Nghymru.

Disgwylir i’r ymgeiswyr allu trafod y meysydd canlynol ar ôl ymwneud â nhw’n rheolaidd yn ystod y cwrs:

• y theatr • darlledu (radio a theledu) • ffilm B. Trafod ffilm - Hedd Wyn (Alan Llwyd) Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr ymdrin â phynciau megis y rhai a ganlyn: • trafod cymeriadau, olrhain eu datblygiad a chymharu cymeriadau â’i gilydd; • trafod golygfeydd allweddol; • manylu ynghylch y defnydd o lun a sain neu gerddoriaeth gefndirol; • trafod bwriadau’r awdur a’r cynhyrchydd; • trafod themâu a geir yn y ffilm; • mynegi barn ac ymateb i’r gwaith fel cyfanwaith.

Page 10: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 10

Bydd rhyddid gan ymgeiswyr gyfeirio at ffilm(iau)/dramau eraill ac at lenyddiaeth a ddarllenwyd. Dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth yn briodol. C. Bydd yr arholwr hefyd yn gofyn i’r ymgeiswyr ymhelaethu ar y pynciau/themâu

sy’n deillio o’r ffilm gan ymateb yn ôl y gofyn. Bydd gan y Bwrdd yr hawl i newid y ffilm a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny. CA2 – Gwaith Cwrs Ysgrifenedig (Asesiad Mewnol)

Anfonir sampl o waith cwrs y ganolfan at y safonwr allanol erbyn dyddiad a bennir ar ddechrau tymor yr haf ym mlwyddyn y cwrs.

Dylid cynnwys unrhyw ddeunyddiau symbylus a roddwyd i’r ymgeisydd. Dylid nodi unrhyw ragbaratoi ar ran yr ymgeisydd ei hun ac unrhyw gymorth/ arweiniad a roddwyd gan yr athro/athrawes. Dylai athrawon nodi cywiriadau a sylwadau ar y sgriptiau.

Bydd gofyn nodi’r dyddiad y cyflwynwyd y dasg ac unrhyw nodiadau/sylwadau perthnasol ar gyfer y safonwr megis sut y cafodd y dasg ei chyflawni, unrhyw ddeunydd cyfeiriol a ddefnyddiwyd.

Caiff y gwaith ei farcio pan gyflwynir ef i’r athro/athrawes yn ystod y cwrs. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif roi marc am waith fydd wedi cael ei gymhwyso. Dylai’r athro/athrawes adael ei gywiriadau a’i sylwadau a gyfeiriwyd at yr ymgeisydd ar dasgau; ni ddylai ymgeisydd ailysgrifennu tasg ffolio na’i chywiro wedi i’r athro/athrawes ei chywiro.

Rhoddir cyfarwyddyd pellach i athrawon neu ganolfannau unigol pan na fydd safonwyr yn hapus bod canolfannau wedi cwrdd â gofynion gwaith cwrs CBAC. Lle y cyfyd problem sylweddol bydd CBAC yn:

(i) cymeradwyo tasgau gwaith cwrs pellach ac unrhyw gynlluniau marcio a

gynigir gan y ganolfan; (ii) cymeradwyo a monitro trefniadau’r ganolfan ar gyfer marcio a safoni

gyhyd ag y tybir sydd yn angenrheidiol. Disgwylir i’r athro/athrawes farcio’r dasg o gyfanswm o 40.

Nodir isod rai elfennau y dylai athrawon eu hystyried wrth farcio’r tasgau.

• ysgrifennu’n gywir, yn eglur ac yn raenus gan arddangos ystod o adnoddau iaith;

defnyddio gwybodaeth o ramadeg yn effeithiol mewn amryfal gyd-destunau; • dangos ymwybyddiaeth o wahanol gyweiriau iaith a defnyddio’r iaith yn hyderus

mewn gwahanol sefyllfaoedd ac at wahanol ddibenion gan roi ystyriaeth i’r pwrpas a’r gynulleidfa.

Page 11: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 11

Trefn Safoni Gwaith Cwrs

• Cynhelir cynhadledd ar gyfer safonwyr y gwaith cwrs cyn gynted â phosib ar ôl y dyddiad cau ar gyfer derbyn y gwaith.

• Ni fydd y safonwyr yn graddoli marciau ysgolion. Yn hytrach, ar ôl safoni

anfonir ffurflen farciau pob ysgol, ynghyd â thaflen sylwadau a gwaith, sydd yn nhþb y safonwyr yn enghreifftio marc na ddylid ei raddoli a marc y dylid ei raddoli, at y Prif Arholwr.

• Gan y Prif Arholwr/Swyddog CBAC yn unig y bydd yr hawl i raddoli’n derfynol.

Y Dasg

Llunio Pecyn ar un o’r canlynol:

• ardal benodol • elfen gymdeithasol • elfen ddiwylliannol • elfen alwedigaethol • elfen hanesyddol • elfen wleidyddol

Gall y testun a ddewisir fod o ddiddordeb lleol neu genedlaethol, yn draddodiadol neu’n gyfoes ei apêl.

Canllawiau i’r Dasg

Bydd y Pecyn yn canolbwyntio ar, ac yn cyflwyno i’r darllenydd elfennau o’r testun y mae’r ymgeisydd wedi ymddiddori ynddynt gan gynnwys sylwadau personol a pherthnasol wrth wneud hynny. Wedi darllen y gwaith dylai’r darllenydd fod yn deall y testun dan sylw ac yn gwybod am agwedd yr ymgeisydd tuag at y testun.

Rhaid i’r Pecyn Gwybodaeth gynnwys o leiaf bedwar o’r ffurfiau canlynol:

adroddiad papur newydd; erthygl i gylchgrawn; portread; ysgrif; stori/hanesyn; sgwrs; llythyr; holiadur; deunydd cyhoeddusrwydd; dyddiadur; sgript.

• Rhaid i’r testun fod yn Gymreig. • Dylai’r wybodaeth gael ei chyflwyno mewn arddull bersonol gyda’r ymgeisydd yn

cyflwyno ei safbwynt ei hun yn ei eiriau ei hun. • Disgwylir gweld ôl ymchwil, dadansoddi, cymharu a dewis a dethol yn y gwaith ond

gyda gogwydd bersonol yr ymgeisydd yn llywodraethu.

Page 12: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 12

• Dylai unrhyw luniau/mapiau/atgynyrchiad llunyddol gael eu defnyddio’n briodol, felly hefyd unrhyw ddyfyniadau.

• Dylid ysgrifennu rhwng 2000 a 3000 o eiriau. Dylai’r pecyn gynnwys un darn o ysgrifennu estynedig.

• Disgwylir gweld penawdau ac is-benawdau yn cael eu defnyddio’n briodol ac yn effeithiol wrth drefnu’r gwaith, ac wrth gyflwyno elfennau o fewn y testun.

• Dylid caniatáu i’r ymgeisydd drafod cynnwys y pecyn gyda’r athro/athrawes a chynhyrchu’r gwaith ar brosesydd geiriau.

• Caniateir defnyddio geiriaduron, cyfeirlyfrau, testunau llenyddol a gweledol ac unrhyw ddogfennau/cyfryngau perthnasol eraill.

• Gall yr ymgeiswyr weithio ar y dasg yn y dosbarth ac/neu yn y cartref.

CA3 – Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth (Arholiad Ysgrifenedig - 2 awr)

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o’r cerddi yn yr arholiad.

Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.

Cwestiwn 1: Defnyddio’r Iaith

Gosodir y cwestiynau canlynol:

a) Llunio brawddegau i ddangos yn eglur ystyron geiriau tebyg a phriod-ddulliau.

b) Cywiro gwallau mewn brawddegau. Bydd y gwallau eisioes wedi’u tanlinellu. Ni fydd yn rhaid rhoi esboniad am y gwall.

c) Addasu darn ysgrifenedig trwy newid amser y ferf neu’r cywair i gyfateb â’r gynulleidfa. Rhoddir cyfres o frawddegau a gofynnir i’r ymgeiswyr eu gosod ar ffurf paragraff drwy newid amser y ferf.

Gellir ystyried defnyddio’r llyfr Cymraeg Da (Heini Gruffudd) wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn. Er mwyn gallu ateb y cwestiynau hyn disgwylir i ymgeiswyr wybod, deall a gallu defnyddio’r canlynol: Priod-ddulliau

ar ben arllwys y glaw ar y blaen heb flewyn ar dafod bob amser wrth ei fodd bwrw'r Sul unwaith ac am byth ar gael cael dau ben llinyn ynghyd cael ei weld mae hi wedi canu arna i celwydd golau uchel ei gloch gwenu o glust i glust codi bwganod dysgu ar gof ar ei golled

fel y graig crynu yn ei sgidiau ar bob cyfrif ar gyfyl y lle cymryd at cyn bo hir mae'n dda ganddo fe dal ati nesa peth i ddim ar bigau'r drain o ddrwg i waeth mynd i'r afael â gair am air gwneud ei orau glas o'r golwg gorau po gynta gwell hwyr na hwyrach a'i wynt yn ei ddwrn

Page 13: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 13

ddim hanner call mae hiraeth arno lladd amser llaesu dwylo ail law man a man yn awr ac yn y man pwyso a mesur celwydd noeth codi ofn ar ar ben ei gilydd ar ei ben ei hun mae hi ar ben hen bryd rhag ofn rhoi'r gorau i dal ei dafod o dipyn i beth dweud y drefn wrth dro ar ôl tro gwneud y tro uwchben ei ddigon wyneb i waered yma ac acw yn sgil Geiriau tebyg

a / ac; â / a; ac / ag; adnabod / gwybod; adre / gartre; ar / a’r / â’r; bai / bae; cau / cae; cana / canai; Cymraeg / Cymreig; Cymru / Cymry; ei / eu; ffôn / ffon ; gem / gêm; glan / glân; hun / hyn / hþn; i’w / yw; lliw / llyw; melin / melyn; Mor / môr; nac / nag; nith / nyth; pa / pwy ; parhaus / parhaol; prif / pryf; prydau / prydiau; sir / sur; sudd / sydd; tal / tâl; tan / tân; ti / tþ ; ton / tôn; tonnau / tonau.

Ffurfiau Berfol

Y Ferf Bod

rwy'n / rydw i Presennol rydw i wedi Perffaith rydw i wedi bod Perffaith parhaol roeddwn i Amherffaith roeddwn i wedi Gorberffaith roeddwn i wedi bod Gorberffaith parhaol byddwn i Amhenodol bydda i Dyfodol bûm / bues Gorffennol

Page 14: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 14

Berfau eraill ( ffurfiau cwmpasog, presennol ac amhersonol)

rwy'n clywed Presennol bydda i’n gobeithio Dyfodol rydw i wedi clywed Perffaith roeddwn i’n cysgu Amherffaith byddwn yn chwerthin Amhenodol byddwn i wedi prynu Amhenodol perffaith byddwn i wedi bod yn cerdded Amhenodol perffaith parhaol bûm / bues i’n darllen Gorffennol roeddwn i wedi gweld Gorberffaith dere / tyrd / ewch Gorchmynnol

(ail un. ac ail llu.) Berfau diffygiol

dylwn, perthyn, piau , dyma, dacw, dyna.

Enwau

Ffurfiau unigol a lluosog, gwrywaidd a benywaidd Rhifolion a threfnolion

tri deg plentyn Dull degol pum munud ar hugain i un ar ddeg Dull traddodiadol y rhifolion ar gyfer deunaw punt amser ac arian (11-25 yn unig) pymthegfed Y trefnolion un gair tri bachgen a thair merch Ffurfiau gwrywaidd a benywaidd dwy flynedd , dwy flwydd Rhifolion + blwyddyn

Is- gymalau

Rwy’n gwybod dy fod wedi gadael Cymalau enwol gyda ffurfiau bod Dyna’r ferch sy’n canu Cymalau ansoddeiriol gyda ffurfiau cwmpasog y

ferf. Cymalau adferfol ar ôl : pan , tra , pryd y ,fel y , ag / nag y , trwy , wrth , ar ôl , nes y , cyn , erbyn, rhag ofn , o achos , oherwydd.

Page 15: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 15

Arddodiaid Clywais amdani hi bod yn garedig wrth talu am, siarad â, cyffwrdd â ar glo, ar fyr rybudd, ar goll (gweler is-gymalau adferfol)

Rhedeg a defnyddio arddodiaid Ansoddeiriau + arddodiaid Enwau + arddodiaid Berfau + arddodiaid Arddodiaid mewn ymadroddion aml eu defnydd Cystrawennau aml eu defnydd yn dilyn arddodiaid

Ansoddeiriau afal coch, hen ysgol stori fer, y bechgyn eraill, mwyar duon eithaf da, bron cystal mor dawel, tawelach, tawelaf yn gryf fel ceffyl Cysgwch yn dawel

Safle arferol yr ansoddair + y prif eithriadau Ffurfiau benywaidd a lluosog aml eu defnydd Goleddfu ansoddeiriau Cymharu ansoddeiriau - pob gradd ond gan ddefnyddio mor yn unig yn y radd gyfartal Cyffelybiaethau Ansoddeiriau fel adferfau

Rhagenwau fi, ti fy, dy i, di hwn, hon, hyn, yma, yna, acw Pwy? Pa? fy hun, dy hun

Rhagenwau syml Rhagenwau blaen Rhagenwau ategol Rhagenwau dangosol Rhagenwau gofynnol Rhagenwau atblygol

Adferfau ddoe, eleni, heno, weithiau

Adferfau amser cyffredin

Y Treigladau Y Treiglad Meddal – enwau , ansoddeiriau a berfau. Y Treiglad Trwynol Y Treiglad Llaes. Disgwylir i ymgeiswyr allu defnyddio holl ffurfiau’r arddodiaid a rhagenwau a ddefnyddir mewn priod-ddulliau (e.e. ar ei ben ei hun, ar dy ben dy hun ac ati) yn ogystal â defnyddio ffurfiau negyddol a gofynnol y berfau a restrir.

Page 16: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 16

Cwestiwn 2: Barddoniaeth

Nodir isod enwau’r cerddi i’w hastudio. (Daw’r cerddi i gyd o’r gyfrol Sbectol Inc.)

Gosodir cwestiwn ar y farddoniaeth isod. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i ymgeiswyr drin y materion canlynol: cynnwys y cerddi, themâu, arddull ac agwedd y bardd at fywyd. Yn ogystal disgwylir i’r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beiriniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn briodol.

Wrth drafod y farddoniaeth dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth i’r pwrpas a’r gynulleidfa. • Y Ffatri’n Cau – Gwyn Thomas • Gail Fu Farw – Nesta Wyn Jones • Er Cof am Kelly – Menna Elfyn • Diwrnod y Gêm Genedlaethol – Myrddin ap Dafydd • Mae gen i freuddwyd – Gwyn Thomas • Atomfa – Einir Jones • Cilmeri – Gerallt Lloyd Owen

Bydd gan y Bwrdd yr hawl i newid y cerddi a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.

3.3 Uwch 2

CA4 - Y Ddrama a Llafaredd - Arholiad Llafar terfynol (tua 3/4 awr) Nodiadau i Athrawon • Asesiad allanol yw hwn. Er hynny dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl yn fewnol

yn ystod y flwyddyn. • Bydd yr arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod tymor yr haf. Defnyddir

asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo’r arholwr, ond gan yr arholwr yn unig y bydd yr hawl i bennu marciau terfynol yr ymgeiswyr.

• Arholir yr ymgeiswyr mewn parau/grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd. Dewisir y grwpiau yn ôl gallu’r ymgeiswyr neu ddoethineb yr arholwr. Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lle ceir grwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua thri chwarter awr. Dyfernir marciau allan o 35.

Lle bo angen • sbarduno trafodaeth; • hybu newid cyfeiriad y drafodaeth; • gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl; • sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb. Wrth asesu’r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i arddangos gwybodaeth benodedig o’r ddrama a’i chefndir, gwrando’n astud ar eraill, codi cwestiynau, datblygu safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau. Yn ogystal ystyrir eu gallu i lefaru’r iaith yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan ystyried y pwrpas a’r gynulleidfa.

Page 17: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 17

Trefn yr arholiad A. Cynhesu’r disgyblion trwy drafod y diwylliant cyfoes amlgyfrwng yng Nghymru.

Disgwylir i’r ymgeiswyr allu trafod y meysydd canlynol: • y theatr • darlledu ar radio a theledu • ffilm • newyddiaduraeth Gymraeg • cylchgronau (megis Golwg) • papurau newydd Cymraeg (megis y papur bro lleol, Y Cymro) Dylid cyflwyno’r uchod yn rheolaidd i’r ymgeiswyr a sicrhau bod pob un yn gallu mynegi barn am eu cynnwys a’u diwyg gan fanylu ar erthyglau a astudiwyd ganddynt.

B. Trafod drama Saunders Lewis: Siwan Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr ymdrin â rhai o’r pynciau a ganlyn: • dadansoddi cymeriadau, olrhain eu datblygiad a chymharu cymeriadau â’i gilydd; • manylu ar olygfeydd allweddol; • damcaniaethu ynglþn â bwriadau’r dramodydd • manylu ar y themâu a geir yn y ddrama • mynegi barn ac ymateb i’r gwaith fel cyfanwaith; Bydd rhyddid gan ymgeiswyr gyfeirio at ddramau eraill ac at lenyddiaeth a ddarllenwyd. Dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth yn briodol.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ymateb yn bersonol yn ogystal â thrafod dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol), a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth yn briodol.

C. Bydd yr arholwr hefyd yn gofyn cwestiwn i’r ymgeiswyr a fydd yn mynnu eu bod yn arddangos ac yn cymhwyso dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y Gymraeg drwy gyfuno a chyd-gysylltu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc. (Asesiad Synoptig)

Bydd gan y Bwrdd yr hawl i newid y ddrama a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.

Page 18: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 18

CA5 – Y Stori Fer a Thrawsieithu (gan gynnwys Ysgrifennu Personol) (Arholiad Ysgrifenedig – 2 awr)

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o’r straeon yn yr arholiad.

Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.

Cwestiwn 1 : Y Stori fer.

Dylai ymgeiswyr arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r straeon canlynol yn y gyfrol Saith Pechod Marwol : Mihangel Morgan

• Pwy Fyth a Fyddai’n Fetel • Derfydd Aur • Mi Gerddaf, Mi Godaf • Pe Bai’r Wyddfa i Gyd yn Gaws

Y nod yw dysgu’r sgil o werthfawrogi ystod o straeon. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i ymgeiswyr drin a thrafod y materion canlynol : cynnwys y straeon, themâu ac arddull yr awdur. Yn ogystal, disgwylir i ymgeiswyr ysgrifennu’n bersonol ar bwnc fydd yn codi’n benodol o’r straeon.

Yn y cwestiwn hwn, disgwylir i ymgeiswyr ddadansoddi’n feirniadol a chyfleu ymateb personol i gynnwys y straeon gan ddefnyddio termau addas. Wrth drafod y straeon felly, dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth i’r pwrpas a’r gynulleidfa.

Bydd gan y Bwrdd yr hawl i newid y straeon a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.

Cwestiwn 2 : Trawsieithu

Gofynnir i’r ymgeiswyr ddarllen deunydd Saesnaeg ac ymateb i’r deunydd hwnnw drwy ysgrifennu yn y Gymraeg. Gellir gofyn am ymateb ar ffurf llythyr, erthygl neu lunio taflen wybodaeth. Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddeall a dehongli’r cynnwys ac yna fynegi barn ar y testun. Disgwylir iddynt fod yn ymwybodol o’r gynulleidfa y maent yn ysgrifennu ar ei chyfer. Ni ddylid cyfieithu’r darnau. Bydd y darnau darllen yn ymwneud â naill ai newyddion y dydd, neu faterion cyfoes neu ddelwedd o Gymru a’r byd. Gellir darllen erthyglau yn y gwahanol gylchgronau a hefyd drawsysgrifau rhaglenni materion cyfoes ar y radio/teledu wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn.

Page 19: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 19

CA6 – Defnyddio’r Iaith a Gwerthfawrogi Barddoniaeth (Arholiad Ysgrifenedig terfynol – 2 awr) Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o’r cerddi yn yr arholiad. Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn. Adran A: Defnyddio’r Iaith Gosodir y cwestiynau canlynol: (a) llunio brawddegau i ddangos yn eglur ystyr a defnydd ffurfiau berfol a chymalau

arbennig;

(b) cyfieithu i’r Gymraeg frawddegau yn cynnwys eitemau iaith penodol;

(c) cyfuno parau o frawddegau syml i ffurfio brawddegau cymhleth.

Disgwylir i ymgeiswyr wybod, deall, a gallu defnyddio’r canlynol yn ychwanegol at y rhai a restrwyd yn CA3:

Berfau

Ffurfiau Bod

byddaf Presennol arferiadol byddwn wedi mynd Amhenodol perffaith byddwn wedi bod yn rhedeg Amhenodol perffaith parhaol byddaf wedi paratoi Dyfodol perffaith byddaf wedi bod yn cystadlu Dyfodol perffaith parhaol pe bawn / pe bai / oni bai Y modd dibynnol (mewn priod-ddulliau a

chystrawennau cyffredin aml eu defnydd) Berfau eraill - ffurfiau cryno, personol ac amhersonol

clywaf Presennol byddaf yn gobeithio Presennol arferiadol gobeithiaf Dyfodol darllenwn Amhenodol gofynnais Gorffennol

Berfau diffygiol gorfod, geni Enwau

cyngor, cynghorion, cynghorau Enwau â dau ystyr i’r unigol ond â dwy ffurf wahanol yn y lluosog

Rhifolion a threfnolion

deg plentyn ar hugain Dull traddodiadol

Page 20: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 20

Arddodiaid

er ei mwyn hi Rhedeg a defnyddio arddodiaid cyfansawdd Ansoddeiriau

dyn unig / unig ddyn Newid safle’r ansoddair yn newid ystyr oer / oeraidd Ansoddeiriau tebyg ond ystyr gwahanol y tlodion Ansoddeiriau fel enwau cyn gynted, cyn lleied, cyn ddued â Ffurfiau cyfartal cyn + ansoddair mewn cystal â ymadroddion aml eu defnydd gan gynnwys ffurfiau

afreolaidd wedi blino’n lân Ansoddeiriau mewn priod- ddulliau rhoi’r gorau i mynd o ddrwg i waeth

Rhagenwau

minnau Rhagenwau cysylltiol o ran hynny, o hyn allan Ymadroddion yn cynnwys rhagenwau dangosol gilydd naill…..llall pawb / pob, holl Rhagenwolion

Adferfau

o’r diwedd , i fyny , ar frys Adferfau yn dilyn arddodiaid Is-gymalau

Rwy’n gwybod iddo adael Cymalau enwol a gyflwynir gan y/ yr, i, na, mai Dyna’r ferch a ganodd Cymalau perthynol gyda ffurfiau cryno’r ferf

Cymalau adferfol ar ôl : er, pan, os, pe, oni, lle y, wedi, er mwyn, gan, am, er, ers, oblegid, oddi ar, serch

Geiriau tebyg a phriod-ddulliau

parod ei gymwynas, byr ei dymer, Geiriau tebyg a phriod-ddulliau llai aml eu torchi llewys defnydd

Page 21: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 21

Adran B: Gwerthfawrogi Barddoniaeth (asesiad synoptig)

Nodir isod enwau’r cerddi i’w hastudio’n ychwanegol at y rhai a astudiwyd yn y cwrs Uwch Gyfrannol. Wrth ateb y cwestiwn a osodir disgwylir i ymgeiswyr ddadansoddi’n feirniadol a chyfleu ymateb personol i gynnwys y gerdd. Wrth drafod y farddoniaeth dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth i’r pwrpas a’r gynulleidfa. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i ymgeiswyr drin y materion canlynol: cynnwys y cerddi, themâu, arddull ac agwedd y bardd at fywyd. Yn ogystal disgwylir i’r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn briodol. Y Cerddi Gwyrddni – Grahame Davies (Adennill Tir (Barddas)) Etifeddiaeth – Gerallt Lloyd Owen (Yn Fyw Mewn Geiriau (Canolfan Astudiaethau Iaith -CAI) – tudalen 28) Hon – T.H. Parry Williams (Yn Fyw Mewn Geiriau (CAI) – tudalen 25) Cymru – Gwenallt (Paham y rhoddaist inni’r tristwch hwn,)(Yn Fyw Mewn Geiriau (CAI) – tudalen 24) Gwerth – Ifor ap Glyn (Bol a Chyfri’ Banc (Carreg Gwalch) – tudalen 80)

Asesiad synoptig Bydd y cwestiwn hwn yn ogystal yn mynnu bod ymgeiswyr yn arddangos ac yn cymhwyso dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y Gymraeg drwy gyfuno a chyd-gysylltu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc.

Page 22: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 22

4 SGILIAU ALLWEDDOL

Sgiliau allweddol yw'r sgiliau generig a all helpu myfyrwyr i wella'u dysgu a'u perfformiad

mewn addysg a hyfforddiant, gwaith a bywyd yn gyffredinol. Yn y fanyleb hon ceir gwybodaeth am sgiliau allweddol ar lefel 2 mewn cyfathrebu a lefel 3

mewn technoleg gwybodaeth. O'u hychwanegu at y sgil allweddol cymhwyso rhif, gellir cyfuno'r unedau i ennill

Cymhwyster Sgiliau Allweddol. I ennill y cymhwyster hwn rhaid i fyfyrwyr ddangos fod ganddynt y sgiliau angenrheidiol drwy gyflwyno portffolio o dystiolaeth a gasglwyd yn ystod eu hastudiaethau o ddydd i ddydd, eu gwaith neu weithgareddau eraill, ynghyd ag asesiad annibynnol allanol o fath priodol.

Y mae hefyd unedau'n ymwneud â'r sgiliau allweddol ehangach sy'n gysylltiedig â gweithio

gydag eraill, gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun a datrys problemau (gweler Atodiad 1).

4.1 Cyfathrebu

Rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol:

• Cyfrannu tuag at drafodaeth ynglþn â phwnc syml

• Rhoi sgwrs fer ynglþn â phwnc syml, gan ddefnyddio llun.

• Darllen a chrynhoi gwybodaeth o ddwy ddogfen estynedig ynglþn â phwnc syml. Dylai un o’r dogfennau gynnwys o leiaf un llun.

• Ysgrifennu dwy ddogfen o fath gwahanol ynglþn â phynciau syml. Rhaid i un

darn o ysgrifennu fod yn ddogfen estynedig, a dylai gynnwys o leiaf un llun. 4.2 Technoleg Gwybodaeth Rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol:

• Cynllunio a defnyddio ffynonellau gwahanol i geisio a dewis gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer dau bwrpas gwahanol.

• Archwilio, datblygu a chyfnewid gwybodaeth, a chreu gwybodaeth newydd ar

gyfer dau bwrpas gwahanol.

• Cyflwyno gwybodaeth o ffynonellau gwahanol ar gyfer dau bwrpas gwahanol a dwy gynulleidfa wahanol. Rhaid i’r gwaith gynnwys o leiaf un enghraifft o destun, un enghraifft o luniau ac un enghraifft o rifau.

Page 23: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 23

4.3 Datrys Problemau

Rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol: 1. Archwilio problem gymhleth, canfod tri opsiwn ar gyfer ei datrys a chyfiawnhau’r opsiwn y dewiswyd ei weithredu. 2. Cynllunio a gweithredu o leiaf un opsiwn ar gyfer datrys y broblem, adolygu

cynnydd a diwygio’r dulliau gweithredu yn ôl yr angen.

3. Defnyddio dulliau cytunedig i wirio a yw’r broblem wedi cael ei datrys, disgrifio’r canlyniadau, ac adolygu’r dulliau o ddatrys problemau.

4.4 Gweithio gydag eraill

Rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol: 1. Cynllunio gwaith cymhleth gydag eraill, gan gytuno ar yr amcanion, y

cyfrifoldebau a’r trefniadau gweithio. 2. Ceisio sefydlu a chynnal perthynas waith gydweithredol dros gyfnod estynedig,

gan gytuno ar newidiadau er mwyn cyflawni amcanion cytunedig.

3. Adolygu gweithio gydag eraill a chytuno ar ffyrdd o wella gwaith cydweithredol yn y dyfodol.

4.5 Gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun

Rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol: 1. Cytuno ar dargedau a chynllunio sut i’w cyrraedd dros gyfnod estynedig, gan

ddefnyddio cefnogaeth oddi wrth bobl briodol.

2. Cymryd cyfrifoldeb am y dysgu drwy ddefnyddio’r cynllun a cheisio adborth a chefnogaeth o ffynonellau perthnasol i’w helpu i gyrraedd targedau.

Gwella perfformiad drwy:

• astudio pwnc cymhleth; • dysgu drwy weithgaredd ymarferol cymhleth; • astudiaeth neu weithgaredd ymarferol pellach sy’n golygu astudio’n

annibynnol.

3. Adolygu cynnydd ar ddau achlysur a sicrhau tystiolaeth o gyflawniadau, gan gynnwys sut y defnyddiwyd dysgu yn sgîl tasgau eraill i ateb gofynion newydd.

Ceir rhai awgrymiadau sut y gellid cynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad mewn Sgiliau Allweddol gan fyfyrwyr sy’n astudio’r fanyleb hon yn yr Atodiad Sgiliau Allweddol.

Page 24: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 24

5 AMCANION ASESU

Amcanion Asesu Pwysoli AA1 Defnyddio iaith lafar

• Llefaru’r iaith yn gywir ac yn raenus, gan fabwysiadu’r cywair

ieithyddol priodol yn ôl y cyd-destun; • Gwrando’n astud ar gyfraniadau gan eraill, er mwyn codi

cwestiynau a datblygu safbwyntiau a syniadau’n gytbwys; • Rhyngweithio, crynhoi a dod i gasgliadau teg.

20 – 30%

AA2 Ymateb i destunau • Arddangos gwybodaeth o destunau penodedig a’u cefndir, eu

dehongli a mynegi barn arnynt gan drafod a gwerthuso deongliadau eraill; gwerthfawrogi gwahanol ffurfiau llenyddol;

• Cyfleu ymateb i destunau llenyddol, llunyddol a ffeithiol yn

gydlynus gan ddewis a dethol deunydd perthnasol a’i ddehongli; cyfeirio’n benodol at y testun gwreddiol gan gyfiawnhau’r cyfeiriad.

Hefyd, bydd pob ymgeisydd Safon Uwch yn: • Cyfuno, cymharu a gwerthuso gwybodaeth a gyflwynir drwy

wahanol gyfryngau, croesgyfeirio o’r naill destun i’r llall, crynhoi a dod i gasgliad cytbwys.

25 - 35%

AA3 Defnyddio iaith ysgrifenedig • Ysgrifennu’n gywir, yn eglur ac yn raenus gan arddangos ystod

o adnoddau iaith; defnyddio gwybodaeth o ramadeg yn effeithiol mewn amryfal gyd-destunau;

• Dangos ymwybyddiaeth o wahanol gyweiriau iaith a defnyddio

iaith yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd ac at wahanol ddibenion.

45 - 55%

Page 25: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 25

6 CYNLLUN ASESU

6.1 Uwch Gyfrannol

Mae’r cynllun hwn yn cynnwys tair uned: CA1: Y Ffilm a Llafaredd – Arholiad llafar CA2: Gwaith Cwrs ysgrifenedig - Asesiad mewnol CA3: Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth – Arholiad ysgrifenedig Yn nhymor yr haf yn unig y gellir sefyll yr arholiadau uchod a chyflwyno’r gwaith cwrs.

CA1 – Y Ffilm a Llafaredd - Arholiad Llafar – 40% UG (20% Safon Uwch) Cwestiwn AA1 AA2 AA3 Trafod y cyfryngau 10 Trafod ffilm 5 15 Trafod pwnc 10 Cyfanswm 25 15 CA2 – Gwaith Cwrs Ysgrifenedig - Asesiad Mewnol – 30% UG (15% Safon Uwch) Tasg AA1 AA2 AA3 Pecyn Gwybodaeth ar destun arbennig

30%

Cyfanswm 30% CA3 – Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth – Arholiad Ysgrifenedig – 30% UG (15% Safon

Uwch) Cwestiwn AA1 AA2 AA3 Defnyddio’r Iaith 15 Barddoniaeth 10 5 Cyfanswm 10 20

Page 26: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 26

Asesir y nodau asesu yn y cwrs Uwch Gyfrannol fel a ganlyn. UNED A.A.1 A.A.2 A.A.3 100% (UG) 50% (UWCH) CA1 – Arholiad Llafar

25% 15% 40% 20%

CA2 – Asesiad Mewnol

30% 30% 15%

CA3 – Arholiad Ysgrifenedig

10% 20% 30% 15%

6.2 Safon Uwch

Mae’r cynllun hwn yn cynnwys dwy ran: Rhan 1 (Uwch Gyfrannol) a Rhan 2 (Uwch 2). Gellir cymryd yr Uwch Gyfrannol ar wahân a’i ychwanegu at Uwch 2 yn ddiweddarach neu fe ellir cymryd Uwch Gyfrannol ac Uwch 2 gyda’i gilydd. Mae i’r Uwch Gyfrannol bwysiad o 50% o’i drosglwyddo at ddyfarniad Safon Uwch. Rhan 1: Uwch Gyfrannol – gweler y manylion ym mharagraff 6.1 uchod. Rhan 2: Uwch 2 Mae’r cynllun yn cynnwys tair uned: CA4: Y Ddrama a Llafaredd - Arholiad Llafar terfynol (asesiad synoptig) CA5: Y Stori Fer a Thrawsieithu (gan gynnwys Ysgrifennu Personol) - Arholiad

Ysgrifenedig CA6: Defnyddio’r Iaith a Gwerthfawrogi Barddoniaeth - Arholiad Ysgrifenedig

terfynol (asesiad synoptig)

Yn nhymor yr haf yn unig y gellir sefyll yr arholiadau uchod. UNED 4 – Y Ddrama - Arholiad Llafar Terfynol (asesiad synoptig)

35% U2 (17.5% Safon Uwch) Asesiad synoptig (15% = 7.5%) Cwestiwn AA1

AA2

AA3

Trafod y cyfryngau 5 Trafod drama 5 10 Asesu Synoptig 10 5

Cyfanswm 20 15 UNED 5 – Y Stori fer a Thrawsieithu - Arholiad Ysgrifenedig – 30% U2 (15% Safon Uwch) Cwestiwn AA1 AA2 AA3 Stori fer 10 5 Trawsieithu 15

Cyfanswm 10 20

Page 27: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 27

UNED 6 – Defnyddio’r Iaith a Gwerthfawrogi Barddoniaeth - Arholiad Ysgrifenedig Terfynol – 35% U2 (17.5% Safon Uwch) – Asesiad synoptig (25% = 12.5%)

Cwestiwn AA1 AA2 Asesu

Synoptig AA3

Asesu Synoptig

Defnyddio’r Iaith 20 (20) Barddoniaeth 10 (5) 5

Cyfanswm 10 (5) 25 (20) Asesir y nodau asesu yn y cwrs Uwch Gyfrannol fel a ganlyn.

UNED

A.A.1 A.A.2 A.A.3 100% (U2) 50% (UWCH)

CA4 – Arholiad Llafar terfynol

20% 15% 35% 17.5%

CA5 – Arholiad Ysgrifenedig

10% 20% 30% 15%

CA6 – Arholiad Ysgrifenedig terfynol

10% 25% 35% 17.5%

6.3 Asesu Synoptig

Bydd asesu synoptig yn mynnu bod ymgeiswyr yn datblygu, yn arddangos ac yn cymhwyso dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y Gymraeg drwy gyfuno a chyd-gysylltu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc. Bydd asesu synoptig yn ymwneud â: • siarad yr iaith yn gywir ac yn huawdl, gan ddefnyddio’r cywair ieithyddol

priodol, a chan grynhoi a thynnu casgliad cytbwys (AA1); • cyd-gysylltu a gwerthuso yn groyw y mewnwelediadau a geir trwy astudio ystod

o destunau a gyflwynwyd trwy amrywiol gyfryngau (AA2); • cynhyrchu ystod o waith ysgrifenedig sy’n fanwl gywir, wedi’i strwythuro yn dda

ac yn addas i’r pwrpas (AA3).

Lleolir yr asesu synoptig yn unedau CA4 a CA6. 6.4 Pwysoli'r Amcanion Asesu

Asesir yr Amcanion Asesu yn y gwahanol unedau fel a ganlyn:

UWCH GYFRANNOL UWCH 2 Amcan Asesu

CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 CA6 Cyfanswm

A.A.1 12.5 10 22.5 A.A.2 7.5 5 7.5 5 5 30 A.A.3 15 10 10 12.5 47.5 Cyfanswm 20 15 15 17.5 15 17.5 100

Page 28: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 28

7 DISGRIFIADAU GRADDAU

Mae’r disgrifiadau graddau canlynol yn dangos lefel cyrhaeddiad sy’n nodweddu’r radd a

ddyfernir ar gyfer Safon Uwch. Maent yn rhoi arwydd cyffredinol o’r canlyniadau dysgu angenrheidiol ar gyfer pob gradd a nodir. Dylid dehongli’r disgrifiadau mewn perthynas â’r cynnwys a bennir yn y fanyleb; ni chafodd y disgrifiadau graddau eu llunio i ddiffinio’r cynnwys hwnnw. Bydd y radd a ddyfernir yn dibynnu’n ymarferol ar i ba raddau y mae’r ymgeisydd wedi bodloni’r amcanion asesu yn gyffredinol. Gall diffygion mewn rhai agweddau o’r arholiad gael eu cydbwyso gan berfformaiadau gwell mewn agweddau eraill.

Gradd A

Bydd ymgeiswyr yn cydadweithio ag eraill yn hyderus ac yn effeithiol ac yn arddangos blaengaredd wrth gynnal ac ymestyn y drafodaeth yn ddeallus ac yn ddigymell. Byddant yn ymateb i gyfraniadau eraill yn llawn ac yn aeddfed gan ymresymu’n berthnasol ac yn dreiddgar. Bydd ymgeiswyr yn mynegi barn yn huawdl ac yn ei chefnogi â rhesymau treiddgar. Byddant yn ynganu’n gywir ac yn glir wrth ddefnyddio cystrawen lafar naturiol ac adnoddau iaith eang a phriodol. Bydd ymgeiswyr yn arddangos gwybodaeth eang a manwl-gywir o’r testunau, yn crynhoi ffeithiau perthnasol ac yn dangos iddynt eu deall drwy eu cyflwyno’n gywir ac yn gydlynus a thrwy groesgyfeirio rhwng gwahanol agweddau’r pwnc yn ôl yr angen. Byddant yn arddangos dealltwriaeth gadarn o’r cysyniadau gan ddadansoddi ac ymresymu’n dreiddgar. Bydd ymgeiswyr yn datblygu ac yn ehangu syniadau yn drefnus, yn defnyddio dyfyniadau yn effeithiol ac yn cyflwyno dadleuon gwreiddiol gan ymateb yn aeddfed ac yn dreiddgar. Wrth ysgifennu, bydd ymgeiswyr yn mynegi’u hunain yn aeddfed, yn glir ac yn gywir, mewn gwahanol sefyllfaoedd ac at wahanol ddibenion. Byddant yn saernïo’u gwaith yn ofalus ac yn rhoi sylw gofalus i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrywio’r arddull yn sensitif. Byddant yn mynegi barn yn hyderus ac yn rymus. Bydd ymgeiswyr yn arddangos amrywiaeth eang iawn o adnoddau iaith a gafael gadarn ar ramadeg a chystrawen. Gradd C Bydd ymgeiswyr yn cydadweithio ag eraill yn effeithiol gan ddangos parodrwydd i ymestyn y sgwrs ac i ymateb i gyfraniadau eraill yn llawn ac yn berthnasol. Byddant yn mynegi barn yn effeithiol ac yn ei chefnogi â thystiolaeth yn gyson. Byddant yn ynganu’n glir wrth ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau iaith yn llwyddiannus. Bydd ymgeiswyr yn arddangos gwybodaeth helaeth o’r testunau, yn crynhoi ffeithiau perthnasol, yn eu cyflwyno’n glir ac yn gydlynus gan groesgyfeirio rhwng rhai o wahanol agweddau’r pwnc. Byddant yn arddangos dealltwriaeth o’r cysyniadau gan ymresymu’n effeithiol. Bydd ymgeiswyr yn datblygu ac yn ehangu’r prif syniadau’n drefnus, yn defnyddio dyfyniadau addas ac yn cyflwyno’u dadleuon yn ddeallus ac yn ddychmygus.

Page 29: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG 29

Wrth ysgrifennu, bydd ymgeiswyr yn mynegi’u hunain yn glir ac yn gywir, mewn gwahanol sefyllfaoedd ac at wahanol ddibenion. Byddant yn cynllunio’u gwaith yn ofalus ac yn rhoi sylw i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrywio’r arddull. Byddant yn mynegi barn yn effeithiol ac yn ei chefnogi â thystiolaeth berthnasol. Bydd ymgeiswyr yn arddangos amrywiaeth o adnoddau iaith a gafael dda ar ramadeg a chystrawen.

Gradd E

Bydd ymgeiswyr yn cydadweithio ag eraill ac yn cynnig sylwadau perthnasol. Byddant yn ymateb yn syml i gyfraniadau eraill ac yn mynegi barn uniongyrchol yn glir. Byddant yn defnyddio ystod o eirfa a phatrymau sylfaenol yn effeithiol ac yn ynganu’n ddealladwy. Bydd ymgeiswyr yn arddangos gwybodaeth o gynnwys testunau drwy gyflwyno ffeithiau perthnasol a chymharu. Wrth ddatblygu syniadau byddant yn cyfeirio at rai elfennau penodol yn y gweithiau a drafodir. Byddant yn cyflwyno’u dadleuon yn syml ac yn dyfynnu o’r testunau’n achlysurol. Wrth ysgrifennu testunau uniongyrchol, bydd ymgeiswyr yn mynegi’u hunain yn glir ac yn gywir ar y cyfan. Byddant yn arddangos peth ymwybyddiaeth o drefn, dilyniant a chywair wrth gyflwyno’u gwaith. Byddant yn mynegi barn ac yn ei chefnogi â rhesymau dilys gan ddefnyddio ystod o eirfa a phatrymau addas.

Page 30: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 30

ENGHREIFFTIO SGILIAU ALLWEDDOL

Mae'r tablau canlynol yn rhoi rhai enghreifftiau o gyd-destunau Cymraeg Ail Iaith lle y gellid crynhoi tystiolaeth o sgiliau allweddol sy'n digwydd yn naturiol. Sylwer: Os yw cynhyrchu rhai mathau o dystiolaeth yn creu anawsterau oherwydd anabledd neu ffactorau eraill, gall yr ymgeisydd ddefnyddio dulliau eraill i ddangos cyrhaeddiad. Dylai'r ymgeisydd ofyn i'r athro neu'r goruchwyliwr am wybodaeth bellach.

CYFATHREBU: LEFEL 2

C2.1a CYFRANNU AT DRAFODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

cyfrannu at drafodaeth ar bwnc syml.

• gwneud cyfraniadau clir a pherthnasol mewn modd sy’n addas i'r pwrpas a'r sefyllfa

• gwrando ac ymateb yn briodol i'r hyn mae pobl eraill yn ei ddweud

• helpu i symud y drafodaeth yn ei blaen.

Cofnod gan aseswr a fu'n arsylwi'r drafodaeth ac a nododd sut yr oedd yr ymgeisydd wedi cwrdd â gofynion yr Uned, neu dâp sain/fideo o'r drafodaeth.

Trafod y cyfryngau Cymraeg: CA1.

C2.1b RHOI SGWRS FER

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

rhoi sgwrs fer ar bwnc syml, gan ddefnyddio delwedd.

• siarad yn glir mewn modd sy’n addas i'r pwnc, y pwrpas a'r sefyllfa;

• cadw at y pwnc a strwythuro'r sgwrs er mwyn helpu'r gwrandawyr i ddilyn yr hyn y mae'r ymgeisydd yn ei ddweud

• defnyddio delwedd er mwyn dangos y prif bwyntiau yn glir.

Cofnod gan aseswr a fu'n arsylwi'r drafodaeth, neu dâp sain/fideo o'r sgwrs. Nodiadau a wnaed wrth baratoi a thraddodi'r sgwrs. Copi o'r ddelwedd a ddefnyddiwyd.

Rhoi sgwrs fer ar un o gerddi CA3.

C2.2 CASGLU GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

darllen a chrynhoi gwybodaeth o ddwy ddogfen estynedig ar bwnc syml. Dylai un o'r dogfennau gynnwys o leiaf un ddelwedd.

• dethol a darllen deunydd perthnasol

• nodi'n glir y rhesymeg a'r prif bwyntiau mewn testun a delweddau

• crynhoi'r wybodaeth fel ei bod yn addas i'r pwrpas.

Cofnod o'r hyn a ddarllenwyd a pham, gan gynnwys copi o'r ddelwedd. Nodiadau, testun wedi'i amlygu neu atebion i gwestiynau am y deunydd a ddarllenwyd. Gallai tystiolaeth o grynhoi gwybodaeth gynnwys nodiadau'r ymgeisydd ar gyfer y sgwrs neu un o'r dogfennau a ysgrifennwyd.

Dethol a chrynhoi gwybodaeth ar gyfer llunio’r Pecyn Gwybodaeth – CA2.

Page 31: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 31

C2.3 YSGRIFENNU

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

ysgrifennu dau wahanol fath o ddogfen ar bynciau syml. Dylai un darn fod yn ddogfen estynedig sy'n cynnwys o leiaf un ddelwedd

• cyflwyno gwybodaeth berthnasol mewn ffurf briodol

• defnyddio strwythur ac arddull ysgrifennu sy’n addas i'r pwrpas

• sicrhau bod y testun yn ddarllenadwy, a bod y sillafu, yr atalnodi a’r ramadeg yn gywir fel bod yr ystyr yn glir.

Gall y ddwy ddogfen wahanol gynnwys adroddiad neu draethawd, gyda delwedd megis siart, graff neu ddiagram, llythyr busnes neu nodiadau.

Ysgrifennu dwy o’r ffurfiau gwahanol y gofynnir amdanynt ar gyfer Pecyn Gwybodaeth CA2.

Page 32: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 32

CYFATHREBU: LEFEL 3

C3.1a CYMRYD RHAN MEWN TRAFODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

cyfrannu at drafodaeth grðp ar bwnc cymhleth.

• gwneud cyfraniadau clir a pherthnasol

• gwrando ac ymateb yn briodol

• creu cyfleoedd i eraill gymryd rhan pan fo’n briodol.

Cofnod gan rywun sydd wedi arsylwi'r drafodaeth neu sydd wedi gwneud tâp sain/fideo o'r drafodaeth.

Trafod y diwylliant cyfoes aml gyfrwng yng Nghymru: CA4.

C3.1b GWNEUD CYFLWYNIAD

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

Gwneud cyflwyniad ar bwnc cymhleth, gan ddefnyddio o leiaf un ddelwedd i egluro pwyntiau cymhleth.

• siarad yn glir a defnyddio arddull addas

• strwythuro syniadau a gwybodaeth

• defnyddio amrediad o dechnegau.

Cofnod gan rywun sydd wedi arsylwi'r drafodaeth neu sydd wedi gwneud tâp sain/fideo o'r drafodaeth neu nodiadau paratoadol gyda delweddau.

Gwneud cyflwyniad llafar ar un o gerddi CA6.

C3.2 CASGLU GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos yt gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

dethol a chyfuno gwybodaeth o ddwy ddogfen estynedig ar bwnc cymhleth. Dylai un o'r dogfennau hyn gynnwys o leiaf un ddelwedd.

• dethol a darllen deunydd sy'n cynnwys y wybodaeth angenrheidiol

• canfod yn gywir, a chymharu, trywydd yr ymresymu a'r prif bwyntiau a geir mewn testunau a delweddau

• cyfuno'r wybodaeth allweddol mewn ffurf addas.

Cofnod o'r hyn a ddarllenwyd a pham gan gynnwys nodyn o'r ddelwedd. Nodiadau, testun wedi'i amlygu neu atebion i gwestiynau am ddeunydd a ddarllenwyd. Tystiolaeth o gyfuno gwybodaeth o nodiadau cyflwyniad neu ddogfen ysgrifenedig.

Dethol a chyfuno gwybodaeth ar gyfer llunio’r Pecyn Gwybodaeth - CA2.

C3.3 YSGRIFENNU

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

ysgrifennu dau wahanol fath o ddogfen ar bynciau cymhleth. Dylai un darn fod yn ddogfen estynedig a chynnwys o leiaf un ddelwedd.

• dethol a defnyddio arddull briodol o ysgrifennu

• trefnu gwybodaeth berthnasol yn glir a chydlynol, gan ddefnyddio geirfa arbenigol

• sicrhau bod y testun yn ddarllenadwy, a bod y sillafu, gramadeg ac atalnodi yn gywir, a'r ystyr yn glir.

Gallai'r ddwy ddogfen wahanol gynnwys traethawd neu adroddiad estynedig, gyda delwedd megis siart, graff neu ddiagram a llythyr neu femo.

Ysgrifennu dwy o’r ffurfiau gwahanol y gofynnir amdanynt ar gyfer Pecyn Gwybodaeth CA2.

Page 33: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 33

TECHNOLEG GWYBODAETH: LEFEL 1

TG 1.1 CANFOD, CADW A DATBLYGU GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

canfod, archwilio a datblygu gwybodaeth at ddau bwrpas gwahanol.

• Canfod a dethol gwybodaeth berthnasol

• Bwydo a mewnfudo gwybodaeth, gan ddefnyddio fformatau sy'n cynorthwyo datblygiad

• Archwilio a datblygu gwybodaeth i ateb pwrpas yr ymgeisydd.

Allbrintiau a chopïau o wybodaeth a ddetholwyd gan yr ymgeisydd i'w defnyddio. Cofnod gan aseswr a fu'n arsylwi'r ymgeisydd yn defnyddio TG wrth iddo/iddi archwilio a datblygu gwybodaeth neu ddrafftiau gwaith gyda nodiadau ynglþn â'r modd y llwyddodd yr ymgeisydd i gwrdd â gofynion yr uned.

Mynd ar y we at gwmni Cymraeg, e.e. BBC Cymru. Canfod, archwilio a datblygu gwybodaeth a’i throsglwyddo mewn gwahanol ffurfiau, e.e. Pecyn Gwybodaeth CA2.

TG 1.2 CYFLWYNO GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

cyflwyno gwybodaeth at ddau bwrpas gwahanol. Rhaid i waith yr ymgeisydd gynnwys o leiaf un enghraifft o destun, un enghraifft o ddelwedd ac un enghraifft o rif.

• defnyddio cynllun priodol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth mewn modd cyson

• datblygu'r cyflwyniad fel ei fod yn gywir ac yn glir, a’i fod yn ateb y pwrpas

• arbed gwybodaeth fel y gellir ei chanfod yn rhwydd.

Drafftiau gweithio'n dangos sut y datblygodd yr ymgeisydd y cyflwyniad neu gofnodion gan aseswr a welodd arddangosiadau sgrîn yr ymgeisydd. Allbrintiau neu brintiau o arddangosiad sgrîn statig neu ddeinamig o waith terfynol yr ymgeisydd, gan gynnwys enghreifftiau o destun, delweddau a rhifau. Cofnodion o sut yr arbedodd yr ymgeisydd wybodaeth.

Argymhellir yn y fanyleb fod Pecyn Gwybodaeth CA2 yn cael ei gynhyrchu ar brosesydd geiriau.

Page 34: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 34

TECHNOLEG GWYBODAETH: LEFEL 2

TG 2.1 CHWILIO A DETHOL GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

chwilio am a dethol gwybodaeth at ddau bwrpas gwahanol.

• nodi'r wybodaeth sydd ei hangen a ffynonellau addas

• cyflawni chwiliadau effeithiol

• dethol gwybodaeth sy'n berthnasol i'r pwrpas.

Allbrintiau o'r wybodaeth berthnasol gyda nodiadau o'r ffynonellau a'r modd y cyflawnodd yr ymgeisydd y chwiliadau, neu gofnod gan aseswr a fu'n arsylwi'r ymgeisydd yn defnyddio TG i chwilio am wybodaeth.

Mynd ar y we at gwmni Cymraeg, e.e. BBC Cymru. Chwilio am a dethol gwybodaeth a’i throsglwyddo mewn gwahanol ffurfiau, e.e. Pecyn Gwybodaeth CA2.

TG 2.2 ARCHWILIO A DATBLYGU GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

archwilio a datblygu gwybodaeth, a deillio gwybodaeth newydd at ddau bwrpas gwahanol.

• bwydo a dwyn gwybodaeth ynghyd, gan ddefnyddio fformatau sy'n cynorthwyo datblygiad;

• archwilio gwybodaeth yn unol â’r pwrpas

• datblygu gwybodaeth a deillio gwybodaeth newydd fel y bo’n briodol.

Allbrintiau neu gofnod gan aseswr a fu'n arsylwi'r ymgeisydd yn defnyddio TG, gyda nodiadau i ddangos sut y bu'r ymgeisydd yn archwilio ac yn datblygu gwybodaeth ac yn deillio gwybodaeth newydd.

Archwilio a datblygu’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer llunio Pecyn Gwybodaeth CA2.

TG 2.3 CYFLWYNO GWYBODAETH GYFUNOL

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

cyflwyno gwybodaeth gyfunol at ddau bwrpas gwahanol. Rhaid i waith yr ymgeisydd gynnwys o leiaf un enghraifft o destun, un enghraifft o ddelwedd ac un enghraifft o rif.

• dethol a defnyddio gosodiadau priodol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth gyfunol mewn ffordd gyson

• datblygu’r cyflwyniad fel ei fod yn addas ar gyfer y pwrpas a'r mathau o wybodaeth

• sicrhau bod y cyflwyniad yn gywir, yn glir, a’i fod yn cael ei arbed mewn dull priodol.

Drafftiau gweithio, neu gofnod gan aseswr a fu'n arsylwi'r arddangosiadau sgrîn, gyda nodiadau i ddangos sut y datblygodd yr ymgeisydd gynnwys a chyflwyniad. Allbrintiau neu brintiau o arddangosiadau sgrîn statig neu ddeinamig o'r gwaith terfynol, gan gynnwys enghreifftiau o destun, delweddau a rhifau. Cofnodion o sut yr arbedwyd y wybodaeth.

Argymhellir yn y fanyleb fod Pecyn Gwybodaeth CA2 yn cael ei gynhyrchu ar brosesydd geiriau.

Page 35: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 35

TECHNOLEG GWYBODAETH: LEFEL 3

Rhaid i ymgeiswyr gynllunio a chyflawni o leiaf un gweithgaredd sylweddol sy'n cynnwys nifer o dasgau perthynol ar gyfer TG.3.1, TG.3.2 a TG.3.3.

TG 3.1 CHWILIO A DETHOL GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

cymharu, a defnyddio ffynonellau gwahanol er mwyn chwilio am a dethol gwybodaeth sydd ei hangen at ddau bwrpas gwahanol.

• cynllunio sut i gasglu a defnyddio’r wybodaeth

• dewis ffynonellau a thechnegau priodol ar gyfer chwiliadau

• gwneud detholiadau ar sail barn.

Allbrintiau gyda nodiadau o ffynonellau a sut y gwnaed chwiliadau ac y detholwyd gwybodaeth. Cofnod gan rywun a arsylwodd y dethol o TG i chwilio am ac archwilio gwybodaeth.

Mynd ar y we at gwmni Cymraeg, e.e. BBC Cymru. Chwilio am a dethol gwybodaeth a’i throsglwyddo mewn gwahanol ffurfiau, e.e. Pecyn Gwybodaeth CA2.

TG 3.2 DATBLYGU GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

archwilio, datblygu a chyfnewid gwybodaeth, a deillio gwybodaeth newydd at ddau bwrpas gwahanol.

• dwyn gwybodaeth ynghyd mewn ffurf gyson

• creu a defnyddio strwythurau priodol

• defnyddio dulliau cyfnewid gwybodaeth.

Allbrintiau neu gofnod gan rywun a fu'n arsylwi'r defnydd o TG gan ddangos sut y mae gwybodaeth wedi'i chyfnewid, ei harchwilio a'i datblygu. Nodiadau o reolweithiau wedi'u hawtomeiddio.

Archwilio, datblygu a chyfnewid y wybodaeth a gasglwyd ar gyfer llunio Pecyn Gwybodaeth CA2.

TG 3.3 CYFLWYNO GWYBODAETH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir:

cyflwyno gwybodaeth o ffynonellau gwahanol at ddau bwrpas gwahanol a dwy gynulleidfa wahanol. Un enghraifft o destun, un enghraifft o ddelwedd ac un enghraifft o rif.

• datblygu strwythurau a chynnwys

• cyflwyno gwybodaeth yn effeithiol

• sicrhau bod gwaith yn gywir.

Drafftiau gweithio neu gofnod gan aseswr a fu'n arsylwi arddangosiadau sgrîn, yn dangos sut y cafodd ei ddatblygu ar gyfer ei gyflwyno. Allbrintiau neu arddangosiad sgrîn statig neu ddeinamig o waith terfynol, gan gynnwys testun, delweddau a rhifau.

Argymhellir yn y fanyleb fod Pecyn Gwybodaeth CA2 yn cael ei gynhyrchu ar brosesydd geiriau.

Page 36: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 36

SGILIAU ALLWEDDOL EHANGACH GWEITHIO GYDAG ERAILL: LEFEL 3

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu o leiaf un enghraifft sylweddol o gwrdd â'r safon ar gyfer GE3.1, GE3.2 a GE3.3 mewn sefyllfaoedd un-i-un a grðp

GE 3.1 CYNLLUNIO GWAITH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir

cynllunio gwaith cymhleth gydag eraill, cytuno ar nodau, cyfrifoldebau a threfniadau gweithio.

• cytuno nodau realistig ar gyfer gweithio ar y cyd a’r hyn sydd angen ei wneud ar gyfer eu cyflawni

• cyfnewid gwybodaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth briodol, i helpu i gytuno ar gyfrifoldebau

• cytuno trefniadau gweithio addas gyda’r rhai dan sylw.

Adroddiadau sy'n disgrifio sut y cynlluniodd yr ymgeisydd waith gydag eraill, gan gynnwys nodau, cyfrifoldebau a threfniadau gweithio. Cofnodion gan rywun a fu'n arsylwi'r trafodaethau gydag eraill neu dâp sain/fideo.

Mae Cymraeg Ail Iaith yn cynnig cyfleoedd aml i weithio gydag eraill, e.e. CA1 a CA4.

GE 3.2 GWEITHIO TUAG AT NODAU

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymwyd

ceisio sefydlu a chynnal perthnasoedd gweithio cydweithredol dros gyfnod estynedig o amser, gan gytuno ar newidiadau i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt.

• trefnu a chyflawni tasgau i ddangos effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth gwrdd â chyfrifoldebau a chynhyrchu’r ansawdd gwaith angenrheidiol

• ceisio sefydlu a chynnal perthnasoedd gweithio cydweithredol, gan gytuno ffyrdd o oresgyn unrhyw anawsterau

• cyfnewid gwybodaeth gywir ar gynnydd y gwaith, cytuno ar newidiadau lle bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni nodau.

Cofnodion o sut y trefnodd ac y cyflawnodd yr ymgeisydd dasgau a chynnal perthnasoedd gweithio cydweithredol, gan gynnwys adroddiad ar gynnydd. Gallai'r cofnodion hyn gynnwys log, datganiadau a ysgrifennwyd gan eraill y gweithiodd yr ymgeisydd gyda hwy, recordiadau tâp sain/fideo, ffotograffau, neu gynnyrch a wnaed, ynghyd â nodiadau.

-

GE 3.3 ADOLYGU GWAITH

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth:

Cyd-destun a awgrymir

adolygu gwaith gydag eraill a chytuno ar ffyrdd o wella ar waith cydweithredol yn y dyfodol.

• cytuno i ba raddau y mae gwaith gydag eraill wedi bod yn llwyddiannus a’r nodau wedi’u cyflawni;

• adnabod ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y canlyniad; a

• cytuno ffyrdd o wella gwaith gydag eraill yn y dyfodol.

Datganiadau (ysgrifenedig neu wedi'u recordio) gan yr ymgeisydd ac eraill yn nodi i ba raddau y cyflawnwyd y nodau a gytunwyd. Adroddiadau a gynhyrchwyd gan eraill ar ffyrdd o wella gwaith cydweithredol yn y dyfodol.

-

Page 37: Al Spec Cymraeg Ail Iaith 07 w

TAG UG/U CYMRAEG AIL IAITH 37

GWELLA EICH DYSGU A'CH PERFFORMIAD EICH HUN LEFEL 3

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu o leiaf un enghraifft sylweddol o gwrdd â'r safon ar gyfer GDP3.1, GDP3.2 a GDP 3.3.

GDP 3.1 CYTUNO AR DARGEDAU

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth: Cyd-destun a awgrymir

cytuno targedau a chynllunio sut y bydd y rhain yn cael eu hateb dros gyfnod estynedig o amser, gan ddefnyddio cefnogaeth gan bobl priodol.

• ceisio gwybodaeth ar ffyrdd i gyflawni yr hyn y maent ei eisiau ac adnabod ffactorau a allai effeithio ar gynlluniau

• defnyddio’r wybodaeth hon i gytuno ar dargedau realistig gyda phobl briodol

• cynllunio sut y bydd amser yn cael ei reoli'n effeithiol a defnyddio cefnogaeth i gwrdd â thargedau, gan gynnwys dulliau gweithredu eraill i oresgyn anawsterau posibl.

Cofnodion i ddangos sut y cafodd yr ymgeisydd wybodaeth a sut y defnyddiodd y wybodaeth honno i gwrdd â thargedau. Cynllun gweithredu ar gyfer cyfnod amser estynedig (e.e. tua tri mis) gan gynnwys dulliau gweithredu eraill a nodyn o'r gefnogaeth oedd ei hangen.

Mae Cymraeg Ail Iaith yn cynnig cyfleoedd aml i osod targedau er mwyn gwella dysgu a pherfformiad trwy drafod gydag athrawon ac eraill.

GDP 3.2 DEFNYDDIO CYNLLUN

Rhaid i Ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth: Cyd-destun a awgrymir

cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu gan ddefnyddio'r cynllun, a cheisio adborth a chefnogaeth gan ffynonellau perthnasol, i helpu i gwrdd â thargedau. Gwella perfformiad trwy: • astudio pwnc cymhleth • dysgu trwy

weithgaredd ymarferol cymhleth

• astudiaeth bellach neu weithgaredd ymarferol sy’n cynnwys dysgu annibynnol

• rheoli amser yn effeithiol i gwblhau tasgau, gan ddiwygio cynlluniau yn ôl yr angen

• ceisio a defnyddio’n weithredol adborth a chefnogaeth o ffynonellau perthnasol i gwrdd â thargedau

• dethol a defnyddio gwahanol ffyrdd o ddysgu i wella perfformiad, gan addasu ymagweddau i gwrdd â gofynion newydd.

Cofnod o ddysgu, gyda nodiadau am: • sut y dysgodd yr ymgeisydd y

gwahanol ffyrdd a'u haddasu i'w (h)ymagwedd

• pryd y ceisiodd yr ymgeisydd adborth a chefnogaeth a sut y defnyddiodd ef/hi y gefnogaeth honno

• unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r cynllun

Cofnodion gan y rhai sydd wedi gweld y gwaith wedi'i reoli'n effeithiol a sut y cwblhawyd y tasgau.

Cyflwyno tystiolaeth o waith ymchwil, monitro cynnydd ar sut yr ymdriniwyd â phroblemau yng nghyd-destun yr astudiaeth.

GDP 3.3 ADOLYGU CYNNYDD A CHYRAEDDIADAU

Rhaid i ymgeiswyr: Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y gall ymgeiswyr:

Enghreifftiau o dystiolaeth: Cyd-destun a awgrymir:

adolygu cynnydd ar ddau achlysur a sefydlu tystiolaeth o gyrhaeddiad, gan gynnwys sut y mae dysgu o dasgau eraill wedi'i ddefnyddio i gwrdd â gofynion newydd.

• darparu gwybodaeth ar ansawdd y dysgu a’r perfformiad, gan gynnwys ffactorau sydd wedi effeithio ar y canlyniad

• nodi targedau sydd wedi'u cwrdd, gan geisio ffynonellau perthnasol i sefydlu tystiolaeth o gyflawniadau

• cyfnewid safbwyntiau gyda phobl briodol i gytuno ffyrdd o wella perfformiad ymhellach.

Cofnodion o wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd ar ei (d)dysgu a pherfformiad gan gynnwys sut y mae ef/hi wedi defnyddio'r dysgu o dasgau eraill i gwrdd â gofynion newydd. Enghreifftiau o waith sy'n dangos beth a ddysgodd yr ymgeisydd o astudio pynciau cymhleth, trwy weithgaredd ymarferol cymhleth a dysgu annibynnol. Cofnodion o drafodaethau sy'n dangos sut y ceisiodd yr ymgeisydd dystiolaeth o'i g/chyraeddiadau a chyfnewid safbwyntiau ar ffyrdd i wella perfformiad. Nodyn ar y cynllun gweithredu i ddangos y targedau sydd wedi'u cwrdd.

Cadw portffolio o dasgau a aseswyd yn ystod y cwrs, gan gofnodi sut y gwnaed cynnydd gan yr ymgeisydd drwy sylwadau’r athro ac eraill.

GCE Welsh 2nd Language Specification 2007 & 2008/ED 1 June 2005