ADRODDIAD BLYNYDDOL 2012/13 - NHS Wales Report... · 2015. 11. 14. · Roedd Ionawr 2013 wedi dod...

52
1 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2012/13 Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABM) yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol ABM.

Transcript of ADRODDIAD BLYNYDDOL 2012/13 - NHS Wales Report... · 2015. 11. 14. · Roedd Ionawr 2013 wedi dod...

  • 1

    ADRODDIAD BLYNYDDOL 2012/13

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABM) yw enw gweithredol

    Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol ABM.

  • 2

    Mae copïau caled (mewn print safonol neu brint bras) o’r Adroddiad Blynyddol hwn ac unrhyw ddogfennau cysylltiol ar gael (yn Gymraeg neu Saesneg) gan yr Adran

    Gweinyddu Corfforaethol:

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR.

    Ffôn: 01656 752752 Gwefan: www.abm.wales.nhs.uk.

    Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r rheiny a gyfrannodd eu hamser i godi arian yn ystod 2012/2013, a hefyd i’r rheiny a

    roddodd rhoddion personol.

    CYNNWYS YR ADRODDIAD

    Tudalen

    Rhagair 3

    Proffil Sefydliadol 4

    Sut Rydym yn Gweithredu 5

    Gwasanaethau Gwell 14

    Gwobrau Arferion Gorau a Chyflawniadau 18

    Moderneiddio Ein Hamgylchedd Gofal 20

    Gwerthfawrogi, Datblygu a Chefnogi Staff 26

    Cyllid 33

    http://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 3

    RHAGAIR

    Dechreuwn drwy roi diolch i Win Griffiths sydd, ar ôl tymor hir a disglair mewn gwasanaethau cyhoeddus, wedi ymddeol fel Cadeirydd PABM ym mis Rhagfyr 2012.

    Mae gormod o lawer o gyflawniadau i’w nodi yn y rhagair hwn, ond mae’r Adroddiad Blynyddol ei hun a’i ddogfennau ‘cysylltiol’ (y Datganiad Ansawdd Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd sydd hefyd yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2013) yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnydd a wnaed mewn meysydd allweddol.

    Yn 2012/13 roedd gennym darged arbedion o £45m ac felly roedd rhaid cael cynlluniau arbedion cynhwysfawr i ganiatáu i ni gyflwyno sefyllfa gytbwys unwaith eto ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd hyn yn gyflawniad arwyddocaol iawn.

    Mae nifer o lwyddiannau a heriau eraill yr hoffem dynnu sylw atynt. Roeddem wedi agor cyfleusterau gwerth £18m sy’n darparu 60 o welyau i gleifion iechyd meddwl gofal canolradd yn Ysbyty Cefn Coed. Cafodd gwaith ei wneud hefyd ar rywfaint o gyflymder i ddarparu ar gyfer yr angen i newid gwasanaethau brys gofal meddygol acíwt yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Yn ogystal, cafodd Bwrdd Atal Heintiau ei sefydlu ac roedd ymweliadau glendid dirybudd gan aelodau o’r Tîm Gweithredol. Rydym hefyd wedi symud ymlaen yn sylweddol o ran ein gweledigaeth strategol ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, rhaglen o’r enw ‘Newid Er Gwell’.

    Mae ein gwasanaethau brys wedi parhau i wynebu pwysau sylweddol (adlewyrchir hyn ar draws GIG yng Nghymru a’r DU yn fwy cyffredinol). Cafodd effaith hyn ei leihau gan y broses o gyflwyno ein Cynllun Gaeaf ac o ganlyniad cafodd ein gweithlu clinigol ei ehangu mewn ysbytai ac yn y gymuned; 80 o welyau ysbyty ychwanegol ynghyd â chwblhau’r gwaith uwchraddio yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys ac roedd hyn yn sicr wedi helpu’r staff wrth ymateb i’r her sylweddol.

    Roedd Ionawr 2013 wedi dod ag eira a hefyd achos anarferol o uchel o Norofeirws (a elwir yn glefyd chwydu’r gaeaf) a arweiniodd at gynnydd hyd yn oed yn fwy yn nifer y cleifion na’r disgwyl ac yn anffodus o ganlyniad roedd angen canslo rhai llawdriniaethau a gynlluniwyd ymlaen llaw.

    Ym mis Chwefror 2013 cyhoeddwyd yr ymchwiliad i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac mae’n arwyddocaol i bob sefydliad y GIG. Mae Bwrdd Iechyd PABM yn ymrwymedig i wneud hunanasesiad yn erbyn argymhellion yr adroddiad a bydd yn ystyried unrhyw gamau pellach a nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Francis. Mae diogelwch cleifion yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ar gyfer y Bwrdd Iechyd.

    Mae ein 16,000 o staff a’n partneriaid sefydliadol yn allweddol i ni allu darparu gofal di-dor o safon uchel a hoffem roi diolch eto i bawb sydd wedi cyfrannu at y nod hwn dros y 12 mis diwethaf.

    ANDREW DAVIES PAUL ROBERTS CADEIRYDD PRIF WEITHREDWR

  • 4

    PROFFIL SEFYDLIADOL

    Nod y Bwrdd Iechyd yw gwella iechyd ein cymunedau a darparu gofal iechyd effeithiol ac effeithlon lle mae ein cleifion a’n defnyddwyr yn teimlo eu bod mewn gofal da, yn ddiogel ac yn hyderus. Pum amcan strategol y Bwrdd Iechyd yw darparu gofal iechyd rhagorol i bobl, canlyniadau rhagorol i gleifion, pobl ragorol, gwasanaethau cynaliadwy a safonau llywodraethu da. Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) i fodolaeth ar 1 Hydref 2009 o ganlyniad i aildrefnu’r GIG yng Nghymru, ac mae’n gwasanaethu poblogaeth oddeutu 500,000 o bobl gyda chyllideb o £1.3 biliwn. Ar ddiwedd mis Mawrth 2013 roeddem yn cyflogi 16,164 o staff. Rydym yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau sylfaenol (meddyg teulu, optegydd, gwasanaethau fferyllol a deintyddol) ac eilaidd (ysbyty) ynghyd â rhai gwasanaethau trydyddol fel darparu Gwasanaethau Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig i Gymru a De-orllewin Lloegr. Rydym hefyd yn darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fforensig i Dde Cymru a darperir Gwasanaethau Anableddau Dysgu o Abertawe i Gaerdydd yn ogystal ag ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Darperir amrywiaeth o wasanaethau cymunedol yng nghartrefi cleifion hefyd drwy ysbytai cymunedol, canolfannau iechyd a chlinigau. Rydym yn gweithredu pedwar safle ysbyty acíwt sef Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mhort Talbot ac Ysbyty Singleton ac Ysbyty Treforys yn Abertawe. Mae manylion am ein safleoedd ysbyty eraill i’w gweld ar ein gwefan. Ar ddiwedd mis Mawrth 2013, cyfanswm nifer y gwelyau yn y Bwrdd Iechyd oedd ychydig dros 2,350. Darperir gwasanaethau Gofal Sylfaenol gan Feddygon Teulu, Optegwyr, Fferyllwyr a Deintyddion sydd yn gontractwyr annibynnol. Mae ychydig dros 300 o Feddygon Teulu, bron 60 o Optegwyr, 125 o Fferyllwyr Cymunedol a bron 300 o Ddeintyddion yn yr ardal. Y tu allan i oriau practis arferol, mae’r Bwrdd Iechyd yn rheoli darpariaeth y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau. Mae PABM hefyd yn darparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Ngharchar Ei Mawrhydi Abertawe.

    Mae gennym gysylltiadau rhagorol â Phrifysgol Abertawe ac mae gennym nifer o brosiectau cyffrous ar y cyd â nhw ar hyn o bryd. O ganlyniad i’r berthynas hon rydym wedi sicrhau, mewn partneriaeth, dyfarniad gradd Meddygol Mynediad Graddedigion Cymru. Yn ogystal, mae datblygiad Sefydliad Gwyddorau Bywyd (ILS) ac ILS 2 yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertaweity wedi creu amgylchedd diogel ac effeithiol ar gyfer ymchwil clinigol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Choleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe sy’n gyfrifol am nyrsio, bydwreigiaeth, ac addysg proffesiynau perthynol i ofal iechyd ar draws yr ardal. Mae’r ffordd gydweithredol hon o weithio wedi arwain at y gwaith o ddatblygu rhaglen uchelgeisiol i addysgu sgiliau clinigol amlddigyblaethol ar lefel ôl-raddedig a chefnogi’r datblygiad o ddulliau gwaith newydd ac arloesol.

    Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Iechyd a’r Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol tan 31 Mawrth 2013. Mae PABM yn parhau i gynnal yr Uned Cyflenwi a Chymorth Genedlaethol.

  • 5

    SUT RYDYM YN GWEITHREDU

    Y Bwrdd Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd nad ydynt yn Swyddogion, gyda Phrif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Aelodau Annibynnol/Nad Ydynt Yn Swyddogion (IM/NOM) ac mae’r manylion hyn i’w gweld isod. Penodwyd pob un gan Lywodraeth Cymru.

    Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd effeithiol i’r boblogaeth leol. Mae hefyd yn gyfrifol am Lywodraethu a Rheolaeth Fewnol. Mae Cadeirydd y Bwrdd Iechyd yn atebol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Prif Weithredwr yw’r Swyddog Atebol i Gyfarwyddwr Cyffredinol y GIG yng Nghymru. Yn 2012/13, roedd y Bwrdd yn cynnwys:

    Aelodau Nad Ydynt yn

    Swyddogion/ Aelodau

    Annibynnol

    Cyfarwyddwyr Gweithredol

    Win Griffiths (Cadeirydd)

    (tan fis Rhagfyr 2012)

    Andrew Davies (Cadeirydd)

    (o fis Ionawr 2013)

    Paul Roberts, Prif Weithredwr

    Ed Roberts (Is-gadeirydd)

    Alexandra Howells, Prif Swyddog

    Gweithredu/Dirprwy Brif Weithredwr

    Chantal Patel Eifion Williams, Cyfarwyddwr Cyllid

    Michael Williams Dr Bruce Ferguson, Cyfarwyddwr

    Meddygol

    (tan fis Ionawr 2013)

    Barry Goldberg Dr Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr

    Meddygol Dros Dro

    (o fis Ionawr 2013)

    Melvyn Nott Victoria Franklin, Cyfarwyddwr Nyrsio

    Paul Newman Andrew Phillips, Cyfarwyddwr Therapïau a

    Gwyddor Iechyd

    Gaynor Richards Debbie Morgan, Cyfarwyddwr y Gweithlu a

    Datblygu Sefydliadol

    Charles Janczewski Paul Stauber, Cyfarwyddwr Cynllunio

    Ceri Phillips Sara Hayes, Cyfarwyddwr Iechyd

    Cyhoeddus

    Sandra Miller

    Cyhoeddwyd bywgraffiadau aelodau’r bwrdd ar ein gwefan: www.abm.wales.nhs.uk.

    http://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 6

    Mae gan y Bwrdd nifer o aelodau eraill hefyd a elwir yn Aelodau Cyswllt y Bwrdd. Y rhain yw Hamish Laing, Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol; Rhian Evans, Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid; Alan Stevenson, Cadeirydd Fforwm Gweithwyr Iechyd Proffesiynol; a Steven Phillips, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (ar ran Awdurdodau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe). Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am:

    Osod cyfeiriad strategol y sefydliad o fewn polisïau a blaenoriaethau cyffredinol Llywodraeth Cymru a’r GIG;

    Sefydlu a chynnal safonau llywodraethu corfforaethol uchel;

    Sicrhau bod nodau ac amcanion y sefydliad yn cael eu cyflawni trwy heriau effeithiol a chraffu ar berfformiad ar draws pob maes cyfrifoldeb;

    Sicrhau stiwardiaeth ariannol effeithiol trwy weinyddu effeithiol a defnyddio adnoddau’n economaidd;

    Sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y sefydliad a’r gymuned gan gynnwys rhanddeiliaid ynghylch cynlluniau a pherfformiad a bod y trefniadau hyn yn ymatebol i anghenion iechyd yr ardal;

    Penodi, arfarnu a gwobrwyo uwch-swyddogion gweithredol. Mae’r Bwrdd yn gweithredu fel corff corfforaethol sy’n gwneud penderfyniadau a’i brif rôl yw ymarfer arweinyddiaeth, cyfarwyddyd a rheolaeth effeithiol. Mae Cyfarwyddwyr Gweithredol a NOMs yn aelodau llawn a chyfartal sy’n rhannu cyfrifoldeb corfforaethol am holl benderfyniadau’r Bwrdd. Cefnogir y Bwrdd gan Ysgrifennydd y Bwrdd, Steve Combe, sy’n gweithredu fel prif ymgynghorydd ar bob agwedd ar lywodraethu o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae’r Bwrdd yn ymrwymedig i egwyddorion o fod yn agored, gonest, ac atebol fel y nodir yng Nghod Ymddygiad ac Atebolrwydd Byrddau’r GIG. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd bob yn ail fis yn gyhoeddus. Mae byrddau wedi’u creu i gydymffurfio â Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Aelodaeth a Gweithdrefnau Cyfansoddiadol) (Cymru) 2009. Yn ogystal â’r cyfrifoldebau a’r atebolrwydd a nodir yn nhelerau ac amodau eu cyflogaeth, mae Aelodau Bwrdd hefyd yn cyflawni nifer o rolau fel hyrwyddwyr lle maent yn gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer y materion hyn. Aelodaeth Bwrdd a Phwyllgorau Mae’r Bwrdd yn cael ei gefnogi yn ei rôl gan nifer o bwyllgorau, ac mae pob un wedi’i gadeirio gan NOM i adlewyrchu annibyniaeth a gwrthrychedd, sy’n craffu ar y dull o gyflwyno meysydd gwaith allweddol. Mae’r pwyllgorau yn adolygu materion a nodir mewn Rhaglen Waith Flynyddol a chynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd yn ystod y flwyddyn. Mae crynodeb byr o rôl a chylch gwaith pob pwyllgor wedi’i nodi isod. Mae manylion pellach am feysydd arbenigedd y NOMs a pha gyfarfodydd y maent yn eu mynychu a/neu eu cadeirio ar gael trwy gyfeirio at Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol y Bwrdd Iechyd 2012/13 sydd wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan yn: www.abm.wales.nhs.uk.

    Y Pwyllgor Archwilio Mae’r Pwyllgor Archwilio yn cefnogi’r Bwrdd trwy adolygu yn feirniadol y prosesau llywodraethu a sicrwydd y mae’r Bwrdd yn dibynnu arnynt;

    http://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 7

    Y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch Mae’r Pwyllgor yn chwarae rhan ganolog yn rhoi sicrwydd bod diogelwch cleifion yn cael ei reoli. Mae’n cael adroddiadau cenedlaethol a lleol yn gysylltiedig â materion yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch;

    Y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol Rôl y Pwyllgor yw monitro trefniadau ar gyfer rheoli Cronfeydd Elusennol y Bwrdd Iechyd;

    Y Pwyllgor Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Sefydlwyd ym mis Chwefror 2013, mae’r Pwyllgor yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ran ymdrin â chyfrifoldebau’n gysylltiedig â materion gweithlu;

    Y Pwyllgor Monitro Deddf Iechyd Meddwl ar gyfer Iechyd Meddwl ac

    Anableddau Dysgu Mae’r Pwyllgor yn cael adroddiadau cenedlaethol a lleol ar faterion sy’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau, goruchwylio cydymffurfiad â Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Chodau Ymarfer Cysylltiedig. Mae’n sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer Rheolwyr Cyswllt Iechyd Meddwl;

    Mae’r cyfraniad gwerthfawr a hanfodol a wneir gan y Rheolwyr Cyswllt Iechyd Meddwl sy’n mynychu gwrandawiadau Rheolwyr o’u gwirfodd yn cael ei gydnabod fel swyddogaeth hanfodol. Diolch o galon i’r unigolion hyn am ymgymryd â’r rôl;

    Y Pwyllgor Pŵer Rheolwyr Ysbyty i Ryddhau Cleifion Mae’r Pwyllgor hwn yn sicrhau bod rôl Rheolwyr Ysbyty wrth ymarfer eu pŵerau i ryddhau cleifion o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cael ei chyflawni mewn modd sy’n deg, rhesymol a chyfreithlon;

    Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ac Amodau Gwasanaeth Mae’r Pwyllgor hwn yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd Iechyd ynghylch trefniadau ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys materion cytundebu yn unol â’r gofynion a’r safonau a benderfynwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;

    Y Pwyllgor Ceisiadau Fferyllol Mae’r Pwyllgor yn adolygu ceisiadau gan fferyllfaoedd am gontractau newydd neu geisiadau mewn perthynas â newidiadau arfaethedig i safleoedd fel rhan o Reoliadau (Gwasanaethau Fferyllol) GIG 1992;

    Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Mae’r Grŵp hwn yn darparu fforwm i hwyluso cyfranogiad llawn a thrafodaeth weithgar. Mae ei aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau penodol yn y

    gymuned. Mae aelodau hefyd yn cynnwys cyrff statudol fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Asiantaeth yr Amgylchedd ac ati. Mae gan y Grŵp gysylltiadau ardderchog â’r cyhoedd cyffredinol ehangach, a rôl pob cynrychiolydd yw tynnu sylw at y materion a godir gan eu grŵp penodol;

    Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Rôl y Fforwm hwn yw cynnig cyngor proffesiynol, amlddisgyblaethol, cytbwys i’r Bwrdd ynghylch strategaeth a darpariaeth leol. Mae’n gyfrifol am hwyluso cyfranogiad a thrafodaeth ymhlith yr ystod eang o ddiddordebau clinigol o fewn maes gweithgaredd y Bwrdd Iechyd.

  • 8

    Fforwm Partneriaethau Lleol Mae’r Fforwm yn darparu mecanwaith ffurfiol lle mae’r Bwrdd Iechyd, fel y cyflogwr, a’r undebau llafur/cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli gweithwyr y Bwrdd Iechyd, yn cydweithio i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer dinasyddion ardal PABM.

    Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn mynychu’r Pwyllgor hwn ac mae’n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau iechyd arbenigol a thrydyddol. Y Prif Weithredwr yw cynrychiolydd PABM.

    Mae gan y Bwrdd Iechyd gynrychiolaeth hefyd ar Bwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru; y Cyfarwyddwr Cyllid yw’r cynrychiolydd dynodedig. Rheolaeth Weithredol Mae gan Gyfarwyddiaethau ac Ardaloedd y dasg o redeg ein gwasanaethau o ddydd i ddydd ac mae eu Cyfarwyddwyr Clinigol yn adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredu/Dirprwy Brif Weithredwr. Llywodraethu Corfforaethol Yn achos y GIG yng Nghymru, diffinir llywodraethu fel: “system o atebolrwydd i ddinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach, lle mae sefydliadau gofal iechyd yn gweithio, yn gwneud penderfyniadau ac yn arwain eu pobl i gyflawni eu hamcanion.” Yn syml, mae hyn yn disgrifio’r ffordd y mae cyrff y GIG yn sicrhau eu bod yn gwneud y pethau cywir, yn y ffordd gywir, ar gyfer y bobl gywir, mewn modd sy’n cynnal y gwerthoedd a osodwyd ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Cafodd Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol ei ddatblygu ar gyfer 2012/13 ac erbyn diwedd mis Mawrth 2013, roedd 83% o’r camau gweithredu wedi cael eu cyflawni. Bydd y camau gweithredu sy’n weddill yn ffurfio rhan o gynllun gwella 2013/14 ynghyd â’r camau gweithredu a nodwyd wrth adolygu dadansoddiad o’r bylchau yn yr argymhellion a nodir fel rhan o Adroddiad Francis. Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adroddiad ar y cyd yn darparu trosolwg o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n darparu gofal iechyd i boblogaeth Gogledd Cymru. Wrth ystyried yr adroddiad hwn, mae'r Bwrdd Iechyd yn adolygu'r argymhellion i ddysgu unrhyw wersi perthnasol i gryfhau ei drefniadau ei hun ymhellach. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno fel rhan o Adroddiad Blynyddol PABM 2013/14. Datganiad Llywodraethu Blynyddol Bob blwyddyn mae’r Bwrdd Iechyd yn cynhyrchu Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Mae hwn yn nodi manylion systemau a gynlluniwyd i reoli risg i lefel resymol. Gan nad yw’n gallu dileu pob risg felly, dim ond sicrhau effeithiolrwydd rhesymol ac nid llwyr y gall y Bwrdd iechyd ei wneud. Mae wedi’i seilio ar broses barhaus a gynlluniwyd i bennu a blaenoriaethu risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion. Mae’n gwerthuso tebygolrwydd gwireddu’r risgiau hynny a’r effaith pe baent yn cael eu gwireddu. Mae manylion pellach am y risgiau allweddol penodol sy’n wynebu’r Bwrdd Iechyd a’r camau sy’n cael eu cymryd wedi’u nodi yn y Datganiad Ansawdd Blynyddol sydd ar gael ar ein gwefan yn www.abm.wales.nhs.uk.

    http://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 9

    Llywodraethu Gwybodaeth Y Cyfarwyddwr Meddygol yw Gwarcheidwad Caldicott y Bwrdd Iechyd. Mae’n sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n adnabod cleifion yn cael ei chasglu, ei storio a'i rhannu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a chanllawiau Caldicott, sy'n rheoli cyfrinachedd yn y GIG. Mae'r Cyfarwyddwr Meddygol yn cael ei gefnogi gan Dîm Llywodraethu Gwybodaeth sy'n cynghori ac yn addysgu staff ar ddiogelu data a chyfrinachedd. Mae'r tîm yn cymryd rhan mewn ystod eang o faterion fel cynnal archwiliadau cyfrinachedd gan edrych ar sut mae dogfennau papur a chofnodion electronig, sy'n cynnwys data personol y claf, yn cael eu cadw'n ddiogel. Maent hefyd yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth cyfrinachedd i ehangu gwybodaeth y staff o faterion diogelu data a chyfrinachedd.

    Yn ystod 2012/13 ni adroddwyd unrhyw ddiffygion diogelu data i’r Comisiynydd Gwybodaeth. Nid oedd angen i’r Bwrdd Iechyd gymryd camau pellach yn y ddau achos a adroddwyd i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn 2011/12. Rheoli Risg Mae rheoli risg yn effeithiol yn hanfodol i alluogi'r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei amcanion, yn strategol ac yn weithredol wrth ddarparu gwasanaethau a gofal cleifion diogel o ansawdd uchel. Mae'r Bwrdd Iechyd yn rheoli risg o fewn fframwaith sy'n datganoli cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar draws y sefydliad. Mae pob Cyfarwyddwr Gweithredol yn gyfrifol am reoli risg yn eu maes cyfrifoldeb ac maent yn sicrhau’r canlynol:

    mae cyfrifoldebau clir ar gyfer llywodraethu clinigol, corfforaethol a gweithredol a rheoli risg

    mae staff yn cael eu hyfforddi'n briodol mewn asesu a rheoli risg

    mae mecanweithiau ar waith ar gyfer nodi, rheoli a rhoi gwybod i'r Bwrdd am risgiau sylweddol trwy adroddiadau rheolaidd, amserol a chywir i Bwyllgorau perthnasol a'r Bwrdd.

    mae mecanweithiau ar waith i ddysgu gwersi a bod camau unioni yn cael eu cymryd pan fydd angen.

    Mae rhagor o fanylion ynghylch trefniadau rheoli risg y Bwrdd Iechyd wedi’u nodi yn y Datganiad Ansawdd Blynyddol, a gyhoeddwyd ar ein gwefan www.abm.wales.nhs.uk.

    Asesiad Strwythuredig Yn ystod y flwyddyn, roedd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynnal adolygiad o Asesiad Strwythuredig Blwyddyn 3 y Bwrdd Iechyd a oedd yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed yn y meysydd a amlygwyd yn flaenorol fel meysydd i’w gwella. Roedd yr asesiad wedi dangos y gwnaed cynnydd da ar y cyfan yn ystod y flwyddyn yn mynd i’r afael â’r meysydd i’w datblygu. Nodwyd bod y Bwrdd Iechyd yn dangos ei amcanion strategol trwy newid trawsnewidiol a rhaglen o wella sy’n integreiddio ffrydiau 'Rhaglen Gwella Darpariaeth' â'r strategaeth glinigol. Teimlwyd bod yr wybodaeth a ddarparwyd i’r Bwrdd yn gyffredinol ddigonol i oleuo penderfyniadau cynllunio a rhoi darlun clir o ba mor dda mae’r sefydliad yn perfformio yn erbyn ei amcanion strategol ac yn rheoli ei risgiau. Roedd SAC yn teimlo bod yr amgylchedd rheoli mewnol yn parhau i aeddfedu i gefnogi sicrwydd effeithiol y Bwrdd ac roedd trefniadau yn ymddangos yn gyffredinol gadarn. Fodd bynnag nodwyd rhai agweddau bod angen datblygu pellach gan fod y Bwrdd Iechyd yn wynebu heriau sylweddol i gynnal cydbwysedd ariannol a datblygu

    http://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 10

    cynlluniau gweithlu cynaliadwy, hirdymor sy’n cefnogi’r newid trawsnewidiol cymhleth sydd ei angen. Defnyddir canfyddiadau’r adroddiad hwn i ddatblygu cynlluniau gwaith cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu yn y Cynllun Blynyddol ar gyfer 2013/14 ac mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy wefan SAC yn www.wao.gov.uk Archwiliad Mewnol Yn Adroddiad Blynyddol Pennaeth yr Archwiliad Mewnol, nodwyd er bod y mwyafrif o aseiniadau archwilio a gynhaliwyd wedi rhoi sicrwydd cadarnhaol ar reolaeth, roedd nifer o feysydd lle roedd y canfyddiadau yn fwy negyddol ac roedd hyn wedi cael effaith ar y canfyddiadau yn gyffredinol. Daethpwyd i’r casgliad felly bod sicrwydd cyfyngedig y trefniadau i ddiogelu llywodraethu, rheoli risg, a rheolaeth fewnol, o fewn y meysydd hynny dan arolwg wedi’u dylunio’n addas a’u rhoi ar waith yn effeithiol. Mae’r Tîm Gweithredol wedi derbyn hyn ac maent wedi rhoi sicrwydd i’r Bwrdd eu bod yn rhoi camau gweithredu cadarn ar waith i fynd i’r afael â meysydd gwan. Bydd y Pwyllgor Archwilio yn parhau i fonitro’r sefyllfa trwy adroddiadau swyddogaeth yr Archwiliad Mewnol.

    Gweithio gyda Sefydliadau Partner a Rhanddeiliaid Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i wella hygyrchedd ac argaeledd gwasanaethau ataliol mewn rhwydweithiau cymunedol ar y cyd â’n hawdurdod lleol a phartneriaid asiantaethau gwirfoddol a thrwy ddefnyddio’r asedau presennol mewn cymunedau. Lleoedd chwarae di-fwg – ‘Y parc yw’n lle chwarae ni, felly cadwch draw â’ch smygu’

    Mae tîm Iechyd Cyhoeddus PABM wedi gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno cynllun lleoedd chwarae di-fwg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio arwydd lleoedd chwarae di-fwg mewn ysgolion cynradd ar draws ein dalgylch. Dyluniwyd yr arwydd fuddugol gan ddosbarth yn Ysgol y Babanod Cefn Glas. Roedd y plant wedi canu cân ‘lleoedd chwarae iach’ yn ystod lansiad y fenter yn lle chwarae Rhodfa Wordsworth yng Nghefn Glas. Mae arwyddion bellach wedi cael eu codi mewn lleodd chwarae allweddol plant ar draws yr ardal ac mae pob awdurdod lleol

    yn parhau i hyrwyddo’r fenter. Achosion o’r Frech Goch Roedd achosion o’r frech goch yn dew yn ardal Abertawe yn y rhan olaf o 2012 tan haf 2013. Roedd 960 o achosion hysbys yn ardal PABM, ac roedd angen i 66 o’r rhain fynd i’r ysbyty. Cafodd yr achosion sylw mawr yn y cyfryngau gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol trwy godi ymwybyddiaeth yn y gymuned. Roedd y Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio ar y cyd â Meddygon Teulu, Fferyllwyr, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru i gydlynu’r ymateb i’r achosion. Rhoddwyd mwy na 30,000 dos o’r brechlyn MMR (Y Frech Goch, Clwy’r Pennau a Rwbela) trwy feddygfeydd, clinigau allgymorth, adrannau iechyd galwedigaethol ac mewn ysgolion a cholegau. Iechyd a Lles Bob blwyddyn mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn adrodd am iechyd a lles pobl leol a’r camau sy’n cael eu cymryd i wella a diogelu eu hiechyd. Mae llawer i’w wneud

    http://www.wao.gov.uk/

  • 11

    gan mai dim ond 1 o bob 16 o bobl leol yn adrodd eu bod yn gwneud yr holl bethau angenrheidiol i gael ffordd o fyw iach. Mae prif elfennau’r adroddiad yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:

    Rheoli tybaco – mae 1 o bob 4 oedolyn yn dal i ysmygu yn yr ardal hon.

    Gweithgaredd corfforol a maeth - mae bron 1 o bob 3 oedolyn yn rhy drwm neu’n ordew.

    Alcohol a chyffuriau - mae bron 1 o bob 3 oedolyn yn cael pwl o oryfed o leiaf un diwrnod yr wythnos.

    Iechyd rhyw – cyfradd beichiogi ymhlith pobl 15-17 oed yn 2010 oedd oddeutu 39.4 am bob 1,000 o’r boblogaeth.

    Anafiadau – mae 13% o oedolion yn adrodd eu bod yn cael eu trin ar gyfer poen cefn.

    Cwympiadau - mae hanner o fenywod a thraean o ddynion dros 85 oed yn cwympo bob blwyddyn.

    Diogelu iechyd – mae dros 95% o blant wedi cael eu himiwneiddiadau trefnedig yn 1 mlwydd oed ond mae’r nifer sy’n cael y pigiad MMR lawer yn is na’r lefel hon.

    Iechyd y geg – mae gan tua hanner yr holl blant pum mlwydd oed o leiaf un dant wedi’i bydru neu ddant ar goll oherwydd pydredd.

    Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Cyfawyddwr Iechyd y Cyhoedd ym mis Medi 2013 ac mae ar gael trwy’r ddolen ganlynol ar ein gwefan yn: http://abm.cymru.nhs.uk/bulletins/bulletin.php?bulletin_id=5866

    Mae gan y sector gwirfoddol rôl allweddol i'w chwarae ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a lles, yn enwedig atal afiechyd. Mae’n helpu i symud cydbwysedd y ddarpariaeth yn nes at gartrefi pobl ac mae’n darparu'r math o wasanaethau a chymorth ymatebol sydd eu hangen ar bobl. Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol ar wyth thema strategol allweddol:

    Gweithio mewn partneriaethau cryfach o fewn y sector gwirfoddol a rhwng y sectorau

    Comisiynu gwell a chyson

    Cefnogi hunanofal ac annibyniaeth

    Gwella hygyrchedd gwasanaethau i gymunedau dan anfantais a gwledig

    Gwella gwirfoddoli mewn iechyd a gofal cymdeithasol

    Cynllunio gweithlu integredig

    Lleihau’r nifer o dderbyniadau i ysbytai a gwella rhyddhau

    Ymchwil a datblygu Yn 2012/13 roedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda’r sector yn benodol i:

    Adolygu’r holl Gytundebau Lefel Gwasanaeth a gedwir gan y Bwrdd Iechyd gyda sefydliadau yn y sector gwirfoddol a diwygio'r rhain lle mae gwasanaethau wedi datblygu a newid;

    Cytuno ar dendro cystadleuol ar gyfer gwasanaethau penodol lle mae nodau strategol y Bwrdd Iechyd wedi newid ac felly nid yw’r gwasanaethau bellach yn bodloni'r gofynion hyn;

    Datblygu cynigion ar gyfer grantiau cyllid bach ar gyfer y sector gan y Bwrdd Iechyd;

    Sicrhau integreiddio gwasanaethau sector gwirfoddol i gynllunio ar gyfer 'Newid er Gwell' a Rhaglen De Cymru;

    http://abm.cymru.nhs.uk/bulletins/bulletin.php?bulletin_id=5866

  • 12

    Sicrhau bod y sector gwirfoddol yn cael dylanwad ar ddatblygiad cynlluniau’r Bwrdd Iechyd ar gyfer gwasanaethau clinigol;

    Ymgorffori gweithio ar y cyd, a dylanwad y sector, yn barhaus ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â’r Bwrdd Iechyd;

    Sicrhau cyfranogiad cryf yng Ngrŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y Bwrdd, gan sicrhau bod safbwyntiau grwpiau nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb a grwpiau anodd eu cyrraedd eraill yn cael eu clywed.

    Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi parhau ei waith gyda'i bartneriaid yn Ninas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu gweithio ar y cyd ar lefel ranbarthol ar draws y maes iechyd, a gofal cymdeithasol trwy Raglen Bae’r Gorllewin. O ganlyniad, sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n cynnwys Prif Weithredwyr bob ardal Awdurdod Lleol yn ein dalgylch a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd. Mae Bwrdd y Rhaglen yn goruchwylio gwaith timau’r rhaglen ar y cyd gan ganolbwyntio’n gyntaf ar bedwar maes blaenoriaeth: Gwasanaethau Oedolion ag Anableddau Dysgu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, Gwasanaethau Pobl Hŷn a Gwasanaethau Plant.

    Prif nod y rhaglen yw datblygu modelau gwasanaethau newydd ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol a chyflymu’r newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Cronfa Cydweithredu Rhanbarthol, ac mae Rhaglen Bae’r Gorllewin wedi llwyddo i gael cyllid i gefnogi amrywiaeth o brosiectau dros y cyfnod 2013/14 i 2015/16. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn bartner llawn ym mhob un o’r tri Bwrdd Gwasanaethau Lleol sy’n cynnwys ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'r Byrddau Gwasanaethau Lleol hyn wedi canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau ac mae angen iddynt rannu dulliau i fod yn llwyddiannus. Yn 2012/13, roedd y Byrddau Gwasanaethau Lleol wedi goruchwylio’r newid o'r trefniadau cynllunio blaenorol i Gynllun Partneriaeth Integredig Sengl (SIPP) ar gyfer pob ardal. Yn ogystal, roedd gofyn iddynt gynhyrchu cynlluniau cydasiantaethol amryfal ar wahân bob tair blynedd. Mae enghreifftiau o'r gwaith a wnaed mewn partneriaeth â’r Awdurdodau Lleol yn cynnwys:

    Cyflwyno trefniadau diogelu integredig newydd ar gyfer plant ac oedolion;

    Sefydlu Grŵp Strategol Plant a Phobl Ifanc i oruchwylio cynlluniau gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws ardal PABM;

    Treialu Cydlynwyr Gofal o dan Raglen y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Plant ag Anableddau o dan 5 oed;

    Sefydlu Protocolau Rhannu Gwybodaeth ar draws asiantaethau ar gyfer rhai gwasanaethau allweddol;

    Datblygu rôl Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau ar draws PABM i gynnwys yr holl bartneriaid wrth ymateb i Strategaeth Llywodraeth Cymru;

    Ehangu Timau Adnoddau Cymunedol i gefnogi pobl hŷn yn neu'n agos at eu cartrefi eu hunain.

    Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio'n agos gyda WAST a phartneriaid eraill, i ddatblygu llwybrau gofal amgen. O ganlyniad i'r dull cydweithredol hwn, ni fu angen i nifer cynyddol o gleifion ddod i’n Hadrannau Achosion Brys. Er enghraifft, er mis Medi 2012, ni fu rhaid i dros 1,100 o gleifion oedd wedi cwympo, neu wedi cael pwl hypoglycemig neu epileptig, gael eu cludo i’r ysbyty gan y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer gofal, gan fod cleifion wedi cael triniaeth a chymorth gartref.

  • 13

    Yn ogystal, ac i gyd-fynd â newidiadau i'r Gwasanaeth Meddygol Acíwt yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, roedd y Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno’r Uwch Ymarferwr Parafeddygol (APP). Mae hyn wedi arwain at dros hanner yr holl gleifion a welwyd gan yr APP yn cael eu trin heb yr angen i fynd i'r Adran Achosion Brys. Mae’r cleifion hyn naill ai wedi derbyn triniaeth gartref, wedi cael eu hail-gyfeirio i wasanaethau eraill, neu wedi cael eu cyfeirio yn uniongyrchol at dimau arbenigol ar gyfer amrywiaeth benodol o gyflyrau. Mae'r mentrau hyn wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol gan gleifion. Mae'r Bwrdd Iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bellach yn gweithio i ddatblygu llwybrau a modelau gofal ychwanegol sy'n arwain at wasanaeth symlach a mwy priodol i gleifion. Cyngor Iechyd Cymunedol Abertawe Bro Morgannwg (CIC ABM) Mae gan y Bwrdd Iechyd gysylltiadau agos â CIC o ran materion yn ymwneud â’r newidiadau amrywiol i wasanaethau ynghyd â’r ddau brosiect mawr i ail-lunio sut byddwn yn cyflwyno agweddau allweddol ar ein gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod (C4B a Rhaglen De Cymru). Mae Cadeirydd a Phrif Swyddog CIC yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd Iechyd ac mae Cyfarwyddwyr Gweithredol o’r Bwrdd Iechyd yn mynychu Cyfarfodydd Gweithrediaeth CIC. Mae'r berthynas gynhyrchiol hon yn cael ei gwerthfawrogi gan y ddwy ochr ac mae’n allweddol i lwyddiant y materion sy’n ymwneud â newidiadau i’r gwasanaethau gan fod CIC yn rhoi cyngor ac awgrymiadau ynghylch ffyrdd posibl ymlaen. Ymgysylltiad Dinasyddion Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gynnwys llais y cyhoedd wrth lunio, cynllunio a darparu gwasanaethau, gan gynnwys ymgynghori priodol. Cydlynir yr ymrwymiadau ymgysylltu â dinasyddion gan y Tîm Cynllunio Gwasanaethau Corfforaethol, ac mae cysylltiadau â strwythurau cynllunio’r Ardal/Gyfarwyddiaeth ar gyfer gweithredu lleol. Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrif Facebook a Twitter a ddefnyddir i ddosbarthu gwybodaeth a gofyn am adborth. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth rannu gwybodaeth pan oedd achosion o’r Frech Goch oherwydd roedd rhaid rhoi cyngor i nifer fawr o bobl yn gyflym. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi annog ei boblogaeth, llawer ohonynt yn staff, i gofrestru ar ‘YouTellUs’ sy’n rhoi modd i bobl roi eu barn am ein gwasanaethau iechyd ac i’n helpu i wneud penderfyniadau am wasanaethau yn y dyfodol.

    Cysylltiadau Iechyd Affricanaidd Mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i gynnal cysylltiadau â’r Gambia, Nigeria a Sierra Leone. Nod cyffredinol ei waith fu adeiladu ar bartneriaethau gwaith rhwng staff a chleifion i wella canlyniadau iechyd ac i addysg bellach, hyfforddiant a mentora. Fel rhan o’r cwrs meddygaeth Mynediad i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe, mae 20 o fyfyrwyr bob blwyddyn wedi cael y cyfle i wneud prentisiaeth glinigol dros bythefnos yn y Gambia. Roedd y grŵp a ymwelodd ym mis Rhagfyr 2012 wedi mynd gyda bydwraig-fyfyriwr. Mae enghreifftiau eraill o’n gwaith gydag Affrica yn cynnwys:

    Tri myfyriwr meddygol yn eu blwyddyn olaf yn gwneud gwaith arsylwi beirniadol ar arferion y GIG;

    Gwasanaethau patholeg yn cefnogi’r labordai yn y Gambia;

  • 14

    Gyda grant gan Gymdeithas Brydeinig Gastroenteroleg, cafodd Paediatregydd Ymgynghorol yn Nigeria gymorth gan Ysbyty Addysgu Prifysgol Lagos i gynnal archwiliad clinigol o reolaeth dadhydradu difrifol;

    Roedd dau feddyg a dwy nyrs yn rhan o dîm PABM yn cynnig cwrs hyfforddi pum diwrnod yn Ysbyty Plant Ola, Sierra Leone ar asesu a thrin achosion brys brysbennu (triage). O ganlyniad i hynny, mae’r tîm lleol wedi ymgymryd â’r gwaith o addysgu a hyfforddi’r pwnc hwn.

    GWASANAETHAU GWELL

    Newid Er Gwell Yn gynnar yn 2012 cynhaliwyd adolygiad o raglen (C4B) ‘Newid Er Gwell’ o dan arweiniad Hamish Laing, Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol, gydag ymgysylltiad llawn clinigwyr, gofal sylfaenol, awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Swyddogaeth yr adolygiad oedd sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn ymateb i ‘Law yn Llaw at Iechyd’ gan nodi gweledigaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru sydd wedi pwysleisio’r angen i gael gwasanaethau sylfaenol a chymunedol cryf sydd ar gael i bawb, lle bynnag y maent yn byw. Roedd angen i’r adolygiad ystyried hefyd y newidiadau mawr angenrheidiol i wasanaethau ledled De Cymru. Trwy gydol 2012/13 roedd rhaglen C4B wedi canolbwyntio ar saith ffrwd waith glinigol oedd yn cydredeg â rhaglen Law yn Llaw at Iechyd a Chynllun Blynyddol y Bwrdd Iechyd. Cafodd y rhain eu nodi fel y themâu allweddol yr oedd rhaid i ni edrych arnynt ar gyfer ein poblogaeth:-

    – Cadw’n Iach – Gofal Heb Ei Drefnu – Gofal Wedi’i Gynllunio

    – Gofal i Bobl Hŷn Eiddil – Gwasanaethau i Bobl â Chyflyrau Hirdymor – Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc – Mamolaeth a Gwasanaethau Newydd-anedig.

    Mae’r ffrydiau gwaith hyn dan arweiniad clinigol wedi datblygu amrywiaeth o syniadau a chynigion cyffrous sy’n tynnu ar arferion gorau, safonau wedi’u cyhoeddi a modelau gofal sy’n canolbwyntio ar gleifion.

    Ym mis Mai 2012 roedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi a dosbarthu’n eang ddogfen o’r enw “Pam mae angen i’ch GIG lleol newid.” Roedd hon wedi nodi rhai o’r prif heriau oedd yn wynebu’r Bwrdd Iechyd ac roedd yn esbonio uchelgeisiau’r sefydliad ar gyfer gwella gofal yn y dyfodol trwy’r saith ffrwd waith glinigol. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ceisio sylwadau ac adborth gan y boblogaeth leol i brofi rhai o’r syniadau a godir a chyflawni rhai newidiadau penodol i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i’w gwneud yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy. Roedd hefyd wedi gofyn am farn y cyhoedd, gan roi cyfle iddynt helpu i siapio’r cynigion hyn.

  • 15

    Dechreuodd yr ymarfer ffurfiol Ymgysylltu â'r Cyhoedd ym mis Medi 2012 ac roedd yn agored tan 19 Rhagfyr, 2012. Yn ystod yr ymarfer hwn, trefnwyd nifer fawr o ddigwyddiadau cyhoeddus mewn lleoliadau cymunedol y Bwrdd Iechyd i roi cyfle i’r cyhoedd alw heibio yn lleol a siarad â staff wyneb yn wyneb a chlywed a thrafod y cynigion yn bersonol. Cafodd sylwadau'r cyhoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig eu casglu a’u llunio yn ymatebion penodol. Ar ôl casglu’r canlyniadau aeth y Bwrdd Iechyd â’i gynigion i CIC a ymatebodd i bob cynnig yn ysgrifenedig ar ddiwedd mis Chwefror 2013. Cafodd nifer o'r cynigion eu cefnogi heb angen ymgysylltu neu ymgynghori pellach. Yn gynnar ym mis Mawrth 2013 cynhaliwyd digwyddiad i randdeiliaid gan gynnwys partneriaid o’r trydydd sector, awdurdodau lleol, CIC, grwpiau er budd y cyhoedd a staff y Bwrdd Iechyd a oedd wedi casglu’r gwaith o’r saith ffrwd waith glinigol C4B ac wedi dechrau siapio’r rhain yn brosiectau penodol i’w datblygu. Mae dogfen dechnegol lawn ac adroddiad cryno C4B yn tynnu sylw at y syniadau a’r themâu sy’n dod i’r amlwg a sut mae’r rhain wedi troi’n gyffrous. Maent hefyd yn sôn am helpu i wella’r profiad a’r canlyniadau ar gyfer ein cleifion a darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac o safon ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhain i’w gweld yn changingforthebetter.org.uk Rhaglen De Cymru Trwy gydol 2012/13 roedd Rhaglen De Cymru wedi parhau â’i waith yn ystyried patrwm gwasanaethau pedwar ysbyty arbenigol ar gyfer De Cymru ac y dylent fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn debyg i’r gorau. Mae’r Rhaglen wedi canolbwyntio ar Wasanaethau Mamolaeth dan Arweiniad Meddyg Ymgynghorol, Gwasanaethau Cleifion Mewnol i Blant, Gofal Newyddenedigol a Gwasanaethau Meddygaeth Brys. Sefydlwyd Grwpiau Cyfeirio Clinigol gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd ar gyfer pob un o’r gwasanaethau hyn gydag un ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans i ddiffinio modelau gwasanaeth clinigol, gofynion y gweithlu a nifer y canolfannau y gellid eu cynnal yn ddiogel. Trwy’r gwaith hwn, fe ddaeth yn glir bod rhaid darparu’r gwasanaethau hyn gyda’i gilydd ond mewn llai o ysbytai nag yn awr: y peth gorau fyddai cael pedair neu bum canolfan yn Ne Cymru. Roedd hefyd yn glir bod tair o’r canolfannau hyn eisoes yn “bendant” – Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd; Ysbyty Treforys, Abertawe a’r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol arfaethedig ger Cwmbrân (sy’n cael ei chynllunio i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn lle Ysbyty Neville Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent). Mae tri ysbyty arall sydd â rhai o’r gwasanaethau arbenigol hyn neu bob un ohonynt; Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Felly, yn ystod ein cyfnod ymgysylltu rhwng Medi a Rhagfyr 2012 ar gyfer C4B, roedd y Bwrdd Iechyd wedi disgrifio chwe senario ad-drefnu i’w hystyried gan y cyhoedd, rhanddeiliaid a staff GIG. Cafodd yr holl ymatebion am Raglen De Cymru eu dadansoddi a’u cyhoeddi ochr yn ochr ag ymatebion yr holiadur oedd yn rhan o’r dogfennau cysylltiol. Rhwng Ionawr a Mawrth 2013, mewn ymateb i’r adborth a gafwyd, treuliwyd amser gyda’r Grwpiau Cyfeirio Clinigol a Thîm Rhaglen De Cymru i wneud rhagor o waith manwl ar bob un o’r senarios i fireinio a darparu gwybodaeth fwy manwl a dadansoddi’r dewisiadau ar gyfer ymgynghori cyhoeddus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Mai a Mehefin 2013 (wyth wythnos) ac ar ôl hyn bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried gyda’r Byrddau Iechyd eraill pa ddewis

  • 16

    sydd orau ar gyfer gweithredu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.wales.nhs.uk/swp.

    Cynllun Blynyddol 2012/13 Roedd y Bwrdd wedi ystyried y ddogfen uchod ym mis Mai 2012 ac yna cafodd ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2012. Mae’n nodi sut i ddatblygu ein hamcanion ar gyfer meysydd blaenoriaeth allweddol. Dyma’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd:-

    Gwella Iechyd Cardiofasgwlaidd;

    Lleihau Heintiau sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd;

    Gwella Mynediad; a

    Gwella Gwasanaethau i Bobl Hŷn.

    Elfen allweddol o’r Cynllun Agored oedd ailgynllunio gwasanaethau i fodel mwy sylfaenol/cymunedol. Roedd hyn yn golygu bod llai o ddibyniaeth ar welyau cleifion mewnol mewn ysbytai ac yn gyfle i’r Bwrdd Iechyd ymgysylltu â rhanddeiliaid ar rôl ysbytai cymunedol. Arweiniodd hyn at gau Ysbyty Fairwood, Ysbyty Coffa Clydach, Ysbyty Maesgwyn ac Ysbty Hill House ac ad-drefnu gwelyau cleifion mewnol ag iechyd meddwl. Cafodd y ddogfen gyfatebol ar gyfer 2013/14 ei chyflwyno i’r Bwrdd a’i chymeradwyo ganddo wedyn. Ers hynny, mae amcanion Cyfarwyddiaeth/Ardal ac unigol wedi cael eu cytuno o nodau allweddol y Cynllun a bydd y Bwrdd yn monitro cyflawniad drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cynllun Blynyddol yn gofyn am strategaeth ariannol gadarn yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r rhan hon o'r cynllun wedi bod yn arbennig o heriol o ystyried ein bod yn awr yn y drydedd flwyddyn o ddim cynnydd yn yr adnoddau blynyddol sydd ar gael. Ar hyn o bryd mae bwlch yn bodoli ac rhaid wrth gynilion o tua £57 erbyn diwedd mis Mawrth 2014. Mae ffocws manwl ar nodi dulliau o gyflawni hyn ac mae’r Tîm Gweithredol yn cynnal trafodaethau agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd. Ansawdd a Dysgu, Profiad Cleifion a’r Gwersi a Ddysgwyd Mae’r angen i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd yn ddyletswydd gyfreithiol ac mae gan y Byrddau Iechyd gyfrifoldeb statudol i sicrhau bod systemau ar waith i ddarparu safonau gofal diogel. Mae'r Prif Weithredwr yn atebol am sicrhau’r Bwrdd bod safonau gofal uchel yn cael eu darparu. Y Cyfarwyddwr Meddygol, y Cyfarwyddwr Nyrsio a'r Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd yn rhannu cyfrifoldeb am unrhyw faterion yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch gwasanaethau a ddarperir ar draws y sefydliad ac mae bob un yn mynychu Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd sy'n cwrdd bob yn ail fis. Yn ogystal, mae nifer o uwch bwyllgorau a grwpiau eraill (a nodir ar dudalen 7 ymlaen) sy'n monitro camau gweithredu i sicrhau ein bod yn parhau i wella ansawdd y gwasanaethau clinigol a ddarperir. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynhyrchu Datganiad Ansawdd Blynyddol ar gyfer 2012/13, a'i nod yw rhoi cyfrif agored a gonest o sut rydym wedi perfformio o ran ansawdd y gofal a ddarparwn. Mae copi o'r ddogfen hon ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yn www.abm.wales.nhs.uk. Perfformiad y Gwasanaeth Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau sylfaenol (meddyg teulu, optegydd, a gwasanaethau fferyllol a deintyddol) ac eilaidd (mewn ysbytai ac yn y gymuned) ynghyd â gwasanaethau trydyddol penodol. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym wedi perfformio yn 2012/13 o

    http://www.wales.nhs.uk/swphttp://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 17

    ran amseroedd aros, gwasanaethau canser, gwasanaethau brys a gwasanaethau strôc (gofal mewn ysbytai) ac o ran meddyg teulu, optegydd, a gwasanaethau fferyllol a deintyddol (gwasanaethau gofal sylfaenol) i’w gweld yn ein Datganiad Ansawdd Blynyddol a gyhoeddwyd ar ein gwefan yn www.abm.wales.nhs.uk. Paratoi at Argyfwng Mae'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn ei wneud yn ofynnol i sefydliadau gynnal cynlluniau argyfwng i sicrhau eu bod yn gallu ymateb mewn argyfwng a yw hyn ar ffurf camau i atal argyfwng neu leihau'r risg o argyfwng neu ei effeithiau. Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am gyflawni rhwymedigaethau'r Bwrdd Iechyd o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Mae Prif Reolwyr yn sicrhau bod cynlluniau presennol yn cael eu diweddaru yn unol â newidiadau deddfwriaethol a chanllawiau cenedlaethol. Mae Grŵp Cynllunio at Argyfwng yn cyfarfod yn rheolaidd. Mae Cynllun Digwyddiadau Mawr ar waith sy'n cydymffurfio â Chanllawiau Llywodraeth Cymru i GIG Cymru a chanllawiau cysylltiedig. Yr Iaith Gymraeg Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg ABM gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Ebrill 2010 ac mae’n nodi sut mae’r Bwrdd Iechyd yn anelu at ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog. Yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn hyn o beth yn ystod y blynyddoedd blaenorol, gwelir isod crynodeb o’r materion allweddol a gyflawnwyd yn y flwyddyn 2012/13:-

    Penodi Cyfieithydd Cymraeg mewnol. Mae hyn wedi arbed arian i’r Bwrdd Iechyd oherwydd y gostyngiad sylweddol mewn costau cyfieithu allanol;

    Cynnal gwefan ddwyieithog yn ogystal â thudalen ddynodedig ar y wefan fewnol i helpu ac annog staff sydd am gyngor a gwybodaeth am yr iaith Gymraeg. Yn ystod 2012/13 roedd 23,977 o drawiadau ar y fewnrwyd a 7,500 o drawiadau ar wefan allanol y Bwrdd Iechyd;

    Diweddaru dogfennaeth ein Cynlluniau Gofal fel y gall staff gofnodi iaith claf;

    Cynnal arolwg mewnol sgiliau iaith Gymraeg yn 2012/13. Roedd 27.1% o’r gweithlu wedi ymateb i hyn ac mae 375 (8.63%) o aelodau o staff yn gallu darparu gwasanaeth ddwyieithog i gleifion.

    Deddf Rhyddid Gwybodaeth Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i well onestrwydd yn y sector cyhoeddus, a daeth i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005. Yr egwyddor sylfaenol yw y dylai’r holl wybodaeth nad yw’n bersonol a gedwir gan gorff cyhoeddus fod ar gael yn rhydd, oni bai bod eithriadau’n gymwys. Mae’r Ddeddf yn atodi ac yn ategu’r Ddeddf Diogelu Data, sy’n caniatáu i unigolion gyrchu gwybodaeth bersonol a gedwir amdanynt. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydlynu ymatebion i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth drwy’r Adran Gweinyddu Corfforaethol ym Mhencadlys y Bwrdd Iechyd. Yn unol â’r Ddeddf, rhaid prosesu pob ymateb i gais o fewn ugain niwrnod gwaith (oni bai bod angen ystyried lles y cyhoedd ehangach wrth ddatgelu gwybodaeth neu mae angen eglurder pellach ynghylch yr wybodaeth y gofynnir amdani). Derbyniwyd 383 cais yn 2012/13, a 341 yn y flwyddyn flaenorol. Atebwyd oddeutu 92% o’r ceisiadau o fewn y targed ugain niwrnod gwaith, a 80% y flwyddyn flaenorol. Mae amrywiaeth o resymau pam nad yw’r sefydliad yn gallu ateb o

    http://www.abm.wales.nhs.uk/

  • 18

    fewn ugain niwrnod gwaith bob tro, gan gynnwys natur y cais, cymhlethdod y materion, argaeledd y cofnodion perthnasol a’r angen i ddefnyddio amrywiaeth eang o staff.

    GWOBRAU ARFERION GORAU A CHYFLAWNIADAU

    Cyflwynwyd gwobrau arbennig i ddau wrolegydd ymgynghorol (Paul Jones a Malcolm Lucas) yn Ysbyty Treforys gan Gymdeithas Llawfeddygon Wrolegol Prydain yn 2013. Roedd Paul wedi sefydlu’r gwasanaeth Lithotripsi cyntaf ar safle sefydledig yn Abertawe. Mae’n weithred feddygol heb lawdriniaeth sy’n defnyddio tonnau sioc i dorri cerrig yn yr arennau, y bledren neu’r wreter tra byddant yn dal i fod yn y corff. Roedd Malcolm wedi ennill St Peter’s

    Medal sy’n cydnabod ei waith rhagorol trwy gydol ei yrfa, yn enwedig triniaethau anymatal a gwaith ar ganserau pelfig cymhleth. Roedd Canolfan Feddygol y Grove yn yr Uplands, Abertawe, yn dathlu ar ôl ennill teitl ‘Tîm Gweinyddol Practis y Flwyddyn’ gan Goleg Brenhinol Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (RCGP). Rhoddwyd y wobr i dîm gweinyddol y practis i gydnabod eu gwaith caled o’r golwg i sicrhau gofal da i’r cleifion. I werthfawrogi’r gofal a’r cymorth roedd hi a’i merch wedi eu cael yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd Victoria Shaw, o Ogledd Corneli, wedi enwebu’r tîm newyddenedigol ar gyfer gwobr Baby Lifeline MUM sy’n cydnabod timau y mae rhieni yn teimlo eu bod o gymorth mawr iddynt yn ystod beichiogrwydd neu enedeigaeth anodd. Llun (ar y dde) chw-dde: Helen James, Rheolwr Ward yr Uned Newyddenedigol; Maisy Shaw; Victoria Shaw

    Dathlwyd mentrau gan nyrsys ar draws PABM i wella gofal i gleifion mewn dwy seremoni wobrwyo genedlaethol. Roedd tîm o staff ysbyty a chymunedol o Gastell-nedd Port Talbot wedi ennill teitl ‘Tîm Nyrsio y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Meddygaeth Teulu 2012. Roedd y tîm hefyd wedi cyrraed rownd derfynol y categori ‘Arloeswyr y Flwyddyn’, ochr yn ochr â Thîm Gofal Iechyd Parhaus y Bwrdd o

    Gastell-nedd Port Talbot.

    Roedd therpaydd lleferydd ac iaith wedi cipio gwobr Gofal Iechyd yr Iaith Gymraeg am gynhyrchu adnodd lleferyd ac iaith dwyieithog ar gyfer athrawon. Roedd Lowri Roberts (yn y llun), gyda chymorth cydweithwyr o Dîm Anhwylderau Cyfathrebu Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu ffolder adnoddau dwyieithog i athrawon ei defnyddio mewn ysgolion.

    Roedd ymwelwyr iechyd PABM yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU, y gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr sy’n cydnabod gwasanaethau iechyd ac sy’n rhoi lefelau cymorth ardderchog i famau a theuluoedd er mwyn iddynt wneud penderfyniadau cytbwys am fwydo babanod. Llun: Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyflwyno Gwobr Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU i (chw-dde) Maria Dowden a Clare Shears, Cydlynwyr Bwydo Babanod PABM.

  • 19

    Roedd Melanie Lewis, Prif Therapydd Lymffoedema Macmillan PABM, yn dathlu ar ôl dod yn un o’r gyntaf i ennill Gwobr Rhagoriaeth Gweithwyr Proffesiynol Macmillan. Enillodd, nid un, ond dwy gydnabyddiaeth. Wedi’i lleoli yn Ysbyty Singleton mae Melanie (yn y llun) yn rheoli Gwasanaeth Lymffoedema PABM, sy’n cefnogi cleifion ag aelodau wedi’u chwyddo, a achoswyd gan nodau lymff wedi’u difrodi neu wedi’u tynnu.

    Roedd mentrau gan ddau dîm ABM i wella gofal cleifion wedi arwain at wobr gan Brifysgol Abertawe. Roedd Uned Gofal Dwys Cardiaidd ac Uwch Ymarferwyr Nyrsio Gofal yr Henoed Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud newidiadau i’w gwasanaethau sy’n gwella profiad cleifion. Llun: Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio,

    Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno plac Uned Ymarfer Arloesol i Uwch Ymarferwyr Nyrsio Pen-y-bont ar Ogwr

    Mae rhaglen rheoli pwysau newydd sy’n helpu cleifion gordew yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr i golli pwysau drwy ddeiet ac ymarfer corff wedi ennill un o Wobrau GIG Cymru. Cipiodd y bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM a Phractis Meddygon Teulu Cwm Garw ym Mhen-y-bont ar Ogwr Wobr Hybu Iechyd Gwell ac Osgoi Clefydau. Roedd y 43 claf cyntaf i gofrestru ar y rhaglen wedi colli 7.2kg ar gyfartaledd. Yn y llun gyferbyn yw (ch-dde): Dean Protheroe, Melanie Andrews, Beth Preece a Peter

    Mannion, aelodau o’r tîm buddugol

    Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ennill Safon Iechyd Corfforaethol Arian (CHS) ym mis Hydref 2012 ac wedi cadw’r CHS Aur ym mis Chwefror 2013. Yn y llun gyferbyn (ch-dde) yn ystod cyflwyniad Gwobr CHS Arian yn Chwefror 2013 yw Andrew Davies, Cadeirydd, Nigel Walker, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Chwaraeon Lloegr, Margaret Lake, Pennaeth Iechyd a Lles Staff, Debbie Morgan, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Y Cynghorydd John Rogers, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Claire Waters, Prif Ymarferwr Iechyd yn y Gweithle, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  • 20

    MODERNEIDDIO EIN HAMGYLCHEDD GOFAL

    Parhaodd y Bwrdd Iechyd â’i rhaglen helaeth ac uchelgeisiol i wella ei ystadau a moderneiddio cyfleusterau ysbytai yn 2012/13. Prif ffocws y cynlluniau moderneiddio o hyd yw disodli’r adeiladau presennol y’u hadeiladwyd cyn y rhyfel ar ochr ddeheuol safle Ysbyty Treforys ac adeiladu’r llety clinigol a chefnogi diweddaraf. Bydd hyn yn clirio’r safle ar gyfer ailddatblygu yn y dyfodol yn 2015. Mae gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen ar gyfer adeilad newydd wrth flaen Ysbyty Treforys a fydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i Gleifion Allanol, Uned Ddydd Dialysis Arennol, Swîts Endosgopi newydd a Chanolfan Addysg Integredig ag Ardaloedd Manwerthu ar bedwar llawr. Disgwylir i’r cynllun Gweledigaeth Iechyd Abertawe £60 miliwn hwn gael ei gwblhau yn hydref 2014. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynllun £9.5miliwn i ehangu’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC) bresennol yn Ysbyty Treforys ar gyfer Canolfan Adsefydlu Arbenigol pwrpasol newydd i amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys ALAC, Orthoteg, Peirianneg Adsefydlu ac Electroneg Feddygol. Roedd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi agor y cyfleuster yn swyddogol ym mis Awst 2013.

    Mae’r llun isod yn dangos y Ganolfan Adsefydlu Arbenigol newydd yn Ysbyty Treforys. Peter McCarthy, Rheolwr Prostheteg yn ALAC gyda’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford a agorodd y cyfleuster yn swyddogol yn Awst 2013.

    Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn 2012/13 ym maes iechyd meddwl, gan gomisiynu dwy uned iechyd meddwl newydd yn Abertawe gyda gwerth cyfunol o dros £7.6 miliwn. Mae Tŷ Garngoch (yn y llun dros y ddalen) wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Abertawe am fod y ‘Prosiect Cynaliadwy Gorau’ cyfleuster i gleifion sy’n byw yn y gymuned â chyflyrau fel iselder, dementia neu anhwylderau pryder. Cafodd sylw’r beirniaid gan ei fod yn un o’r adeiladau cyntaf yn y DU i gael ei ffitio â ffenestri plastig wedi’i atgyfnerthu â gwydr (GRP). Mae’r rhain wedi’u cynllunio i gadw ystafelloedd ar dymheredd cysurus, heb angen gwaith cynnal a chadw ac maent yn ailgylchadwy. Yn ogystal, mae gan Dŷ Garngoch systemau gwresogi, goleuo a phŵer sy’n arbed ynni.

  • 21

    Mae ‘Tŷ Garngoch’ (gyferbyn) yn ganolfan gyfunedig newydd ar gyfer Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn 3 a 4 ac yn ddatblygiad Ysbyty Dydd.

    Mae ‘Tŷ Einon’ (gyferbyn) yn Abertawe yn ddatblygiad newydd ar gyfer Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion 3 a 4 ac yn Uned i Gleifion Allanol.

    Enillodd Ysbryd-y-Coed, uned i gleifion mewnol â dementia, ‘Adeilad Gofal Iechyd Cymunedol Gorau’ a’r ‘Prosiect Arloesi Technegol Gorau’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Abertawe. Fe’i cydnabyddwyd oherwydd elfennau o’i ddyluniad sy’n ateb anghenion cleifion â dementia.

    Llun: Aelodau o dîm cynllunio PABM gyda’u gwobrau, ynghyd â chynrychiolwyr o’r contractwyr adeiladu a Dinas a Sir Abertawe.

    Uned Diogelwch Isel newydd â 28 gwely yn Ysbyty Glanrhyd, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn £16miliwn gan Lywodraeth Cymru, rhagwelir y bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn nes ymlaen yn 2013 ac y bydd pobl yn preswylio yno o hydref 2014. Cafodd dau Gynllun Gwella Gofal Sylfaenol eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ym Meddygfa Woodlands yng Nghaerau (Pen-y-bont ar Ogwr) a Meddygfa Cwm Dulais yng Nghoelbren, Castell-nedd. Yn ystod 2013/14 byddwn yn gwneud adolygiad cynhwysfawr o’r strategaeth ystadau gofal sylfaenol a gweithredu’r canlyniadau ar gyfer datblygu Canolfan Adnoddau Gofal Sylfaenol ym Mrynhyfryd, Abertawe, Cwm Nedd a Llansawel yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ogystal â chynyddu gofod ym Meddygfa Tŷ’n Y Coed ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Meddygfa Llansamlet yn Abertawe. Byddwn hefyd yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau gofal sylfaenol mewn cyn safleoedd ysbyty fel Ysbyty Cimla yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

  • 22

    Mae’r prif brosiectau buddsoddi cyfalaf ar gyfer 2012/13 wedi’u nodi isod:

    Safle Adran £m

    Treforys Prif Fynedfa 8.4

    Treforys Ad-drefnu’r Adran Achosion Brys 2.6

    Singleton Newyddenedigol 2

    Castell-nedd Port Talbot Rhaglen Ailwampio 1.6

    Castell-nedd Port Talbot Clinig IVF 0.8

    Treforys Canolfan Wasanaethu 0.7

    Garngoch Canolfan Ddydd Iechyd Meddwl 0.7

    Canolfan Adnoddau Port Talbot

    Ystafelloedd Deintyddol 0.7

    Yn ogystal â’r prif brosiectau a ddisgrifir uchod gwnaeth y Bwrdd Iechyd y buddsoddiadau sylweddol canlynol hefyd mewn nifer o feysydd eraill:

    Rhaglen Cyfalaf Dewisol £m

    Offer Meddygol Newydd £2.76m

    Ffenestri Newydd yn Ysbyty Singleton – cynllun wedi’i gwblhau £2.30m

    Offer Technoleg Gwybodaeth £2.16m

    Ailwampio Ystafelloedd Deintyddol Canolfan Adnoddau Deintyddol Port Talbot

    £700k

    Ailwampio Wardiau G ac H yn Ysbyty Treforys £500k

    Cynaliadwyedd Mae’r Grŵp Rheoli Amgylcheddol Strategol (SEMG), yn adrodd trwy’r Pwyllgor Archwilio i’r Bwrdd ar faterion amgylcheddol. Mae’n gyfrifol am adnabod a sicrhau bod polisïau a strategaethau ar waith i ddiwallu amcanion corfforaethol y Bwrdd Iechyd o ran rheolaeth amgylcheddol. Gwastraff Targed: cynyddu 3%.

    Canlyniad: cyfradd ailgylchu/adfer wedi cynyddu o 16% Trydan Targed: lleihau defnydd 1% Canlyniad: defnydd wedi’i leihau yn ystod y flwyddyn 3.3% Nwy Targed: lleihau defnydd 1%

    Canlyniad: defnydd wedi’i gynyddu 8%. Roedd hyn o ganlyniad i’r tywydd garw yn ystod y flwyddyn.

    Er mwyn cymharu perfformiad ynni o’r naill flwyddyn i’r llall mae fformiwla cywiro tywydd sy’n rhoi cymariaethau uniongyrchol mewn perfformiad. Enw’r broses yw dadansoddiad Diwrnod Gradd. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwella perfformiad 13% yn ystod y flwyddyn gan osgoi gwariant o £272,091. Cyflawnwyd hyn er gwaethaf y tywydd oerach o ganlyniad i gyfarpar mwy effeithlon.

    Dŵr Targed: lleihau defnydd 1%

    Canlyniad: defnydd wedi’i leihau 1%.

  • 23

    Cludiant Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dechrau cofnodi’r gwariant ar deithiau busnes swyddogol. Yn 2012/13, roedd y Bwrdd Iechyd wedi gwario £3,747,040 ar deithiau o’r fath oedd yn cynnwys tua £427,000 ar hawliau teithio oherwydd gormod o filltiroedd a thua £91,000 ar gostau cludiant cyhoeddus. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynlluniau teithio ar gyfer pob un o’i safleoedd. Er mwyn cydnabod y newidiadau i ystâd y Bwrdd Iechyd, byddwn yn adolygu hyn yn barhaus.

    Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwbl ymrwymedig i leihau ei ôl-troed carbon ac yn y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cyflawni achrediad ISO 14001:2004 am ei Systemau Rheoli Amgylcheddol yn ei 4 prif ysbyty acíwt, Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot sy'n cyfateb i dros 50% o'r ystâd. Mae ardystio i ISO 14001 yn ein helpu i adnabod gwastraff o’n gwasanaethau ac mae cymorth ariannol cynaliadwyedd yn dangos ymrwymiad i gydymffurfio yn gyfreithiol ac yn rheoliadol â rheoleiddwyr a'r llywodraeth. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gobeithio ehangu ei achrediad ISO 14001 eleni ac mae eisoes wedi dechrau adolygiadau amgylcheddol ar Ysbyty Glanrhyd, Ysbyty Cefn Coed, Ysbyty Maesteg ac Ysbyty Gorseinon ac Uned Tŷ Einon. Bydd canfyddiadau’r adolygiadau hyn yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynlluniau amgylcheddol ar gyfer pob un o’r safleoedd ac mae hyn yn rhan o’r broses achredu. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi adolygu ei bolisïau a’i weithdrefnau datblygu cynaliadwy o fewn y flwyddyn ddiwethaf gan ddatblygu Polisi Amgylcheddol newydd a Datganiad Polisi Amgylcheddol. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi datblygu ei Amcanion a’i Dargedau Amgylcheddol Corfforaethol yn ogystal â thros 20 o safonau gweithredol.

    ALLYRIADAU NWYON TŶ GWYDR

    2010/11 2011/12 2012/13

    Dangosyddion Anariannol

    (1,000 tCO2e)

    Cyfanswm gros allyriadau

    47 45 46 Allyriadau gros Cwmpas 1 (uniongyrchol)

    20 20 21 Allyriadau gros Cwmpas 2 a 3 (anuniongyrchol)*

    26 25 25 Ynni

    Perthynol a Ddefnyddiwyd (miliwn KWh)

    Trydan: Anadnewyddadwy

    48 46 46

    Nwy 104 96 113

    Arall 6 7 7.5

    Dangosyddion Ariannol (£miliwn)

    Gwariant ar Ynni 7 7.5 8

    Gwariant ar deithiau busnes swyddogol * * £3,747,040

    * nid yw data ar gael mewn ffurf gyson cyn 2012/13.

    Mae’r Bwrdd Iechyd yn prynu 90% o’i drydan ar dariff gwyrdd gan ein cyflenwyr a thros y tair blynedd diwethaf mae wedi cynhyrchu dros 9MkWh o drydan drwy ei Uned CHP (Gwres a Phŵer Cyfunedig) yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Cefn Coed, gan leihau’r allyriadau CO2 posibl dros 5,365 tunnell.

  • 24

    Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i ymchwilio i ostyngiadau ynni eraill. Fodd bynnag mae datblygu gwasanaethau, yn enwedig yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Cefn Coed, yn golygu y bydd cynnydd anochel mewn defnydd ar y safleoedd hyn. Mentrau Cynaliadwyedd Eraill Er mwyn lleihau nwyon CO2 mae paneli ffotofoltäig wedi cael eu gosod yn Uned Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn Ysbyty Tywysoges Cymru a Chlinig Pencoed ac mae uned CHP wedi cael ei gosod yn Ysbyty Treforys.

    Gwastraff 2010/11 2011/12 2012/13

    Dangos-yddion

    Anariann-ol (tunelli)

    Cyfanswm gwastraff 3739 4627 4643

    Safle tirlenwi 3046 3993 4029 Ailddefnyddio/ ailgylchu 443 406 474 Llosgi ac adfer ynni

    215 228 241

    Dangos-yddion

    Ariannol (£miliwn)

    Cyfanswm cost gwaredu 1,272,332 1,248,375 1,237,404

    Safle tirlenwi 1,065,433 1,051,783 1,021,816 Ailddefnyddio/ ailgylchu 63,442 46,954 54,971

    Llosgi ac adfer ynni 143,458 149,638 160,621

    Er bod cynnyrch gwastraff wedi cynyddu yn ystod y tair blynedd diwethaf oherwydd cynnydd yn y defnydd o amryw eitemau untro fel gŵn theatr ac offer theatr, mae'r Bwrdd Iechyd wedi llwyddo i leihau ei gostau o ganlyniad i adolygiad o'i arferion. Yn 2012/13 rydym wedi gweld cynnydd mewn ailgylchu o safleoedd cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr ers cyflwyno system casglu biniau olwynion. Mae'n ofynnol i'r Bwrdd Iechyd gydymffurfio â'r targedau a nodwyd yn Strategaeth Wastraff Llywodraeth Cynulliad Cymru "Tuag at Ddyfodol Diwastraff", sef:

    Cyfradd ailgylchu / adfer o 70% ar gyfer pob sector erbyn 2025

    Targed hirdymor o beidio â chynhyrchu unrhyw wastraff yng Nghymru erbyn 2050. Bydd prosiectau i wella cyfraddau ailgylchu ac adfer yn cael eu mabwysiadu drwy System Reoli Amgylcheddol y Bwrdd Iechyd ISO14001 er mwyn sicrhau bod yr holl wastraff a gynhyrchir yn cael ei reoli'n gywir. Cynhaliwyd cynllun arbrofol ar raddfa fach hefyd o ailgylchu gwastraff pecynnau theatr a fydd yn gweld arbedion trwy ddargyfeirio gwastraff o'r ffrydiau gwastraff clinigol.

  • 25

    Defnydd Adnoddau Penodol 2010/11 2011/12 2012/13

    Dangosyddion Anariannol (000m3)

    Dŵr a ddefnyddiwyd

    (Ystâd Di-swyddfa) Cyflenwyd 438 455 450

    Dangosyddion Ariannol £ miliwn

    Costau Cyflenwad Dŵr (Ystâd Di-swyddfa) 0. 554 0.505 0.5

    Oherwydd newidiadau mewn arferion gweithredol clinigol, bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o ddŵr trwy hyrwyddo hylendid dwylo yn ogystal â chyflwyno trefnau profi newydd.

    Gosodwyd targed gan y Bwrtdd Iechyd i leihau’r defnydd o ddŵr 1% ac mae’r tabl uchod yn dangos gostyngiad o 1.09% yng nghyfaint y dŵr a ddefnyddiwyd. Mae gan yr holl brif safleoedd ysbyty gyfleusterau darllen Mesurydd Awtomatig (AMR) ar waith a darllenir yr unedau llai bob mis.

    Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd Iechyd yn hybu cynllun HVS arall, Canolfan Gwasanaethau Cyfunedig bwrpasol gwerth £4.8 miliwn yn Ysbyty Treforys, i gefnogi staff gwasanaethau nad ydynt yn feddygol gan gynnwys staff domestig, arlwyo a golchi dillad, fel rhan o’r gwaith parhaus o ddisodli’r hen adeiladau y’u hadeiladwyd cyn y rhyfel. Fe welwch uchod argraff arlunydd o’r cyfleuster newydd.

  • 26

    GWERTHFAWROGI, DATBLYGU A CHEFNOGI STAFF Gwybodaeth am y Gweithlu Mewn ymateb i Law yn Llaw at Iechyd, y weledigaeth bum mlynedd ar gyfer GIG Cymru, ac yn benodol Fframwaith y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Gweithio’n Wahanol, Gweithio Law yn Llaw, mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio darparu gofal diogel ac effeithiol gan sicrhau’r staff iawn a gweithredu effeithiolrwydd trwy leihau ac ad-drefnu ei weithlu dros y ddeuddeng mlynedd diwethaf. Mae’r newid yn y gweithlu wedi adlewyrchu’r newidiadau niferus i’r gwasanaethau sydd wedi digwydd trwy’r broses cynllunio gweithlu ac fe’i nodir isod yn ôl y Grŵp Staff penodol:

    Gyda throsiant o 6% ar 31 Mawrth 2013 mae amrywiaeth y gweithlu fel a ganlyn:

    0

    1000

    2000

    3000

    4000

    5000

    6000

    530

    2380 2245

    769 1348

    259

    1264

    4277

    12

    612

    3135 2677

    916

    1698

    294

    1512

    5086

    14

    FTE Mar 13 Headcount Mar 13

    0.00

    2,000.00

    4,000.00

    6,000.00

    8,000.00

    10,000.00

    12,000.00

    FTE

    Female

    Male

    0.00%

    20.00%

    40.00%

    60.00%

    80.00%

    100.00%

    Headcount%

    Female

    Male

  • 27

    Mae Iechyd a Lles y gweithlu o’r pwys pennaf o ran darparu gwasanaethau diogel ac effeithlon i’n cleifion. Mae’r gostyngiad yn nifer oriau dan gontract y gweithlu ynghyd â chynnydd yn nifer y staff sy’n absennol oherwydd salwch wedi cyfrannu at gynnydd cyffredinol yn y lefel salwch o 6% ar 31 Mawrth 2013:

    Mesur Blwyddyn Ariannol 2011/12

    Blwyddyn Ariannol 2012/13

    % Absenoldeb Salwch (Dros 12 mis) 5.37% 6%

    Cyfanswm y nifer o ddiwrnodau a gollwyd

    270,210.05

    Tymor Byr 135,948.32

    Hirdymor

    135,217.12

    289,704.62

    Tymor Byr 142,174.99

    Hirdymor

    147,419.06

    Cyfanswm nifer o flynyddoedd staff

    13,465.20 13,229.59

    Cyfartaledd y nifer o ddiwrnodau gwaith a gollwyd

    13 14

    Cyfanswm y nifer o staff a gyflogwyd yn y cyfnod (cyfartaledd cyfrif pennau)

    16,328 16,164

    Cyfanswm y nifer o staff a gyflogwyd yn y cyfnod heb absenoldeb (cyfartaledd

    cyfrif pennau)

    6,881 6,511

    Canran o staff heb absenoldeb salwch

    42.14% 40%

    O gydnabod yr heriau a gyflwynir gan absenoldeb oherwydd salwch, mae ein ffocws ar iechyd a lles staff a’n hymrwymiad iddo yn parhau i fod yn flaenoriaeth sefydliadol. Mae ein cefnogaeth a’n datblygiadau yn 2012/13 yn cynnwys y canlynol:

    Roedd brechiadau ffliw staff wedi cynyddu o 23.5% yn 2011/12 i 35.9% yn 2012/13. Roedd achosion o'r frech goch yn Abertawe wedi dechrau ymgyrch benodol i frechu staff, gan arwain at fwy na 2,500 o staff yn cael eu brechu;

    Ar ôl datblygu gwasanaeth Cyhyrau a Chymalau i Staff, mae adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi bod yn ardderchog. Mae astudiaeth yn defnyddio sampl o 120 o staff oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn dangos bod 74 (64%) yn y gwaith adeg atgyfeirio. Mae data’r Cofnod Staff Electronig (ESR) yn adrodd nad oedd unrhyw gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer yr un o’r unigolion hyn o’r dyddiad atgyfeirio i Ebrill 2012 pan gynhaliwyd yr astudiaeth. Mae’r wybodaeth hon yn dangos bod y gwasanaeth yn llwyddiannus o ran atal absenoldeb oherwydd salwch trwy ddefnyddio ymyriadau cynnar. Roedd y 46 (36%) sy’n weddill yn absennol oherwydd salwch adeg atgyfeirio. Mae data’r ESR yn adrodd, adeg adroddiad ESR (Ebrill 2012), bod 26 (57%) o gyflogeion wedi dychwelyd i’r gwaith. Mae tystiolaeth yn dangos bod nifer y diwrnodau o absenoldeb oherwydd salwch fesul unigolyn ar gyfartaledd hyd at ddyddiad atgyfeirio oedd 85. Mae nifer y diwrnodau o absenoldeb oherwydd salwch ar gyfartaledd o’r dyddiad atgyfeirio i’r dyddiad dychwelyd i’r gwaith yw 31.4. Mae’r dystiolaeth hon yn awgrymu bod y Gwasanaeth Cyhyrau a Chymalau i Staff wedi

  • 28

    hwyluso dychwelyd i’r gwaith. Caiff y gwasanaeth ei werthuso yn ffurfiol yn ystod 2013;

    Buddsoddwyd adnodd ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth Cwnsela Staff;

    Penodwyd Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Iechyd a Lles Staff ac mae cynlluniau i gyfuno gwasanaethau gan gynnwys Iechyd Galwedigaethol, Lles Seicolegol a’r Tîm Lles drwy Waith yn cael eu datblygu;

    Mae cynllun peilot wedi cael ei wneud i nodi a yw mynediad uniongyrchol i Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol (o fewn wythnos o’r atgyfeirio) yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb yn y gwaith ac ar leihau’r oedi o ran delio â materion yn ymwneud â’r gweithlu i leihau absenoldeb oherwydd salwch; mae ei effaith a’i fanteision yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd;

    Mae mentrau hybu iechyd eraill yn cynnwys cyflwyno clinigau Pobl Iach, cynllun Beicio i Iechyd, Lles drwy Waith, cyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth a chyngor i staff trwy’r Rhyngrwyd, Her y Cadeirydd, Hyrwyddwyr Iechyd, hyfforddiant ‘Ysgafnhau’ a chymorth lles ac ystwythder;

    Mae’r gwelliannau a gynlluniwyd ar gyfer 2013/14 yn cynnwys:

    Gweithredu Gwasanaeth Iechyd a Lles Integredig i Staff a fydd yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer pob atgyfeiriad, brysbennu effeithiol adeg atgyfeirio, ffurflen atgyfeirio electronig y gellir ei chyflwyno yn ddiogel trwy'r fewnrwyd, tîm gweinyddol Iechyd Galwedigaethol canolog, cynllunio cynhwysedd i wneud y gorau o adnoddau meddygol, gweithdrefnau llawdriniaeth safonol a rheoli perfformiad yn drylwyr;

    Datblygu cynllun gwaith cytûn ar gyfer gwasanaethau Seicoleg a Chwnsela Staff i sicrhau bod yr adnoddau prin yn cael eu defnyddio’n effeithiol a’u blaenoriaethu i roi sylw i’r problemau a nodwyd;

    Mabwysiadu Siarter Iechyd a Lles Staff a Siarter Cyflogwr Ystyrlon i Gymru gyfan, gan gefnogi datblygiad Rhwydwaith Iechyd Galwedigaethol a Dangos Defnydd o ‘Fodel Gwerthuso Manteision Boorman’.

    Mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio mynd i’r afael ag ansawdd data ethnigrwydd ei weithlu yn y flwyddyn sydd i ddod a fydd yn cefnogi ei Ddyletswydd Cyflogaeth o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae manylion llawn y Rhaglen i’w gweld yng Nghynllun Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/page/59057 Cydraddoldeb Mae cydraddoldeb yn un o egwyddorion craidd ein Bwrdd Iechyd ac mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg. Nid yw'n golygu trin 'pawb yr un fath', ond cydnabod bod anghenion pawb yn cael eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol. Ni ddylai ein hoedran, ein hanabledd, ein ffydd neu gred, ein rhyw, ein hil, ein cyfeiriadedd rhywiol, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bod yn drawsryweddol neu fod yn feichiog fod o anfantais i ni. Mae'r nodweddion gwahanol hyn yn cael eu diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2012-2014 yn Ebrill 2012 i gydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru. Roedd 2012/13 yn canolbwyntio ar weithredu’r camau i gyflawni’r amcanion. Mae’r gwelliannau’n cynnwys:

    Darparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer staff sy’n gweithio gyda chleifion â dementia yn y gymuned a’r ysbyty. Trwy dorri elfennau gofal dementia yn

    http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/page/59057

  • 29

    fodiwlau fel cyfathrebu, bwyta ac yfed, mae’r Tîm Hyfforddi Gofal Dementia yn hyfforddi staff i ddefnyddio cefndir claf i deilwra eu gofal. Roedd y Tîm wedi ennill gwobr ar gyfer y poster gorau am eu gwaith yng Nghynhadledd gyntaf Pwyllgor Cynghorol Therapïau Cymru;

    Dathlu amrywiaeth Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol trwy gynnal stondin ar y cyd ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystod Gŵyl Balchder Abertawe.

    Cyflwyno gwasanaeth newydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru trwy arian a ddarparwyd gan y Loteri Fawr ar gyfer cleifion sydd yn colli golwg. Mae Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid yn rhoi cymorth emosiynol a gwybodaeth ymarferol i gleifion, fel manylion grwpiau cymorth lleol, cyrsiau hyfforddi a gwasanaethau cymdeithasol.

    Mae Grwpiau Ethnig Eraill yn parhau i gyfrif am 3% o’r gweithlu:

    50.75%

    46.44% 2.80%

    2.80%

    Not Stated

    White Any Background

    Other Ethnic Groups

  • 30

    Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae agenda y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y Bwrdd Iechyd wedi canolbwyntio ar ddatblygu ein gallu i arwain, cryfhau ymgysylltiad staff, datblygu diwylliant ansawdd a diogelwch gyda ffocws ar weld gwelliannau trwy ‘lygaid y cleifion’, a sicrhau bod llywodraethu gweithlu a stiwardiaeth reolaethol gadarn yn cael eu cynnal i gyflawni strategaethau a nodau PABM. Roedd ‘Gweithio’n Wahanol Gweithio Gyda’n Gilydd - Fframwaith Gweithlu a Datblygu Sefydliadol GIG Cymru’ yn sylfaen i’n gwaith. Galluoedd Arweinyddiaeth a Gweithio Mewn Tîm Rydym wedi parhau i ddatblygu ein harweinwyr clinigol fel hyrwyddwyr ar gyfer arloesi a gwella trwy greu gofod a chyfleoedd datblygu er mwyn iddynt dyfu a gwneud y mwyaf o'u potensial. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi adolygu ein rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth ac yn awr rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu wedi'u targedu ar gyfer ein staff meddygol ymgynghorol, uwch reolwyr/arweinwyr clinigol (Arwain ar gyfer Gwella Ansawdd), rheolwyr canol (Arwain i Gyflawni) ac arweinwyr tîm (Rheoli i Gyflawni).

    Mae arweinyddiaeth ar gyfer gwelliant yn elfen graidd o’n holl raglenni ac mae prosiectau gwella gwasanaeth yn cael eu darparu gan yr holl gyfranogwyr er budd gofal cleifion yn uniongyrchol. Mae staff rheng flaen hefyd wedi elwa o IMPACT, rhaglen galluogi ac awdurdodi gyda'r nod o helpu staff i feddwl yn gadarnhaol am eu hunain, sut maent yn gweithio a’r dylanwad cadarnhaol y gallant ei gael ar eraill trwy wella'r gwasanaeth.

    Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi buddsoddi mewn datblygu ei dimau clinigol, gyda mentrau penodol ar gyfer uwch reolwyr clinigol a hyfforddiant rheoli cyffredinol. Un o'n llwyddiannau eleni yw gwaith ein Rhaglen Llwybr Llawfeddygol wrth gyflwyno hyfforddiant 'Ffactorau Dynol'. Roedd dros 130 o staff rheng flaen sy'n gweithio o fewn y llwybr i gleifion sy'n cael llawdriniaeth wedi mynd i ddigwyddiad PABM ym mis Mawrth 2013 lle esboniwyd sut mae ffactorau dynol yn dylanwadu ar y swydd, yr unigolyn a'r sefydliad a sut mae gweithio mewn tîm, rhestrau gwirio a sesiynau briffio yn allweddol i symud gwelliannau yn eu blaen. Mae'r ddealltwriaeth hon yn cael ei rhaeadru ar hyn o bryd drwy’r Rhaglen Llwybr Llawfeddygol.

    Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn parhau i gyflwyno Gweithio mewn Tîm i dimau clinigol er mwyn gwneud y gorau o berfformiad tîm a gwella gofal i gleifion, yn seiliedig ar dystiolaeth yr Athro Michael West a'r gydberthynas yr oedd yn gallu ei dangos rhwng gweithio mewn tîm effeithiol, canlyniadau gwell i gleifion a gwell iechyd a lles i staff.

    Ymgysylltiad Staff Mae cryfhau ymgysylltiad staff wedi bod yn ffocws arbennig eleni a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae Blog Wythnosol y Prif Weithredwr yn ffefryn ymysg llawer o staff ac mae ein sesiwn Briffio Tîm bob mis yn rhaeadru negeseuon allweddol am ein gwasanaethau, ein cleifion a'n staff i staff rheng flaen. Yn ogystal, mae ein Haelodau nad ydynt yn Swyddogion, Rheolwyr Gweithredol ac uwch reolwyr eraill yn nodi dyddiadau ar gyfer ymweliadau anffurfiol penodol â’n meysydd clinigol i wrando ar staff, gan gynnig cymorth ac arweiniad. Mae Grwpiau Cyswllt Meddygon Iau yn ddatblygiad newydd eleni yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Singleton ar ôl eu cyflwyno am y tro cyntaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Yn benodol, mae’r grwpiau hyn yn rhoi ‘llais’ i weithlu’r Meddyg Iau i harneisio eu

  • 31

    syniadau o ran gwella ansawdd a diogelwch y gwasanaethau a ddarperir i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Moe Fforymau Agored Staff yn chwarae rhan bwysig mewn ymgysylltiad staff. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu trafodaethau am bynciau penodol fel y newidiadau i Wasanaethau Meddygol Acíwt yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a Rhaglen C4B. Mae’r olaf hefyd wedi cael ei gefnogi gan gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys stondinau gwybodaeth yn ein bwytai i staff. Gweithio Mewn Partneriaeth Er mwyn cyflawni’r amcan cyffredinol o ddarparu’r safonau gofal gorau ar gyfer ein cleifion mae is-grŵp i Fforwm Partneriaeth y Bwrdd Iechyd wedi cael ei sefydlu. Mae’r is-grŵp, sydd â chynrychiolwyr o’r Tîm Gweithlu uwch a phrif sefydliadau Undebau Llafur, yn cydweithio ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu sy’n effeithio ar staff o ganlyniad i agendâu ariannol a newid heriol fel y nodir yn Strategaeth Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Iechyd. Mae datganiad ar y cyd wedi cael ei gytuno gan y Bwrdd Iechyd a’r Fforwm Partneriaeth sy’n nodi’r camau y bydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni’r heriau hyn trwy ein gweithlu. Persbectifau Staff Ym mis Mawrth 2013, roedd tua 400 o staff wedi mynd i’r saith digwyddiad gwrando ar staff a gynhaliwyd yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Francis, yn bennaf dan arweinyddiaeth y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Nyrsio a'r Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro. Yn dilyn y digwyddiadau hyn, cafodd sylwadau a syniadau eu cyflwyno gan staff o ran yr hyn mae angen i ni ei wneud yn wahanol. Rydym wrthi yn mynd trwy’r syniadau a'r adborth ar hyn o bryd, ond mae rhai mentrau pwysig yn cael eu datblygu fel cyflwyno Rowndiau Schwartz ar gyfer staff o bob disgyblaeth i drafod materion emosiynol a chymdeithasol anodd sy’n deillio o ofal cleifion. Yn ogystal, roedd staff wedi cael y neges bod rôl arwain gan BOB aelod o staff sy'n rheoli a bod cyfrifoldeb gan bob aelod o staff am sicrhau ein bod yn darparu gofal da.

    Mae gwrando ar staff a chymryd camau yn flaenoriaeth allweddol i Fwrdd Iechyd PABM, ac mae hyn yn dangos faint mae’n gwerthfawrogi ei staff. Yn ogystal, mae’r ffordd rydym yn casglu persbectifau staff yn ymestyn ar draws pob gwasanaeth a bydd yn cynnwys gofal i bobl hŷn, ac yn cydnabod gwerth ein sefydliad fel cyfanrwydd sef ‘trin pobl eraill ag urddas a pharch’. Fel baromedr, roedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd rhan mewn Arolwg Staff GIG Cymru ‘Rhowch Eich Barn i Ni’ yn Chefror 2013. Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi wedyn ym Mai 2013 ac mae cynllun gweithredu’n cael ei lunio ar y cyd â staff i roi sylw i’r canfyddiadau. Bydd manylion pellach o ran yr hyn fydd yn cael ei roi ar waith yn cael eu nodi yn yr Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf.

    Datblygu Staff mewn Gwella Ansawdd Mae Rhagori – y Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn nodi’r weledigaeth ar gyfer GIG sy’n hyrwyddo ansawdd, gan ganolbwyntio ar ddarparu gofal o safon a phrofiad ardderchog i’r cleifion. Mae’n cydnabod taw’r prif ysgogwyr dros gyflawni hyn yw;

    uchelgeisiau ac ymrwymiad ein staff, gan eu hysbrydoli i gymryd cyfrifoldeb am wella safon y gofal maent yn ei ddarparu, a

    system sy’n dangos ymddygiad sefydliadau uchel eu perfformiad, sy’n canolbwyntio ar ansawdd. Rhaid iddi

  • 32

    gynnwys gwerthoedd a nodau clir, arweinyddiaeth weladwy ar bob lefel, ymgysylltiadau cadarn â chyflogeion a boddhad cyflogeion, ffocws di-baid ar wella, systemau cadarn o adrodd a dysgu a bod yn agored ym mhob peth a wnânt.

    Mae Fframwaith Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd Iechyd yn cydnabod ‘Diwylliant a Galluoedd’ yn un o’r pedair elfen sy’n ysgogi dull cyson o wella a sicrhau ansawdd. Mae’r rhaglen Arloesi, Cefnogi a Gwella Gwyddoniaeth felly wedi cael ei sefydlu eleni i arwain yr agenda hon ac mae ISIS wedi mabwysiadu’r egwyddorion yn Gweithio’n Wahanol Gweithio Gyda’n Gilydd - Fframwaith Gweithlu a Datblygu Sefydliadol GIG Cymru.

    O fewn rhaglen ISIS mae cynllun peilot Tîm Trawsnewid Gwasanaeth (STT) wedi cael ei sefydlu i ddarparu arweinyddiaeth glinigol a chymorth ymarferol i dimau clinigol wrth ailddylunio llwybrau gofal. Ers mis Medi 2012, mae’r STT wedi bod yn gweithio gyda'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Rhanbarthol i ganolbwyntio ar wella mynediad ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd a llwybrau gofal niwroleg yn ogystal â gwella sut mae oedolion ag Awtistiaeth Asperger yn cael mynediad i wasanaethau gofal iechyd.

    Mae ISIS hefyd yn cefnogi Arweinwyr Gwella gan weithio gyda thimau clinigol ar wella 'Llif Cleifion' a'r 'Llwybr Llawfeddygol' – a nodwyd fel blaenoriaethau gweithredol allweddol ar gyfer gwaith gwella penodol yn 2013.

    Bydd Rhaglen ISIS yn sicrhau bod yr holl ymdrechion yn canolbwyntio ar adeiladu athroniaeth a fframwaith gwella ansawdd a bod ein staff wrth wraidd cywiro pethau gan anelu at ragoriaeth yn gyson. Llywodraethu’r Gweithlu Wrth ddarparu ansawdd a diogelwch trwy gynnwys ei bobl bydd angen i’r Bwrdd Iechyd ddiogelu’r model staffio iawn, gyda’r sgiliau iawn, lle bydd unigolion yn bersonol yn teimlo’n gyfrifol am gyflawni canlyniadau gyda chymorth arweinwyr ysbrydoledig sy’n sicrhau’r newid diwylliannol gofynnol, sy’n grymuso ac yn ymgysylltu â phob aelod o staff y GIG. Wrth wneud hyn, mae’r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu Pwyllgor Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Mae rhagor o fanylion am hwn i’w gweld ar dudalen 7. Trais ac Ymddygiad Ymosodol Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i wella’r ffordd rydym yn diogelu staff rhag trais ac ymddygiad ymosodol ar draws y Bwrdd Iechyd. Nod y rhaglen wella yw diogelu a pharchu staff ac mae’n canolbwyntio ar hyrwyddo’r cydfuddiannau a’r pherthnasoedd rhwng atal a mynd i’r afael â thrais ac ymddygiad ymododol a gofal ardderchog cleifion a rheolaeth dda pobl.

  • 33

    NEGES GAN Y CYFARWYDDWR CYLLID Mae’n bleser gen i osod y Crynodeb o Ddatganiadau Ariannol sy’n disgrifio perfformiad ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Bwrdd Iechyd PABM) ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2013. Tra bod crynodeb o’r Datganiadau Ariannol wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol hwn, efallai y bydd angen copi llawn o’r Cyfrifon Blynyddol ar gyfer dealltwriaeth lawnach o berfformiad a safle ariannol y Bwrdd Iechyd, sydd ar gael ar gais i’r Cyfarwyddwr Cyllid. Maent hefyd ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/.

    TARGEDAU ARIANNOL STATUDOL Llwyddodd Bwrdd Iechyd PABM i gyflawni’r tri tharged ariannol statudol eto eleni, fel y dangosir yn y tablau isod, ynghyd â chymariaethau ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Terfyn Adnoddau Refeniw Ni ddylai'r Targed Ariannol gael ei dorri gan unrhyw Fwrdd Iechyd GIG Cymru, h.y. rhaid i fyrddau iechyd gadw eu costau gweithredu net yn is na'r terfyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dengys y tabl isod bod Bwrdd Iechyd PABM wedi tanwario dim ond £0.141m (0.015%) yn erbyn ei Derfyn Adnoddau Refeniw o £941.830m.

    Tabl 1: Perfformiad yn erbyn Terfyn Adnoddau Refeniw

    2012/13

    £m 2011/12

    £m 2010/11

    £m

    Terfyn Adnoddau Refeniw 941.830 920.216 905.127

    Costau Gweithredu Net 941.689 920.080 904.780

    Tanwario / (Gorwario) yn erbyn TAR 0.141 0.136 0.347

    Fel % o’r Targed 0.015% 0.015% 0.038%

    Terfyn Adnoddau Cyfalaf Ni ddylai'r Targed Ariannol gael ei dorri gan unrhyw Fwrdd Iechyd GIG Cymru, h.y. rhaid i fyrddau iechyd gadw eu gwariant cyfalaf yn is na'r terfyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dengys y tabl isod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi tanwario dim ond £0.055m (0.15%) yn erbyn ei Derfyn Adnoddau Cyfalaf o £36.655m.

    Tabl 2: Perfformiad yn erbyn Terfyn Adnoddau Cyfalaf

    2012/13

    £m 2011/12

    £m 2010/11

    £m

    Terfyn Adnoddau Cyfalaf 36.655 49.112 64.463

    Costau yn erbyn TAC 36.600 49.074 64.397

    Tanwario / (Gorwario) yn erbyn TAC 0.055 0.038 0.066

    Fel % o’r Targed 0.150% 0.077% 0.102%

    http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/

  • 34

    Polisi Taliadau’r Sector Cyhoeddus (PSPP) Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i fyrddau iechyd dalu eu credydwyr masnach yn unol â Chôd Talu’n Brydlon y CBI a rheolau cyfrifyddu'r Llywodraeth. Y targed ariannol yw talu 95% o'r anfonebau hyn o fewn 30 diwrnod o’u derbyn. Mae'r tabl isod yn dangos bod Bwrdd Iechyd PABM yn talu 97.1% o’r anfonebau hyn o fewn y targed.

    Tabl 3: Perfformiad yn erbyn Targed PSPP

    2012/13 2011/12 2010/11

    Nifer yr Anfonebau a Dalwyd 240,327 239,739 228,754

    Anfonebau a Dalwyd o fewn Targed 233,369 232,341 220,942

    % o Anfonebau a Dalwyd o fewn Targed 97.1% 96.9% 96.6%

    Targed Arian Er nad yw’n darged ariannol statudol, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd Cymru gadw balansau arian ar y lefel ofynnol isaf i gefnogi anghenion gweithredol a lle bo’n bosibl, cyrraedd y targed arian arfer gorau o 1/300fed o'u terfyn tynnu arian blynyddol ar ddiwedd pob mis calendr. Cyrhaeddwyd y targed hwn hefyd yn 2012/13 gyda balans arian terfynol o £2.818m, yn erbyn uchafswm targed o £3.071m. CYFLAWNIADAU ALLWEDDOL 2012/13 Cyfrifon Blynyddol Rhoddodd yr Archwilwyr Allanol farn ddiamod yn ardystio bod y datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2013 yn rhoi darlun cywir a theg o gyfrifon blynyddol Bwrdd Iechyd PABM, ei gostau gweithredu net, ei enillion a cholledion cydnabyddedig a’r llif arian ar gyfer y flwyddyn. Roeddynt hefyd wedi ardystio bod y datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi’n iawn yn unol â Deddf y GIG (Cymru) 2006 a chyfarwyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Rhaglen Gwella Costau Yn 2011/12 roedd y Bwrdd Iechyd yn wynebu gorfod cyflawni arbedion mawr/mesurau arbed costau i helpu i sicrhau safle refeniw cyffredinol cytbwys. Dros y flwyddyn, arbedwyd bron £30 miliwn drwy amrywiaeth o gynlluniau, gyda chyfraniadau sylweddol yn dod o’r meysydd canlynol:

    Caffael: gwnaethpwyd arbedion mawr mewn nifer o feysydd; yn arbennig, gwnaethpwyd arbedion sylweddol ar gost prosthesis orthopedig.

    Rheoli Meddyginiaethau: mewn lleoliadau Gofal Sylfaenol ac Eilaidd, gwnaethpwyd arbedion mawr o ganlyniad i gaffael cyffuriau yn well, drwy newid i gyffuriau llai drud, ond yn briodol er hynny, a mentrau eraill.

    Costau Gofal Iechyd Parhaus: Rheolwyd y gyfradd dwf drwy gyfres o gamau gweithredu, gan gynnwys mwy o graffu gan baneli a rhaglen dychwelyd cleientiaid cost uchel.

    Arbedion gweithlu trwy wella datblygiadau gwasanaethau. Yn gyffredinol roedd hyn wedi cyfrannu’n fawr at sicrhau cydbwysedd ariannol yn 2012/13.

  • 35

    Effeithlonrwydd y Bwrdd Iechyd Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu, o edrych yn ôl, mynegai effeithlonrwydd yn cymharu perfformiad pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Yn 2012/13 cynhyrchwyd y mynegai ar gyfer 2011/12, a dangosodd mai sgôr mynegai Bwrdd Iechyd ABM oedd 94.9 a chyfartaledd Cymru Gyfan oedd 100, sy’n golygu bod costau Bwrdd Iechyd PABM yn llawer llai na chyfartaledd Cymru. Mae’n dangos yn glir werth am arian y gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd PABM.

    Siart 1: Mynegai Bwrdd Iechyd PABM yn erbyn Cyfartaledd Cymru Gyfan o 100

    Gwybodaeth a Chostio Lefel Cleifion Yn ystod 2012/13 mae PABM wedi canolbwyntio ar ddatblygu Gwybodaeth a Chostio Lefel Cleifion. Mae’r dull hwn yn cynnwys casglu a chyfateb data o systemau gwybodaeth glinigol amrywiol er mwyn deall y patrwm o ddefnyddio adnoddau ar gyfer cleifion unigol. Mae manteision y dull hwn yn cynnwys: -

    Tryloywder o ran lle y gwerir adnoddau;

    Deall lefel yr adnoddau a ddefnyddiwyd drwy gydol y llwybr cleifion llawn;

    Dealltwriaeth well o’r berthynas rhwng gweithgarwch, cymysgedd achosion a chost;

    Canolbwyntio’n well ar ansawdd ac amseroldeb gwybodaeth lefel cleifion;

    Adnabod a dadansoddi amrywiad mewnol ac allanol; ac

    Amlygu meysydd sydd angen gweithredu rheoli pellach ac enillion effeithlonrwydd posib.

    Mae’r wybodaeth hon wedi cael ei hymgorffori yn Offeryn Gweithgaredd y Comisiynydd ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau Gofal Cymunedol a Sylfaenol i ddarparu trosolwg o gyfanswm arian mae’r Bwrdd Iechyd wedi ei wario, fel y crynhoir isod:

    Siart 2: Dadansoddi Gwariant Bwrdd Iechyd PABM Ar Draws Sectorau Iechyd:

    94.86%

    100.00%

    0.00% 20.00% 40.00% 60.00% 80.00% 100.00% 120.00%

    ABMU

    All Wales

    49.92%

    11.31%

    11.57%

    27.20%

    Acute Services

    Mental Health

  • 36

    Bydd yn bosibl dadansoddi’r wybodaeth hon ar lefel rhwydwaith cymunedol a phractis meddygon teulu a bydd yn cefnogi’r Bwrdd yn ei nod o leihau anghydraddoldebau iechyd a chynyddu manteisio iechyd trwy ddefnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn effeithiol. Cyflogwr Arfer Gorau Mae’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) yn parhau i gydnabod y Gyfarwyddiaeth Gyllid fel cyflogwr arfer gorau, ac yn ardystiedig ar gyfer achrediad CPD. Arolygon Cwsmeriaid Mae deall anghenion a disgwyli