Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU) Beth ydyw? Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU?
description
Transcript of Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU) Beth ydyw? Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU?
Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU)
Beth ydyw?Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU?Pwy ddylai ddefnyddio'r AAU?Pryd ddylwn i gyfrannu at fy AAU?Sut ddylwn i gyfrannu at fy AAU?Pa mor aml y dylwn i ychwanegu at fy AAU?Ble fyddwn i'n defnyddio fy AAU?
Beth ydyw? Matrics o'r safonau arweinyddiaeth yng Nghymru yw'r Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU)
Mae'r safonau o fewn yr AAU wedi'u trefnu o dan y meysydd allweddol canlynol
Pennu Cyfeiriad Strategol Arwain ar Ddysgu ac Addysgu Datblygu a gweithio gydag eraill Rheoli'r ysgol Sicrhau atebolrwydd Cryfhau'r ffocws cymunedol
Rhoddir disgrifydd fel rhagddodiad ar gyfer pob maes allweddol sy’n pennu ffocws y safonau yn y maes allweddol
Mae lle yn yr AAU i’r ymarferydd gynnwys tystiolaeth o'r graddau y mae ei arferion eisoes yn bodloni anghenion y safonau, ac i nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn y dyfodol.
Mae'r AAU yn 'ddogfen fyw' gyfredol sy’n cynnwys tystiolaeth o'ch arweinyddiaeth yn erbyn y safonau arweinyddiaeth cenedlaethol.
Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU?
I ddod yn ymarferydd myfyriol
I ddatblygu darlun cynhwysfawr o fy mhrofiad arweinyddiaeth
I nodi meysydd i'w datblygu neu i'w datblygu ymhellach
I gynllunio dysgu proffesiynol i’r dyfodol sy'n seiliedig ar angen
Pwy ddylai ddefnyddio'r AAU?
Mae'r AAU ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio ar bob lefel yn y system addysg sy'n dymuno cofnodi tystiolaeth o'u profiad o arweinyddiaeth a nodi anghenion at y dyfodol.
Pryd ddylwn i gyfrannu at fy AAU?
Unrhyw bryd yn ystod eich gyrfa fel ymarferydd
Gorau po gynted rydych yn dechrau
Cyn dechrau rôl newydd
Adolygu'r AAU cyfredol cyn dechrau unrhyw rolau newydd dilynol
Fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol
Sut ddylwn i gyfrannu at fy AAU?
Mae perchenogaeth yn bwysig, ysgrifennwch am yr hyn rydych chi yn ei wneud
Nid yw trefn y safonau yn bwysig
Dechreuwch drwy lenwi'r safonau y mae gennych dystiolaeth glir ohonynt
Os nad ydych yn gallu ei gwblhau i gyd, peidiwch â phoeni. Bydd gwneud hynny yn rhan o’ch datblygiad
Mae'n bosibl y bydd rhai meysydd yn gorgyffwrdd a gallai tystiolaeth godi o ymgymryd â gwahanol rolau dros amser
Defnyddiwch dystiolaeth o fewn eich cyd-destun eich hun – gallai fod yn berthnasol i adran/cyfnod neu ysgol gyfan
Dylech ei lenwi'n unigol ond, yn aml, mae trafod mewn grwpiau i ddechrau yn gallu bod yn ddefnyddiol, trwy sesiwn taflu syniadau am yr holl dystiolaeth bosibl
Rhannu gydag uwch arweinydd yr ydych yn ei ymddiried ynddynt er mwyn cael persbectif gwahanol
Bydd tystiolaeth yn adeiladu dros amser, a bydd newidiadau yn cael eu gwneud
Cofiwch fod yr AAU yn ddogfen fyw
Pa mor aml y dylwn i ychwanegu at fy AAU?
Mae'n ddogfen fyw a gallwch chi ei diweddaru unrhyw bryd
Mae adolygu’r hyn rydych wedi’i wneud bob hanner tymor/tymor yn arfer da
Bob tro rydych yn cael profiad newydd neu delio gyda sefyllfaoedd newydd
Ble fyddwn i'n defnyddio fy AAU?
Tystiolaeth ar gyfer hunanasesu
Dull o nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol
Tystiolaeth pan fyddwch yn ceisio am swyddi
Tystiolaeth ichi ei defnyddio ar gyfer rheoli eich perfformiad
Tystiolaeth ar gyfer rhoi cais i gamu ymhellach mewn arweinyddiaeth
Dilynwch y ddolen hon am fersiwn ryngweithiol a deunyddiau ategol ychwanegol i'ch helpu chi i ddefnyddio eich AAU -
http://dysgu.cymru.gov.uk/yourcareer/leadershipdevelopment/?lang=cy