A NEWSPAPER FOR WELSH LEARNERSAND SPEAKERS …cyd.org.uk/uploads/cadwyn09.pdf · Roeddwn i'n...

16
PAPUR NEWYDD CYD AM DDIM (10c yn y siopau) Rhlfyn Haf 1992 (9) PAPUR NEWYDDIGYMRY CYMRAEG A DYSGWYR A NEWSPAPER FOR WELSH LEARNERSAND SPEAKERS Cynhadledd laith Ifanc Daeth 80 o gynrychiolwyr (represen- tatives) at ei gilydd ym mìs Ebrill i Gynhadledd gyntaf C YD er mwyn trafod iaith ifanc, neu 'cymdeithasu yn y Gym- raeg ymhlith pobl ifainc'. Daeth cynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol (volun- tary), mudiadau ieuenctid, y gwasanaeth ieuenctid statudol ac ysgolion. Y prif siaradwr oedd Cefîn Campbell, Cyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth. Pwysleisiodd Cefín ei bod yn rhaid mynd â'r Gymraeg i barthau (domains) newydd fel clybiau rygbi a chlybiau nos. Bydd yr anerchiadau a'r argymhellion (the papers and proposals) yn cael eu cyhoeddi yng nghanol mis Gorffennaf. Stori — t.7. Llythyr — t.2 ò The series for beginners, 'Yn siop ypentref', is con- cerned with making decisions (or not!). See page 3. Felicity Roberts, Cadeirydd newydd CYD. Darllenwch ei geiriau ar d.11. Tu mewn... Portread o bentref Llannon. Newyddion y Gystadleuaeth Gwis. Gwestai moethus Hamdden. Ar ôl yr Arholiad. Emyn newydd sbon. RHIFYN MAWR YR HAF Cyhoeddir y rhifyn hwn o Cadwyn Cyd trwy cymorth ariannol TAC Teledwyr Annibynnol Cymru. This issue is published with the financial supportofTAC.

Transcript of A NEWSPAPER FOR WELSH LEARNERSAND SPEAKERS …cyd.org.uk/uploads/cadwyn09.pdf · Roeddwn i'n...

PAPUR NEWYDD CYD AM DDIM (10c yn y siopau) Rhlfyn Haf 1992 (9)

PAPUR NEWYDDIGYMRY CYMRAEG A DYSGWYR A NEWSPAPER FOR WELSH LEARNERSAND SPEAKERS

Cynhadleddlaith Ifanc

Daeth 80 o gynrychiolwyr (represen-tatives) at ei gilydd ym mìs Ebrill iGynhadledd gyntaf C YD er mwyn trafodiaith ifanc, neu 'cymdeithasu yn y Gym-raeg ymhlith pobl ifainc'.Daeth cynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol (volun-tary), mudiadau ieuenctid, y gwasanaeth ieuenctidstatudol ac ysgolion.

Y prif siaradwr oedd Cefîn Campbell, CyfarwyddwrMenter Cwm Gwendraeth. Pwysleisiodd Cefín ei bodyn rhaid mynd â'r Gymraeg i barthau (domains)newydd fel clybiau rygbi a chlybiau nos.

Bydd yr anerchiadau a'r argymhellion (the papers andproposals) yn cael eu cyhoeddi yng nghanol misGorffennaf.

Stori — t.7. Llythyr — t.2

òThe series for beginners, 'Yn siop ypentref', is con-cerned with making decisions (or not!). Seepage 3.

Felicity Roberts, Cadeirydd newydd CYD. Darllenwch eigeiriau ar d.11.

Tu mewn...Portread o bentref Llannon.

Newyddion y Gystadleuaeth Gwis.

Gwestai moethus Hamdden.

Ar ôl yr Arholiad.

Emyn newydd sbon.

RHIFYN MAWR YR HAF

Cyhoeddir y rhifyn hwn o Cadwyn Cydtrwy cymorth ariannol TAC TeledwyrAnnibynnol Cymru.

This issue is published with the financialsupportofTAC.

CYDLlywyddion Anrhydeddus: Dan LynnJames,Yr Athro Bobi JonesCadeirydd Felicity RobertsIs-gadeirydd: Shirley WilliamsYsgrifennydd: Lona DaviesTrysorydd: Arthur BurtCadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Emrys WynnJones

Cyfarwyddwr:

Siôn Meredith,Adran y Gymraeg,Yr Hen Goleg,Heol y Brenin,Aberystwyth SY23 2AXFfôn: 0970 622143 (24 awr)Ffacs: 0970 611446

Swyddog Cyswllt De-orllewin Cymru:

Andrea Jones,Y Ganolfan Deledu,Sgwâr Dewi Sant,Abertawe.Ffôn: 0792 470470

Noddir swydd Siôn Meredith ac AndreaJones gan y Swyddfa Gymreig.

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif518371).

>s /< l LLYTHYRAUAnnwyl Olygyddion Cadwyn Cyd,

Derbynais gopi o'r rhifyn diweddaraf o Cadwyn Cyd drwy'r post ychydig o wyth-nosau yn ôl. Erbyn hyn rwyf wedi ei ddarllen sawl gwaith!

Hoffwn eich llongyfarch ar eich gwaith wrth gyhoeddi'r papur yn ei newydd wedd.Clawr lliw a llawer o bethau diddorol tu mewn, 'Siop y Pentref, 'Portread Pentref, car-twnau gan Mark Hepworth ac 'O'r Canghennau'. Ardderchog bob un!

Hir oes i'ch ymdrechion. Rwyf yn edrych ymlaen at y rhifyn nesaf.

Cofíon

Les WilliamsCyn olygydd.

Annwyl Olygydd,

Fe ddechreuais i ddysgu Cymraeg wedi dod nôl o Brydain ym mis Awst 1990. Fe alla iddarllen a sgrifennu dipyn bach o Gymraeg nawr ond does dim llyfrau neu gylchgronauCymraeg ar werth yn Y Ffindir.

Nid yw llyfrwerthwyr Cymreig wedi ateb fy llythyrau a doeddwn i ddim yn gwybodam gyfeiriadau siopau eraill i ofyn iddynt. O ble mae dysgwr yn Y Ffíndir yn galluarchebu llyfrau Cymraeg—O Lundain?

Roeddwn i'n chwilio am ffrindiau ysgrifennu (dw i wedi cael un yn barod), ond dw iddim wedi cael siawns i (geisio) sgwrsio yn Gymraeg.

Ydych chi'n gallu helpu dysgwr Gymraeg yn Ffindir?Yn gywir îawn,

Sami LaitalaKohmankaari 20 A I33310 TampereFfindir

CANOLFAN IAITHGENEDLAETHOLNANT GWRTHEYRN

Mae llawer o gyrsiau yn NantGwrtheyrn yn 1992 ar gyferdysgwyr ar bob lefel. Anfonwch amgopi o'r prospectws.

There's an extensive programme ofcoursesfor learners at all levels inNant Gwrtheyrn in 1992. Pleasesendfor a copy of the prospectus:

Canolfan Iaith Genedlaethol CymruNant GwrtheyrnLlithfaenPwllheli

Ffon 075 885 334

Annwyl Olygydd,Dan ni'n ysgrifennu atoch chi i ddweud diolch am wahodd ni i

Gynhadledd CYD.Gwnaethon ni fwynhau'r Gynhadledd yn fawr iawn, ac odd hi'n

ddiddorol i gwrdd â phobl eraill efo diddordeb ym mywydaupobl ifanc.

Yreiddochyngywir,

MsEllieTaylor Ms Sara AltmanAbertawe

Annwyl Olygydd,Yn ôl ein harfer bu i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal

Ysgol Basg dros y Pasg eleni. Cynhaliwy d yr Ysgol yn y GanolfanGymraeg yng Nghapel Soar ym Merthyr Tudful, gyda darlithoedda thrafodaeth ar y pwnc 'Ieithoedd Llai eu Defnydd yn Ewrop, aSut i Droi'r Trai'.

Cafwyd darlithoedd gan saith o siaradwyr adnabyddus yn eumaes ar 'Y Mosaig Ewropiaidd', 'Y Swistir', 'Gwlad y Basg','Freisland', 'Yr Alban', 'Catalonia' a'r 'Siarter Ieithoedd Lleiaf-rifol a Rhanbarthol'.

Hoffwn ddiolch o'r galon i bob un a gyfranodd i lwyddiant yrYsgol, naill ai drwy ddarlithio neu gymryd rhan yn y drafodaetho'r llawr. Pleser o'r mwyaf oedd gweld cymaint o bobl yno achymaint o drafodaeth frwd!

Oherwydd yr ymholiadau yr wyf wedi'u derbyn ers yr YsgolBasg y mae'n bleser gennyf i ddatgan ein bod wedi penderfynu igyhoeddi y darlithoedd. Byddant yn cael eu cyhoeddi fel cyfres yny misolyn Tafod y Ddraig ar gael o siopau llyfrau Cymraeg neuambell siop papur newydd leol.

Yr eiddoch yn gywir,

Gill Haf StephenTrefnydd y De, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

C R O E S A I RAr draws

1. Ystafell fyw4. Ar lan y —5. Ddim yn rhad7. Ar y teledu (S4C) am 6

o'r gloch13. Nid chwith; nid Gogledd14. Codaf fy tua'r

mynyddoedd(Salm 121)15. Mae o'n byw mewn

coeden17. Fel arfer yn y canol:

• y dref

Croesair gan Mrs Margaret Walker,Llangollen, un o'r cystadleuwyryn Eisteddfod Croesoswallt; Gor-ffennaf 1991.

Anfonwch yr atebion at Siôn Meredith yn Swyddfa CYD (cyfeiriad ar dudalen 2) erbynMedi 30, 1992.

(Byddwn yn cyhoeddi'r atebion yn y rhifyn nesaf.) GWOBR: Tocyn llyfr £5.

E7

E=

J|H

a.

d1

13. 1

HT1••r

10

I-

•T i

1•1•jis

\

1•8

H•J•

1J•ia

I

zI

£>• f

H•i

•1

j•î . 1

Ë_

I lawr1. Lle cynhelir yr

Eisteddfod GerddorolGydwladol ym misGorffennaf

2. Melyn neu goch3. Gofalu ~; meddwl - ;

pryderu -4. Llysiau i demtio asyn5. Tywysoges Cymru6. Y rhif cyntaf8. Ddarllenoch chi y cliw?

Ateb --9. Ddim yn hen

10. Hen wlad fy nhadau11. ~ mor glyfar ydych

chi?12. Y diwrnod cyn heddiw15. Arôllesu Grist

(talfyriad Lladin)16. Dosbarth Dwyfor

(talfyriad)

BETH YW'R YSTYR?Beth yw'r cyfíeithiad mwya addas o'r idiomauisod?(Atebion: tudalen 15)

1) Does dim llawer o Gymraeg rhyngddyn nhwa. Theydon'tspeakmuch c. They're not very talk-

Welsh atîveb. They don't get on d. They're goodfriends

2) Dros ben llestri?a. Through thick and c. Over the top, out of

thin controlb. Over the worst d. Up to his eyes in wash-

inS

3) Wyneb i waereda. Upside downb. Back tofront

4) Dan bwysaua. Underweightb. Under stress

c. Face tofaced. Facing difficulties

c. Short-changedd. Under a bus

Yn siop y pentrefPenderfynu (deciding)

Mr Jones: Bore da, Mrs Edwards. Sut alla i'chhelpu chi?

Mrs Edwards: O, bore da, Mr Jones. Wel, dw i ddim ynsiwr. Dw i eisiau rhywbeth i swper. Bethdych chi'n ei awgrymu (suggest)?

Mr Jones: Bèth am gaws, Mrs Edwards? Mae cawsardderchog gyda fí heddiw. Ffres iawn.

Mrs Edwards: Caws—dyna syniad da, Mr Jones! Ie!Cymera i gaws, os gwelwch yn dda.

Mr Jones: Pa fath o gaws, Mrs Edwards? Caws oFfrainc? O Loegr? O'r Almaen neu oGymru?

Mrs Edwards: O, Mr Jones, dw i ddim yn gwybod. Alla iddim penderfynu. Beth dych chi'n eifeddwl?

Mr Jones: Wel, mae'r caws o Gymru yn flasus (tasty)iawn.

Mrs Edwards: Dyna ni, 'te—caws o Gymru, os gwelwchyn dda.

Mr Jones: Pa un, Mrs Edwards? Caws Caerffdi?Pencarreg? Caws Ii n? Caws Boidy? . . .

Mrs Edwards: Oes cymaint (so much) o gaws Cymreig,Mr Jones? Mae'n anodd i benderfynu, ondydy? Alla i ddim dewis (choose).

Mr Jones: Dw i'n hoffí caws Pencarreg yn fawr iawn,Mrs Edwards.

Mrs Edwards: Wel, 'te. Cymera i hwnnw.Mr Jones: Faint dych chi eisiau, Mrs Edwards? O,

n a . . . fyddwch chi ddim yn gallu pender-fynu... Ga i awgrymu (suggest) hannerpwys?

Mrs Edwards: Ie, yn union (exactly), Mr Jones. Hannerpwys o gaws Pencarreg! Faint mae'r cawsyn costio, Mr Jones?

Mr Jones: Dw i ddim yn gallu penderfynu, MrsEdwards. Beth dych chi'n ei feddwl?

CYSTADLEUAETH GWIS CYDErbyn Awst 4ydd eleni bydd 90 o dimau wedi atebcyfanswm o 9,000 o gwestiynau mewn cystadleuaethgwis a drefnir gan CYD.

Noddir y cwis, am yr ail dro yn olynol gan FancBarclays, a dywedodd Mr Gareth Jones, RheolwrManwerthu Barclays yng Ngogledd Cymru, wrthgyflwyno siec o £300 i CYD yng Nghanolfan IaithClwyd nos Fercher, Mehefin 17:

"Mae Barclays yn falch o fod yn un o brif noddwyrCYD ac edrychwn ymlaen at weld pa dîm fydd ynennill yn y rownd derfynol ym mis Awst."Bydd 400 o Gymry Cymraeg a dysgwyr o Gymru

gyfan wedi cymryd rhan yn y cwis, o ganghennauCYD, Merched y Wawr, Urdd Gobaith Cymru a'rFfermwyr Ieuainc.

Bydd pump tîm yn cyrraedd y rownd derfynol yn yrEisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ar Awst4ydd.

Mae'r gystadleuaeth gwis wedi tyfu'n enfawr eleni!Llynedd roedd 45 tîm yn cymryd rhan yn y rowndgyntaf, ond eleni mae 90 tîm.

Bydd Barclays hefyd yn noddi'r cwis yn 1993. Betham 200 tîm y tro nesaf?

Gareth Jones, Rheolwr Manwerthu Banc Barclays yng Ngogledd Cymru ac Edwin Evans, RheolwrBarclays yn Ninbych yn cyflwyno siec i Siôn Meredith, Cyfarwyddwr CYD mewn cyfarfod cwis yng

Nghanolfan laith Clwyd, Dinbych ar Fehefin 17eg, 1992.

0 FIS MEDI YMLAEN SARA EDWARDS SY'N CYFLWYNO

SAITHARYSULy rhaglen newyddion i ddysgwyr gan BBC Cymru ar S4C

hefyd o fis Medi

PENAWDAUSara Edwards yn cyflwyno cyfres newydd

hom September join Sara on Mondays for

PENAWDAUa new innovaîive series for leamers at KS4 and

arloesol i ddysgwyr CA4 i Safon Uwcb, mewn 'A' level, based on îbe news programme Saith ar

rhaglen sy'n cyfuno'r teledu a'r cyhifiadur y Sul with visual and prinîed resource materials

yn yr hydrefhefyd

CIPOLWGar gyfer dysgwyr CA3, gyda darlun o fywyd

milfeddyg, posîmon, yr heddlu, argraffwr a

chogyddes

also this autumn and next spríng

CIPOLWGan opportunity to learn Welsh at KS3 and îo

see Germany through the eyes of Welsh and

German children

Cofiwch hefyd amCATCHPHRASEbobnosar Radio Wales a Radio Cymru

C Y M R U

W A L E S HELP LLAW I'R DYSGWYR

Cystadleuaeth Cartref Cymraeg

Mae naw cartref yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth honeleni: dau yng Ngwynedd, tri yng Nghlwyd, dau yngNghanolbarth Cymru a dau yn y de. Mae dau feirniad wedibod yn ymweld â'r cartrefí ym mhob ardal ym mis Mehefinac fe fyddan nhw'n cyhoeddi yng nghanol Gorffennaf pwysydd yn mynd i'r rownd derfynol.

Llinos Dafis yw cadeirydd y rownd derfynol. Byddhonno yn cael ei chynnal ym Mhabell y Dysgwyr ar faes yrEisteddfod Genedlaeth yn Aberystwyth am hanner dydd(12.00), ddydd Mercher, Awst 5ed.

Mae CYD a'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cys-tadleuaeth ar gyfer dysgwyr sydd wedi newid iaith ycartref.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd a Cwmni Hamdden ynnoddi'r gystadleuaeth. Bydd y teulu sydd yn ennill yn arosam benwythnos yn un o'r pump gwesty sydd gan gwmniHamdden yng Nghymru.

Dyma ddau ohonyn nhw:

Mae Gwesty Cwrt Bleddyn yng nghanol coedwigoeddgwych, yn agos i Gaerleon—tre Rufeinig ddiddorol iawn.Gallwch chi nofio, hwylio, pysgota, chwarae tenis neusnwcer, neu jyst ymlacio yn y sauna neu solarium. Ac wrthgwrs, mae'r bwyd yn ardderchog.

sHAMDDEN

Mae Coed y Mwstwr yn blas (mansion) Fictorianaidd yn ywlad hardd ger Pen y Bont ar Ògwr. Mae llawer o anifeiliaidac adar gwyllt yn byw yn yr hen goedwig o gwmpas y t . Arôl i chi nofio, neu chwarae tenis neu snwcer, gallwch chifwynhau bwyd a gwin sy'n arbennig o dda.

5

DYSG YLABERYSTWYTHBu llawer o Gymry Cymraeg a dysgwyr y Gymraegyn mwynhau eu hunain yn y Ddysg yl flynyddol ynAberystwyth ddydd Sadwrn, Mawrth 14, 1992.

Cafodd y Ddysg yl ei threfnu gan CYD ar y cydâ'r Adran Efrydiau Allanol, CPC Aberystwyth.

Yn y bore cafodd dysgwyr ar bob lefel gyfle i ymar-fer y Gymraeg mewn grwpiau o dan ofal tîmbrwdfrydig o diwtoriaid, Felicity Roberts, Jaci Taylor,Mari Llwyd ac Alun Jones.

Dechreuodd y prynhawn â Seremoni i Gadeirio'rbardd buddugol yn yr Eisteddfod. Enillydd Cys-tadleuaeth y Gadair oedd Morfudd Bernard, gwraigsydd wedi ymddeol ac yn byw ym Mhontrhydy-beddau ger Goginan. Enülodd darian a thocyn llyfrgwerth £10 am gerdd ar y testun 'Tân'.

Beirniad y gystadleuaeth oedd Cynfael Lake,Swyddog Datblygu'r Radd Allanol, CPC Aber-ystwyth. Canmolodd y beirniad yr holl gystadleuwyr,ac fe roddodd y gydradd ail wobr i Morfudd Bernardac Annette Pugh.

Dyma'r ail dro yn olynol i Morfudd Bernard ennill yGadair, ac fe enillodd y drydedd wobr ddwy flyneddyn ôl hefyd.

Cafodd Morfudd ei chyfarch yn ystod y Seremoniag englyn gan y Prifardd Alan Llwyd, ac mae'r englynyn cyfeirio at ffugenw Morfudd, sef Dyddgu. (RoeddMorfudd a Dyddgu'n ddwy gariad i Dafydd apGwilym.):

Darfu'r gaeaf. Daeth afiaith Bro GyninHeibio i'r genedl eilwaith;

Wyt Ddyddgu'n anwesu'n hiaith;Wyt Forfudd; wyt haf hirfaith.

(Alan Llwyd)

Daeth Morfudd Bernard yn ôl i Geredigion bummlynedd yn ôl ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd ynLloegr. Ond mae ei gwreiddiau yng Ngheredigion.Aeth ei thadcu a'i mamgu o Geredigion i werthu llaethyn Llundain.

Morfudd Bernard a'i gwobr.

CWRS YSGRIFENNUCREADIGOL

Magu hyder i ysgrifennu yw nod y cwrs. Rhoiarweiniad, pan fo angen, rhoi profíad newydd, osdyna yw'r dymuniad, o ysgrifennu deialog,storiau, ysgrifau, barddoniaeth, cynghanedd . . .dewiswch chi. Os gallwch, rhowch wybod sutgallwn roi arweiniad. Croeso i chi ddod â'chgwaith gyda chi os dymunwch ei drafod.

Nia Royles: Ganed ac addysgwyd yng Nghaer-dydd. Dysgodd ar yr Wlpan cyntaf yng Nghaer-dydd ac yna ym Mangor. Bu dros y blynyddoeddyn dysgu oedolion ar gyrsiau yng Nghaerdydd,Bangor, Wrecsam a Phrestatyn. Bu'n weithgariawn yn ystod ei chyfnod yn Ymgynghorydd yGymraeg yng Nghlwyd yn ysbrydoli dysgwyr obob oed.

John Owen: Ganed yn y Rhondda Fach. Astud-iodd Ddrama yng Ngholeg y Drindod dan lawNorah Isaac. Ers deunaw mis bu'n cyfarwyddodramâu yn broffesiynol ac yn ysgrifennu ar gyferradio a theledu.

YMDDIRIEDOLAETH TALIESIN CYF.

CWRS YSGRIFENNU CREADIGOLAR GYFER DYSGWYR

16-18 Hydref 1992

yn§ NGHANOLFAN YSGRIFENNU,TY NEWYDD, LLANYSTUMDWY

Tiwtoriaid: Nia RoylesTiwtoriaid: John Arwyn Owen

Cysylltwch â: Megan Tomos, T Newydd, Llanystumdwy,Cricieth, Gwynedd LL577 OLWneu Jfoniwch 0766

522811

Cefnogwch

hysbysebwyr

CYNHADLEDD CYDDyma rai o'r syniadau a gafodd eu trafod yn y Gynhadledd:

1. Bod CYD yn galw at eigilydd y mudiadau sy'ngwneud cais am grant yr iaithGymraeg gan y SwyddfaGymreig er mwyn cytunoymlaen llaw ar strategaeth.

2. Bod yr Eisteddfod Gened-laethol ac Eisteddfod yr Urddyn sicrhau (make sure) ybydd dilyniant (follow-up) i'rEisteddfod yn yr ardal (felMenter Cwm Gwendraeth).

3. Bod CYD yn cynnal Cyn-hadledd yn 1993 ar Farchnataa Denu pobl at y Gymraeg.

4. Annog myfyrwyr ysgol iarwyddo cytundeb neu gyf-amod iaith rhwng y CymryCymraeg a'r dysgwyr. (Cyt-undeb i siarad Cymraeg.)

5. Annog canghennau CYD isefydlu gweithgor lleol (to setup a local working party) igynllunio sut i gynyddu'r def-

nydd o'rardal.

Gymraeg mewn

6.

7.

Bod CYD yn trefnu cyfarfodâ'r Asiantaeth Ieuenctid ermwyn annog yr Asiantaeth iweithredu yn y Gymraeg, athros y Gymraeg.

Gefeillio (to twin) ysgolioncyfrwng Cymraeg ag ysgolioncyfrwng Saesneg.

8. Sefydlu Asiantaeth RocCymraeg

Cafodd llawer o syniadaueraill eu trafod hefyd. Er mwyncael rhagor o fanylion, gallwcharchebu copi llawn o'r Argym-hellion (yn rhad ac am ddim) neugallwch chi brynu copi o IaithIfanc (y gyfrol sydd yn cynnwysyr holl anerchiadau a'r argym-hellion) am £2.50. Anfonwch atSwyddfa CYD, neu dewch i'ngweld ni ym Mhabell y Dysgwyryn yr Eisteddfod.

AM OBIIW3RHIFYN0G0LWG

* Torrwch hwn allan a'i ddanfon iGOLWG, Llanbedr Pont Steffan, Dyfed.

Cymru, SA48 7LX.Mae diddordeb gennyf mewn cael 3 rhifyno GOLWG am ddim. Ar ddiwedd y tairwythnosbyddgennyfddewisiddalatii'wdderbyn (ac i dalu amdano*) neu i beidioâ'i gael ymhellach. Anfonwch y ma-nylion arfrysat:

ENWCYFEIRIAD

Os yw'n weil gennych, danfonwch ymanylion ar ddarn o bapur, gan enwi'rrhaglen hon.

MERTHYR ..." "MASOCIST..." "MEDDYLIWR HWYA'R UGEINFED GAWMF.

PERFFORMIADAU AGORIÌtfiAN GELFYDDYDAU CHAPTER

GORFF. 24, 25, 26 am 8.00 y.h.

DD GENEDLAETHOL CYMRU1 Y CASTELL • ABERYSTWYTO

GORFF. 31 - AWST 8 am 8.00 y.h.' SWYDDFA DOCYNNAU 0222 4647S8Hetyd ar gael o Chapter (0222) 399666

Welsh Fudge Shop (0970) 612721Pabell y Theatrau ar faes yr eisteddfod

MONTIELLISFe gyfansoddodd Monti Ellis yr emynarbennig yma, ar gyfer y rhai sy'n dysgu'riaith, ar ôl iddo fe wneud cwrs CymraegSain Dunwyd llynedd. Anfonodd y geiriaua'r dôn i CYD, ac felly mae CADWYNCYD yn falch iawn o'r cyfle i'w cyhoeddinhw am y tro cyntaf.

Mae Mr Ellis yn 76 oed ac yn byw ym Mryste.Dechreuodd e gymryd diddordeb yn y Gymraegugain mlynedd yn ôl, ac mae'n dal i deimlo'n gryf drosyr iaith. Mae e wedi ymddeol nawr o Swyddfa'r Post(ble roedd e'n gweithio fel 'Senior Telecom-munications Superintenant') ond mae'n dal i gymryddiddordeb mewn teleffonau, a threnau hefyd. Yngngweddill ei amser, mae Monti Ellis yn chwarae'rorgan yn yr eglwys leol ac yn cyfíeithu emynau Cym-raeg i'r Saesneg.

Gobeithio y byddwch chi i gyd yn hoffi'r emyn.Beth am roi cynnig iddo yn eich cyfarfod CYDnesaf?

Mae UCAC yn

GWEITHREDUN

GYMRAEG

UCAC, Pen Roc, Rhodfa'r Môr,Aberystwyth, Dyfed. SY23 2AZ

Ffôn 0970 61 5577

0NEWYDD SBON!LISTEN AS YOU DRIVE

PLACE NAMES OF NORTHWEST WALES

A handy and informative in-carguide!

NEWYDD AR GYFER Y STEDDFOD:

* SOBIN A'R SAMELIAID* RICHARD REES (PENNAL)* ELEN AP ROBERT (SOPRANO)* MYNEDIAD AM DDIM* CD HOGIA LLANDEGAI* GORAU GWERIN (CASGLIAD) - CD

AR CRAI: ADDEWID • SORIANT • TYNALTYWYLL • MONIARS • BYD NEWYDD •ONE-STYLE MDV

ANFONWCH/FFONIWCH AM GATALOG

Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, GwyneddFfôn: 0286 831111 Ffacs: 0286 831497

8

Sain Dunwyd Monti Ellis, Bryste

r rr' °" r' r

O, Arglwydd, boed dy fendithAr bawb sy'n dysgu'n hiaithEr garwed fyddo'r llwybrA'i holl dreigladau maith.Rho iddynt weledigaethO'r ucheldiroedd glân,Trysordy'n hetifeddiaethLlenyddiaeth goeth a chân.

O, Arglwydd, boed dy fendithAr bawb sy'n taenu'n hiaithA nertha hwy, wrth wybodMai teilwng yw eu gwaith.Aed dysgwyr a chefnogwyrEin hiaith yn nerthol lu;Dysg iddynt ei defnyddioI foli d'enw Di

O, Arglwydd, boed dy fendithAr bawb sy'n caru'n hiaith;Hen wrthglawdd yw i'n poblRhag iddynt fynd yn gaeth.Daw llif o werthoedd israddI'n bygwth ni o hyd;O, dyro nerth i sefyllA'u cadw'n ôl i gyd.

MontiEUis, 1992

Geirfabendith - blessing;er garwed - although it (y llwybr) is hard;gweledigaeth - vision;etifeddiaeth - inherìtance;taenu - to spread (to promote);teilwng - worthy;Aed dysgwyr... - May learners go...;gwrthglawdd - rampart (defence).

Portread PentrefLlannon (Non, mam Dewi Sant)

Yr Hen Sir Gaerfyrddin

Mae Llannon yn lle bach mewn plwyf mawr o'r un enw.Mae'r plwyf yn ymestyn o'r afon Gwendraeth yn y gogleddi draffordd (motorway) yr M4 yn y de ac yn cynnwys rhaio'r pentrefi mwyaf yng Nghymru sef, Y Tymbl a Cross-hands, ac ar un adeg Pontyberem.

Mae Llannon ar y ffin rhwng Cymru ddiwydiannol aChymru wledig. Mae'r pentref yn un bach ac yn dradd-odiadol (traditionally) yn dibynnu ar amaethyddiaeth(agriculture) am fywoliaeth (livelihood). Ond yn y pentrefieraill, glo oedd y brenin a oedd yn cyflogi (employing) can-noedd a miloedd o bobl. Caeodd y pwll glo olaf eleni.

Mae Llannon yn llawn o hanes. Mae'n bosib gweld un o'rMeini Hirion (Standing Stones) mwyaf yn y sir ar ffermBryn Maen. Beth am ymweld â'r tolldy (toll house) a'rffordd i'r Tymbl neu weld y cwpan 'Bronze Age' o ffermGors-y-dre (nawr yn Yr Amgueddfa Genedlaethol).

Casgliad o adeiladau (buüdings) yw'r pentrefi a fel ymmhob pe tref mae dau fath o adeilad yn bwysicach na'rlleill, hynny yw, capel/eglwys neu tafarnau. Mae dau gapelerbyn hyn, Hermon a Llwyn-Têg, un eglwys (dyddiadansicr) ac hefyd, ar fferm Pen-Twyn mae hen ysgol (1730-52) a oedd yn paratoi myfyrwyr (students) ar gyfer yweinidogaeth (ministry).

Llannon, Llanelli

Os oes syched arnoch chi, beth am drio Cwrw Felinfoelyn y 'Greyhound' neu y 'Llew Coch' — croeso Cymraeg,ond peidiwch â chwympo mewn i'r ffynnon yn yrystafell 'Pool'!

Y Plas sy nesa ar ein taith o gwmpas Llannon. Hendafarn y 'Kings Head' yw y plas, ond newidiodd y 'Squire'Rhys Goring Thomas yr enw i Plas yn 1860. Erbyn hynmae'n fflatiau i nifer o bobl leol.

Er gwaethaf (despite) y tai newydd a newidiadau sy wedicyrraedd y pentref, mae pawb yn ceisio cadw ein cym-deithas yn un fywiog (lively). Mae nifer o gymdeithasau ynffynnu (thriving) fel, y Clwb Ffermwyr Ieuainc (Y.F.C.),clybiau cadw'n heini (Keep fit), 'Bridge', Sefydliad yMerched (W.I.), Cylch Meithrin a phob nos Fawrth yn ygaeaf mae dosbarth Cymraeg yn y 'Red Lion'

Un o'r cymdeithasau pwysicaf yn y pentref yw 'MenterCwm Gwendraeth' sydd yn hyrwyddo gweithgareddau(promoting activities) drwy gyfrwng y Gymraeg. Maecangen ym mhob pentref yn y Cwm, yn trefnu 'Gigs' a nos-weithiau difyr (entertaining) a.y.y.b. Gobeithio y bydd ycynllun yn datblygu.

Clwb y Ffermwyr leuainc yn gwthio gwely yn 1989 o Gaer-fyrddin i Lanelli gan godi pum mil o bunnoedd tuag at yr ysbytynewydd yn Llanelli.

Mae hanner y bobl yn ddwyieithog (bilingual) ond tu fasi'r pentref tuag at (towards) Crosshands a'r Tymbl mae'rcanran (%) yn cynyddu i 80% felly does dim esgus drossiarad Saesneg os ydych chi'n digwydd gyrru drwy yr ardal,ond gyda chymaint i wneud yn y fílltir sgwâr, pwy sy eisiaugyrru drwyddo? Beth am ddod i weld ac aros am sbel?

Neil Baker

METHU GWELD Y GOLAUAR DDIWEDD Y 1WNNEL?

ANGEN HELP GYDAG ADNODDAU DYSGU?MAE CYMORTH AR GAEL AR GYFER RHIENI A

DISGYBLION DRWY GYSYLLTU Â'RGANOLFAN ASTUDIAETHAU ADDYSG,PRIFYSGOL CYMRU, YR HEN GOLEG,

ABERYSIWYTH, DYFED SY23 2AX.< S * ( 0 9 7 0 ) 622121 /5

10

ANELU A T CHWYLDRO IAITHWrth ethol swyddogion newydd yn y Cyfarfod Blynyddol Cenedlaethol yn Aberystwythddydd Sadwrn Ebrill 11 eg, roedd mudiad C YD yn dathlu deg mlynedd o weithgarwch ynardal Aberystwyth.

Meddai Felicity Roberts, wrth gael ei hethol ynGadeirydd Cenedlaethol newydd CYD,

"Yr her i ni fel mudiad heddiw yw parhau i wireddugweledigaeth yr Athro Bobi Jones o weithredu fel yr unigfudiad yng Nghymru sy'n rhoi'r flaenoriaeth i adfer yr iaithymhlith oedolion drwy eu hannog a'u cynorthwyo i ddysgusiarad Cymraeg.

" 'Rydym yn dathlu deg mlynedd o gydweithio brwdfrydigrhwng Cymry Cymraeg a dysgwyr i helpu dysgwyr iymdoddi yn y gymdeithas Gymraeg yng Nghymru.

"Erbyn hyn mae CYD wedi tyfu'n fudiad cenedlaetholgan fod gennym weithgareddau ym mhob rhan oGymru.

"Y Gymraeg yw iaith ein gweithgareddau. Dyna yw cyf-raniad mwyaf gwerthfawr CYD i ddysgwyr. Mae hi moranodd i ddysgwyr gael cyfle i siarad Cymraeg, ond maeCYD yn rhoi'r cyfle hwnnw iddyn nhw.

"Mudiad adfer iaith yw CYD, mudiad i'r Cymry sy'nbarod i ymroi o'u hegni a'u hamser er mwyn gwireddu'rfreuddwyd o weld Cymru'n Gymru Cymraeg ydyw.Dewch felly ynghyd bobl Cymru—yn Gymry Cymraeg aDysgwyr i weithio ym mudiad CYD drwy ddilyn y tair Dbwysig, sef:

Denu pobl at yr iaith,Dysgu'r iaith aDefnyddio'r iaith.

" 'Rydym am chwyldroi'r sefyllfa o fod yn un lle mae'rGymraeg yn iaith normal bob dydd i leiafrif o bobl i un llemae hi felly i'r mwyafrif. Mae'r hyn sydd yn digwydd o danadain CYD yn chwyldroadol.

"Cymreigio Cymru gyfan yw'r nod i ni yn y naw-degau."

Mae Felicity Roberts yn diwtor Cymraeg i Oedolion acyn byw ger Aberystwyth. Mae hi'n gyn-gadeirydd arCYD Aberystwyth.

Is-Gadeirydd newydd CYD yw Shirley Wilüams oGroesor ger Penrhyndeudraeth. Mae Shirley'n diwtorCymraeg i staff Cyngor Sir Gwynedd.

Shirley Williams, Is-Gaàeirydd CYD.

Siaradodd Jo Knell, Dysgwr y Flwyddyn, yn y cyfarfodhefyd, a rhannodd ei phrofíadau wrth ddysgu siarad Cym-raeg. Hefyd siaradodd Hywel Evans, Menter a Busnes.Dywedodd Hywel Evans fod mwy o gyfle nag erioed iddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg ym myd busnes, felcwsmeriaid a phobl fusnes, a rhoddodd anogaeth i aelodauCYD i fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg ymmyd busnes.

Geirfa

ethol - electher - challengegwireddu gweledigaeth - to realize a dreamy flaenoríaeth - the priorityadfer - to revive, to promotebrwdfrydig - enthusiasticymdoddi - to integratecyfraniad mwyaf gwerthfawr CYD - CYD's most valuablecontributionymroi - to commit (time and energy)chwyldroi'r sefyltfa - to turn/change the situationlleiafrif - a minorìtymwyafrif - a majority

Da iawn, Mary!

Mae Mary Davies, cyn-gadeirydd cenedlaethol CYD,newydd ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg. Mae hiwedi treulio tair blynedd yn astudio yng Ngholeg PrifysgolCymru, Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr iddi hi!

(Cofîwch anfon gwybodaeth at Cadwyn CYD am lwydd-iannau aelodau CYD.)

Bydd adloniant gan CYD bob nosyn yr Eisteddfod:

Gwesty Llety Gwyn, Llanbadarn

Moniars, Neil Rosser, Hin Deg,Bysedd Ystwyth, Hogia Llandegai..

a llawer mwy.

Tocynnau: £2.50 / £3 wrth y drws.

Ar werth yn stondin CYD ym Mhabell yDysgwyr.

n

Yn y rhifyn diwethaf fe ofynon ni i ganghennauCYD anfon storîau a lluniau atom ni fel rhan ogystadleuaeth Cadwyn CYD. Yr enillwyr ywCangen CYD Coleg Normal, Bangor. Llongyf-archiadau! Mae nhw'n ennìll £5.

RHAGLEN FYWIOG CYDY COLEG NORMAL

Daeth tymor by wiog arall i ben yn y Coleg Normal, a daethdiwedd hefyd, am y tro, ar weithgareddau C YD yn y coleg.Cawsom raglen amrywiol iawn y tymor hwn. Dechraugyda Sioe y consuriwr Carl Wynn, myfyriwr ar ei drydeddflwyddyn yn y coleg, a gorffen y tymor gyda Gemau Iaith obob math. Sesiwn boblogaidd i'r dechreuwyr oedd GyrfaChwilod, dan arweiniad Mrs Zohrah Evans, darlithyddCymraeg newydd yn y coleg. Wedyn cafodd y dysgwyrmwy profiadol gyfle i holi panel o ddarlithwyr y coleg, ac yny llun fe welwch y pedwar darlithydd dewr a ddaeth i atebein cwestiynau—Dr Hywel Wyn Owen, Dr Helen Hughes,Mr John Coleman a Mr Robert Morris. Roedd yn galondid i'rdysgwyr fod dau o'r panelwyr wedi dysgu Cymraeg, abellach wedi croesi'r bont, ac yn dechrau dysgu trwygyfrwng y Gymraeg yn y coleg.

Dawns oedd ar y rhaglen ar Chwefror 4, gyda JulieMeehan yn arwain y sesiwn. Mae Julie yn hyfforddwraig(instructor) dawns yma yng Ngwynedd, ac yn dysgu Cym-raeg. Defnyddiodd Julie iaith a gorchmynion syml iawn yny sesiwn yma, a chafodd y myfyrwyr ddeunydd gwers argyfer plant yn yr Ysgol Gynradd. Wedi mwynhau'r sesiwnyn fawr, daeth nifer dda i'r sesiwn Aerobics ar Chwefror 18,gyda Lisa Wright sy'n fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn ycoleg yn arwain. Ar ôl y sesiwn cynhesu {warm up),dangosodd Lisa ran o fideo Stonc a Roc (Dysgu drwyDdawns a Chân) Clwyd i ni, ac wedyn roedd yn rhaid i nigopib'r symudiadau ar y fideo. Llawer o hwyl, a phawb ynchwysu ar y diwedd. Ar ddydd Mawrth Crempog daethMrs Ruth Davies i ddangos rhai syniadau ar gyfer y Pasg.Yna ar Fawrth 10, cawsom baned a theisen yn Neuadd yGeorge a chyfle i sgwrsio wedi tymor llawn a llwyddian-nus arall.

Edrychwn ymlaen yn awr ar gyfer yr Helfa Drysor argampws y coleg, a'r ymweliad â'r Pili Palas, Porthaethwy.

Panel o Ddarlithwyr

O'r chwith i'r dde: Dr Hywel Wyn Owen, Dr Helen Hughes, MrJohn Coleman a Mr Robert Morris

SGETS A CHÂN Y COLEG NORMAL

Bore dydd Gwener glawog oedd o, ond hwn oedd uchaf-bwynt y tymor i nifer o'r dysgwyr yn y Coleg Normal.Roedd Neuadd Gynhadledd Menai yn llawn o fyfyrwyroedd i dderbyn tystysgrifau am eu llwyddiant yn dysgu'rGymraeg yn y coleg. Derbyniodd nifer ohonyn nhw dys-tysgrifau Lefelau 1,2 a 3 Cynllun Colegau Cymru fydd yneu galluogi i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn YsgolionCynradd yng Nghlwyd, Gwent a Phowys.

Roedd deuddeg o fyfyrwyr wedi cael llwyddiant ynarholiad Defnyddio'r Gymraeg i Oedolion—arholiadgafodd ei gynnal yn y Coleg Normal fis Rhagfyr yllynedd.

Y myfyrwyr a basiodd Lefel 1Cymru.

a 2 a 3 Cynllun Colegau

CYNGOR SIR

GWYNEDDCOUN7Y COUNCIL

DOSBARTHIADAU CYMRAEG

YR ADRAN ADDYSG

GAEAF 1992/1993

Eto eleni byddwn yn cynnig llu oddosbarthiadau un noson yr wythnos iddysgwyr Cymraeg ar draws y Sir.

Mae'r dosbarthiadau yma yn dilynfersiwn y Gogledd o'r Cwrs DosbarthNos.

• Bydd Dosbarthiadau Blynyddoedd 1,2 a 3 ar gael.

Am fanylion pellach neu os ydych am gaeldosbarth yn eich cymdogaeth dowch i gysylltiada Mr Peter Williams, Prif Swyddog leuenctid aChymuned, Adran Addysg, Swyddfa'r Sir,Caernarfon. Gwynedd LL55 1SH. Ffôn: [0286]679190

Un o wasanaethau Adran Addysg Cyngor SirGwynedd i oedolion y Sir

12

CYD Bryste

Mae gan CYD Bryste (Bristol) bron i bymtheg (15) o aelodau, gan gynnwys dysgwyr a Chymry Cymraeg. 'Rydym yn cyfar-fod mewn t tafarn ym Mryste. Mae rhai o aelodau'r gangen yn cyfarfod yn anffurfîol ar nos Fercher yng nghartrefun o'r aelodau.

Mae nifer o bobl yn ardal Bryste yn gallu siarad Cymraeg. Mae Cymdeithas Cymry Caerodor yn cyfarfod unwaith y miser mwyn trefnu adloniant.

Bwriad C YD Bryste yw cysylltu â dysgwyr a Chymry Cymraeg er mwyn ymarfer yr iaith ac ehangu gwybodaeth (increaseknowledge) am ddiwylliant Cymru.

Hoffem gysylltu â changhennau eraill o CYD. Felly cysylltwch â Peter Curtis o Gaerfaddon (Bath) - 0225 426682 neuTim Bickell o Fryste - 0272 710140.

Tim Bickell, Bryste

| BLE? o3 YNG NGHYLCHGRONAU'R URDD £

Archebwch eich copi personol nawr o Adran Q-• Cylchgronau, Swyddfa'r Urdd, Aberystwyth, Dyfed.

^) Dumunaf archebu 10 rhifyn am flwyddyn ac amgaeaf •<ç y tâl priodol. -^CO 55c D BORE DA (£8.50 yn cynnwys pacio a ^0 phost io) Dysgwyr Cyn radd £/$0 - 55c D MYND (8.50 yn cynnwys pac io a phos - Ç)m tio) Dysgwyr Uwchradd/Myfyrwyr TGAU Q

^) (Dodwch^yn y lle priodol) Q

1 ENW |O CYFEIRIAD >h- mco O

Cyrsiau ar bob lefel ar gyfer dysgwyr asiaradwyr Cymraeg.

Am fanylion pellachcysylltwch â:

Canolfan laith ClwydPwll y GrawysDinbychClwydLL16 3LF

Rhif ffôn: (0745) 812287

DARPARIAETH I DDYSGWYR

OND RHAN O 'N GWASANAETH

AR ÔL YR ARHOLIAD

(JaneAnn Jones tells of the horrors and compensations of theexam for Welsh learners, 'Defnyddio'r Gymraeg)

Ymlacio? Dim siawns. Mae'r hen 'adrenalin' ynrhedeg o hyd. Diar annwyl, y fath ddiwrnod.Codi yn y tywyllwch am saith o'r gloch am y trocyntaf ers tro; tipyn o frecwast am fy mod i'nteimlo'n sâl; gyrru am fílltiroedd i ryw le od iawnyn y wlad.. .

Wedi cyrraedd o'r diwedd, pleser mawr wrthweld fy ffrindiau, er iddyn nhw edrych mor wan âfí—efallai mai'r golau trydan am naw o'r glochyn y bore oedd yr achos. Ond roedd einhwynebau i gyd yn wyn fel yr eira, bethbynnag.

Roedden ni wrthi yn ysgrifennu am bron i dair

D a n h a u 1Y CYLCHGRAWN NATUR

Dewch yn gyfarwyddag enwau a thermaunatur a'r amgylchedd

drwy íaith hawdd ei deall.

Allan bedair gwaithy flwyddyn — 95c — yn eich

siop leol neu drwydanysgrifiad blwyddyn: £4

Danhaul, Penygroes,Gwynedd LL54 6NG

Ffôn/Ffacs: 0286 880302

awr. Ateb y cwestiynau yn gywir neu ynanghywir. Mae rhywbeth hollol wahanol i geisioysgrifennu wrth y bwrdd caled ac i eistedd ar ygadair galed, yn lle mewn cadair freichiau o flaeny tân, geiriadur mawr wrth law.

Yn y diwedd fe ges i sioc ofnadwy o glywed"Dau funud i fynd"! Annwyl Dduw. Brysia,ferch. A dyna fi wedi gorffen mewn pryd.

Ar ôl hynny roedd y prawf llafar yn go hawddachos roedd yr arholwr yn ddyn ifanc caredigiawn. Hefyd, roedden ni mewn stafell fach, acroeddwn i'n teimlo yn gartrefol.

Does dim syniad gen i am y canlyniadau(results). Rydw i'n meddwl o hyd ac o hyd am ycamgymeriadau TWP IAWN a wnes i.

O wel, doed a ddelo! (come what may)

Priodas CYD a Mela!

Mae CYD wedi sefydlu partneriaeth (set up apartnership) â Mela, cylchgrawn lliwgar adeniadol i ferched.

Mae CYD yn cyhoeddi portread o un o'iaelodau bob mis mewn Cymraeg gweddol syml.

Ym mis Awst mae portread o Pam Palmer,enillydd y Fedal Ddrama yn yr EisteddfodGenedlaethol. Ym mis Medi gallwch chi ddarllenam Lisa Wright, myfyriwr yng Ngholeg y Nor-mal, Bangor.

Gallwch chi brynu Mela yn eich siop lyfrau neusiop bapur yn lleol neu ar faes yr EisteddfodGenedlaethol.

G yl Ddrama CYD

Ar Dachwedd 28ain bydd CYD yn cynnal G ylDdrama yn Nolgellau.

Bydd canghennau o CYD a dosbarthiadaudysgwyr yn llwyfannu (to stage) dramâu byrionneu sgetsys. Does dim cystadleuaeth!

Os hoffech chi berfformio yn yr yl Ddrama,cysylltwch â Swyddfa CYD neu Pitar Jackson(0341) 422652.

14

Gwyliauyn

Llangrannog

Mae Philippa Gibson, un o aelodau CYDLlangrannog, sydd wedi dysgu Cymraeg acerbyn hyn yn dysgu pobl eraill, yn byw ar ffermyn Llangrannog. Mae hi wedi addasu hen feudy yfferm er mwyn cynnig gwyliau hunan-gynhaliolsyml iawn—ac yn rhad iawn—i ddysgwyr. Maedigon o le i 10 o bobl, am £3 yr un y nos.

Dewch, felly, i gael gwyliau syml gyda'ch gr pCYD neu ddosbarth. Cewch gyfle i ymarfer eichCymraeg wrth fwynhau gwyliau ar lan y môr hebdalu arian mawr!

Mae digon o weithgareddau i'w cael trwygyfrwng y Gymraeg yn yr ardal hyfryd hon, acmae'n bosibl i drefnu gwersi Cymraeg os oeseisiau.

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl chi ar yfFerm am eich gwyliau ac yn gr p CYD Llan-grannog yn Nhafarn y Pentre bob yn ail nosFercher.

Cysylltwch â: Philippa Gibson, 0239 654 561

'Ryn ni'n disgwyl amdanoch chi!

Atebion cwis (o dudalen 3) 1) b : 2) c : 3) a : 4) b

Gwledd yr Eisteddfod

Mae gwledd o weithgareddau (a feast of activities)wedi cael ei threfnu ym Mhabell y Dysgwyr yn yrEisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd cyfle i chi gyfarfod â Meredydd Evans aPhyllis Kinney a Dysgwr y Flwyddyn. Bydd ynaganu a dramau a gweithdai o bob math.

Bydd rownd derfynol (final) Cystadleuaeth GwisGenedlaethol CYD am hanner dydd (12.00)ddydd Mawrth, a bydd rownd derfynol y Gys-tadleuaeth Cartref Cymraeg am hanner dydd,ddydd Mercher.

I Lanelwedd eto

Mae CYD yn trefnu Uned Gyhoeddusrwydd(Publicity Unit) Cymraeg i Oedolion eto eleni arFaes y Sioe Amaethyddol (the Royal WelshShow) yn Llanelwedd ar Orffennaf 20-23

Os gallwch chi helpu, cysylltwch â'r swyddfa osgwelwch yn dda.

Eisteddfod Genedlaethol CymruCeredígíon, Aberystwyth

1-8 Awst, 1992

Dewch i Babell y Dysgwyr* Gwersi iaith* Adloniant

*Cwis* Canu a dawnsio

* Cyfarfod â Dysgwr y Flwyddyn

Noson Dysgwr y Flwyddyn: nos Fercher, 5 Awst(Tocynnau ar werth yn y Babell)

Am fwy o fanylion:Penri Roberts

Trefnydd/OrganiserSwyddfa'r Eisteddfod

6 Y Stryd FawrABERYSTWYTHDyfed SY23 1DE

Ffôn: 0970 625685

15

Gwyliau Cymraeg i bawb yng Nghanolfanlaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, Awst 22-29, 1992

'Dyma'r gwyliau gorau 'ryn ni wedi ei gael erioed!' Dyna beîh ddywedodd llawer o bobloedd yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer Miri Awst yn 1991.

Ers 1989 mae cannoedd o bobl wedi mwynhau gwyliau Miri Awst bob haf yn y Nant.

Mae Cymry Cymraeg a dysgwyr o bob oed yn dod at ei gilydd ym Mirí Awst i fwynhaugweithgareddau diddorol: adloniant, teithiau yn yr ardal a gemau a sgyrsiau—ac maedigon o bethau i gadw'r plant yn hapus! Ac fe fydd pawb yn mwynhau ymlacio ynawyrgylch hamddenol y Nant.

Mae Nant Gwrtheyrn yn agos i lan y môr ar Ben Ll n yng Ngwynedd ac yn agos i BarcCenedlaethol Eryri. Mae llawer iawn o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, ac fe gewch chigyfle i gyfarfod â rhai ohonyn nhw yn ystod Miri Awst

Manylion pellach: Siôn Meredith, Cyfarwyddwr CYD, Adran y Gymraeg, Yr Hen Goleg,Heol y Brenin, Aberystwyth, Dyfed SY23 2AX(0970) 622143 (24 awr).