1. Dylunio ac Arloesedd -...

46
1. Dylunio ac Arloesedd 1. Dylunio ac Arloesedd Mae’r awduron wedi ymdrechu i ddefnyddio delweddau sydd yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint ond os nad yw hyn yn gywir cysylltwch gyda ni fel bod modd i ni wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae’r awduron hefyd yn ddiolchgar i’r cwmnïau a’r asiantaethau sy’n cynnwys Dyson, Blackpool Creative, Rob Law CEO Trunki (lluniau a thestun gan Trunki.co.uk), PROTO 3000 a Matthew Cooke sydd wedi rhoi caniatâd iddynt ddefnyddio lluniau o’u gwefannau yn y gwaith yma.

Transcript of 1. Dylunio ac Arloesedd -...

Page 1: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloesedd

1.Dylunio acArloesedd

Mae’r awduron wedi ymdrechu i ddefnyddio delweddau sydd yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint ond os nad yw hyn yn gywir cysylltwch gyda ni fel bod modd i ni wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae’r awduron hefyd yn ddiolchgar i’r cwmnïau a’r asiantaethau sy’n cynnwys Dyson, Blackpool Creative, Rob Law CEO Trunki (lluniau a

thestun gan Trunki.co.uk), PROTO 3000 a Matthew Cooke sydd wedi rhoi caniatâd iddynt ddefnyddio lluniau o’u gwefannau yn y gwaith yma.

Page 2: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddESTHETEG

Mae estheteg yn chwarae rhan bwysig mewn dylunio a marchnata cynhyrchion.

Un o’r prif resymau dros brynu cynnyrch yn aml yw sut y mae’n edrych a’r ddelwedd y gall ei rhoi i’r defnyddiwr.

Rhaid i’r dylunydd sicrhau bod y cynnyrch yn edrych yn dda.

CYNNAL A CHADW

A ellir cynnal a chadw’r cynnyrch? Oes posib cael rhannau newydd os bydd rhywbeth yn torri?

Dyluniodd Dyson ei sugnwyr llwch fel bod posib prynu rhannau newydd dros y rhyngrwyd a’u newid nhw.

Dyluniwyd y sugnwyr llwch fel bod y rhannau’n clicio i ffwrdd ac yn ôl i’w lle. Byddai’n well gan rai cwsmeriaid gael cynnyrch y gellir ei gynnal a’i gadw.

CAEL GWARED Â’R CYNNYRCH

Mae cwsmeriaid yn fwy ymwybodol o faterion amgylcheddol y dyddiau yma, felly byddai’n well gan y rhan fwyaf gael cynhyrchion y gellir eu hailgylchu neu gael gwared â nhw mewn modd sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd. Rhaid i’r dylunydd ystyried pa ddeunyddiau fyddai’n addas a’r cyfuniad o ddeunyddiau a ddewisir.

Defnyddir nifer o wahanol ddeunyddiau i wneud nifer o gynhyrchion. Ni ellir ailgylchu na chael gwared â’r deunyddiau hyn i gyd yn yr un modd. Caiff ceir eu dylunio fel bod modd eu dadosod – mae’r rhannau’n dod yn rhydd oddi wrth ei gilydd, e.e. gellir ailgylchu neu gael gwared â phlastigau a metelau mewn gwahanol ffyrdd. Dylunnir rhai ffonau symudol gyda dulliau cau clyfar. Mae’r dulliau cau hyn yn rhyddhau ar dymheredd penodol, er mwyn gallu prosesu gwahanol rannau mewn gwahanol ffyrdd: Casyn ABS, cydrannau trydanol, batri ac ati. Mae ynni niwclear yn enghraifft dda o DDYLUNIAD GWAEL – mae dylunwyr yn parhau i chwilio am ddull o gael gwared â gwastraff niwclear. Ar hyn o bryd, mae’n cael ei gladdu’n ddwfn o dan y ddaear nes y byddan nhw wedi canfod dull o gael gwared ag ef yn ddiogel.

Mae’r math hwn o esgid hyfforddi wedi bod yn gynnyrch llwyddiannus ar gyfer Adidas o ran ei ymddangosiad gweledol unigryw [Estheteg]

Mae darnau sbâr ar gael ar gyfer cynhyrchion Dyson er mwyn gallu trwsio’r cynnyrch.

Mae cynhyrchion fel y bwrdd coffi hwn yn defnyddio cyfuniad o ddefnyddiau i’w wneud yn ddymunol i’r llygaid. Gan fod y bwrdd wedi’i wneud o dri defnydd gwahanol — ffitiadau gwydr, pren a metel, byddai’n ddigon hawdd i’w ddadosod a’i ailgylchu.

Page 3: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddMATERION MOESEGOL

Mae cwsmeriaid yn dod yn llawer mwy ymwybodol o faterion moesegol mewn perthynas â'r cynhyrchion y maent yn eu prynu. Gall hyn fod yn gysylltiedig â sut a ble y caiff y cynnyrch ei weithgynhyrchu. Oherwydd Gweithgynhyrchu Byd-eang, mae'r rhan fwyaf o'r cynhyrchion a brynwn wedi'u gweithgynhyrchu yng ngwledydd y trydydd byd. Mae mwy a mwy o gwmnïau gorllewinol yn dylunio eu cynhyrchion yma ond yn gweithgynhyrchu eu cynhyrchion yn y dwyrain pell. Mae hyn oherwydd sawl ffactor fel costau llafur is, llai o ddeddfwriaeth o ran rheoliadau, deddfau iechyd a diogelwch, hawliau cyflogeion ac amodau gwaith.

Yn gymharol aml, caiff cwsmeriaid wybod bod crysau pêl-droed neu gyfarpar chwaraeon drud sydd ar werth yn y DU wedi'u gweithgynhyrchu gan blant mewn slafdai mewn amodau na fyddent yn cael eu caniatáu yn y DU.

Mae hyn er mwyn galluogi'r gweithgynhyrchydd i werthu'r cynnyrch i'r cwsmer mor rhad â phosibl.Mae Apple yn falch o allu nodi "Designed by Apple in California" ar ei gynhyrchion. Caiff yr holl brosesau gweithgynhyrchu ar gyfer cynhyrchion Apple eu contractio allan i China, Korea, Mongolia, Taiwan ac Ewrop.

Gwerthwyd 70 miliwn o iPhones yn 2011. Ni wnaed yr un ohonynt yn America.

Mae’r cynhyrchion hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol, felly mae’n eu gwneud yn llawer anoddach eu hailgylchu.

Yn 2002, dechreuodd Dyson weithgynhyrchu ei beiriannau golchi a’i sugnwyr llwch yn Malaysia yn hytrach na’r DU.

Page 4: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddCOSTAU

Rhaid i ddylunwyr ystyried costau.

Bydd faint o arian fydd y cynnyrch yn ei gostio i’w weithgynhyrchu yn dibynnu ar y cydrannau, y deunyddiau, y llafur a’r broses weithgynhyrchu.

Mae hyn yn cael effaith gynyddol ar bris y cynnyrch pan gaiff ei werthu i gwsmeriaid yn y siopau. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gystadleuol â chynhyrchion eraill tebyg neu ni fydd yn gwerthu.

Oherwydd costau gweithgynhyrchu uchel yn y wlad hon, mae nifer o gwmnïau yn gweithgynhyrchu eu cynhyrchion yn y Dwyrain Pell.

Ni fydd cwsmeriaid o reidrwydd yn dewis y cynnyrch rhataf. Pan lansiodd Dyson ei sugnwr llwch cyntaf, roedd yn un o’r drutaf ar y farchnad, ond roedd dal yn un o’r gwerthwyr gorau.

Mae cynhyrchion Apple yn cael eu contractio allan i China, Korea, Mongolia, Taiwan ac Ewrop

Page 5: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddADDASRWYDD I’R DIBENEr mwyn i gynnyrch fod yn llwyddiannus, rhaid iddo fod yn ADDAS i’r DIBEN.Rhaid i’r cynnyrch roi sylw i’r nodweddion canlynol er mwyn gallu ei ystyried yn ADDAS i’r DIBEN:

• Pris• Perfformiad• Atyniad Esthetaidd• Dibynadwyedd

MP3 - Cymharu Materion Cwsmeriaid wrth ddewis cynnyrch.

Pa un o'r chwaraewyr MP3 hyn fyddech chi'n ei ddewis?

• PRIS–Yn amlwg, mae pris y chwaraewr AGPTEK yn llawer rhatach na'r Apple iPod Nano. Ai dyna fyddai'r prif faen prawf–Cyllideb?

• PERFFORMIAD–Mae'r ddau gynnyrch yn cynnwys yr un nodweddion bron–mae sgrin yr IPod ychydig yn fwy ac mae ganddo ryngwyneb sgrin gyffwrdd, tra bod gan yr AGPTEK bad dewis. Nid yw ansawdd y sain a'r llun yn hysbys ar gyfer yr AGPTEK. A fyddai'r ffactorau hyn yn ddigon i dalu'r costau ychwanegol ar gyfer cynnyrch Apple?

• APÊL ESTHETIG–Mater o ddewis personol fyddai hyn–Mae'r ddau gynnyrch ar gael mewn sawl lliw. Mae gan yr AGPTEK sgrin lai.

• DIBYNADWYEDD–Mae Apple yn frand sy'n adnabyddus yn fyd-eang, ond mae'n debyg nad ydych wedi clywed am frand AGPTEK. Mae cwsmeriaid yn cysylltu brandiau adnabyddus fel Apple â dibynadwyedd. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le yna byddai gan y cwsmer y sicrwydd y byddai gwarant a chymorth yn gysylltiedig â'r cynnyrch. Byddai gan gwsmeriaid ffydd yn y cynnyrch. Felly, wrth ystyried y pris, a fyddai cwsmeriaid yn prynu'r AGPTEK heb wybod pa mor ddibynadwy ydyw?

A fyddai hyn yn ddigon? Ond mae'r Apple IPod yn gwerthu'n llawer gwell na'r AGPTEK.

Chwaraewr Cerddoriaeth/Cyfryngau AGPTEK 16Gb £21.99

Apple iPod Nano 16Gb £149.99

Page 6: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddNodweddion Uwchben y Llinell ac o Dan y Llinell

Nodweddion uwchben y llinell

Nodweddion gweledol y cynnyrch yw’r nodweddion uwchben y llinell – yr hyn y gall y cwsmer ei weld. Gall y rhain gynnwys siâp y cynnyrch, ei liw neu ei orffeniad, rhyngwyneb y defnyddiwr ar ffôn symudol, ei deimlad a’i wead.

Mae’r nodweddion hyn oll yn bwysig iawn am mai dyma’r pethau cyntaf y bydd y cwsmer yn eu gweld a dyma fydd yn ei ddenu tuag at y cynnyrch.

UWCHBEN y LLINELL

• Siapiau modern• Lliw llwyd a melyn• Gallu gweld y

llwch a gesglir• Botymau YMLAEN

ac I FFWRDD yn hawdd eu gweld a’u defnyddio

O DAN Y LLINELL

• Y prif gydrannau wedi’u gwneud o blastig ABS

• Cydrannau’n cael eu ffurfio drwy chwistrell fowldio plastig

• Wedi’i weithgynhyrchu yn Tsieina

• Gellir ailgylchu’r rhannau

• Technoleg seiclon• Cylchedwaith trydanol

Nodweddion o dan y llinell

Dyma’r nodweddion nad yw’r cwsmer angen gwybod unrhyw beth amdanynt i ddefnyddio’r cynnyrch yn effeithiol. Mae’r rhain eto’n bwysig iawn i’r cynnyrch fod yn llwyddiannus. Gallent gynnwys sut y mae’r gylchedwaith trydanol yn gweithio y tu mewn i’r cynnyrch; sut y cafodd y cydrannau eu gweithgynhyrchu; ym mha wlad y gwnaed y cynnyrch; sut y gosodwyd y cynnyrch at ei gilydd; a gafodd y cynnyrch ei weithgynhyrchu mewn ffordd sy’n ystyriol o’r amgylchedd?

Page 7: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloesedd1. PRIS

• A yw’r cynnyrch yn cael ei werthu am bris rhesymol? Fydd y cwsmer yn ei brynu? A yw’r cynnyrch yn gystadleuol o’i gymau â chynhyrchion tebyg ar y farchnad?

2. PERFFORMIAD

• A yw’r cynnyrch yn gwneud pethau cystal neu’n well o’i gymharu â chynhyrchion tebyg ar y farchnad?

• Faint o le sydd yna i storio caneuon?• Beth yw hyd oes y batri?• Pa mor hawdd ydyw i’w ddefnyddio?

3. ATYNIAD ESTHETAIDD

• A yw’r cynnyrch yn edrych yn well ac yn rhoi’r ddelwedd gywir i’r defnyddiwr o’i gymharu â chynhyrchion tebyg ar y farchnad?

• Edrychiad / Gorffeniad• Gwneuthuriad y cynnyrch – Sony neu Apple• Gwahanol liwiau sydd ar gael• Siâp

4.DIBYNADWYEDD

A fydd y cynnyrch yn gweithio am amser maith heb dorri? A oes hanes nad yw'r cynhyrchion yn gweithio'n iawn? A yw'r cynnyrch yn fwy dibynadwy na chynhyrchion tebyg ar y farchnad? Mae'n rhoi ffydd i'r defnyddwyr yn y cynnyrch gyda:

• Nodweddion sy'n gweithio• Rhwyddineb ei ddefnyddio• Oes y batri• Nodweddion toradwy• Ni fydd yn siomi'r defnyddiwr

Page 8: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDyluniad iteraiddGellir rhannu'r broses o ddylunio cynnyrch yn bedwar cam amlwg:

Canfod – cwmpasu dechrau'r prosiect lle mae dylunwyr cynnyrch yn ceisio edrych ar y byd mewn ffordd newydd, sylwi ar bethau newydd a chasglu mewnwelediadau....dyma'r mewnwelediad i'r broblem.

Diffinio – cynrychioli'r cam diffinio, pan fydd dylunwyr yn ceisio gwneud synnwyr o'r holl bosibliadau a nodir yn y cam canfod. Beth sydd bwysicaf? Beth y dylem weithredu arno gyntaf? Beth sy'n ddichonadwy? Y nod yma yw datblygu briff creadigol clir sy'n fframio'r her dylunio...dyma'r maes y dylid canolbwyntio arno.

Datblygu – mae hwn yn gyfnod datblygu lle caiff datrysiadau neu gysyniadau eu creu, eu prototeipio, eu profi a'u hailadrodd. Mae'r broses hon o brofi a methu yn helpu dylunwyr i wella a mireinio eu syniadau.... caiff datrysiadau posibl eu cynhyrchu yn y cam hwn.

Cyflawni – dyma pryd y caiff y project terfynol h.y. cynnyrch, gwasanaeth neu amgylchedd, ei gadarnhau, ei gynhyrchu a'i lansio....dyma'r datrysiadau sy'n gweithio.

Ym mhob proses greadigol, caiff nifer o syniadau posibl eu creu cyn mireinio a chyfyngu i gyrraedd y syniad gorau.

Er mwyn canfod pa syniadau yw'r rhai gorau, mae'r broses greadigol yn iteraidd.

‘Dylunio ailadroddus yw methodoleg dylunio yn seiliedig ar broses gylchol o brototeipio, profi, dadansoddi, a mireinio cynnyrch neu broses. Mae newidiadau a mireinio yn cael eu gwneud yn seiliedig ar ganlyniadau profi'r ailadroddiad mwyaf diweddar o ddyluniad.'

Mae hyn yn golygu y caiff syniadau eu datblygu, eu profi a'u mireinio nifer o weithiau, gyda syniadau gwan yn cael eu gollwng yn y broses. Mae'r cylch hwn yn rhan hollbwysig o ddyluniad da.

GWELEDIGAETH

Defnyddio

PARHEWCH

ITERIAD 1 ITERIAD 2 ITERIAD 3 ITERIAD 4

MANYLION ITERIAD

DIAGRAM ITERIAD

ADEILADU

PROFI

Dylun

io

Rheoli Ansawdd

Gwerthuso

Gofynion Manwl

Dylunio a Dadansoddi

GWEITHREDU

Page 9: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddAstudiaeth Achos–Dyluniad yn canolbwyntio ar y defnyddiwr–ymchwilio i broblem a'i dadansoddi

James Dyson

Wyddoch chi’r teimlad yna pan fo rhyw declyn pob dydd yn eich siomi? “Mi fyswn i wedi gallu dylunio un gwell fy hun” ddaw i’ch meddwl. Ond faint ohonom ni sydd wedi cymryd camau i droi’r syniad hwnnw’n wirionedd? Wel, mi wnaeth James Dyson hynny’n union. Dyma ddyn sy’n hoffi gwneud i bethau weithio’n well. Ar y cyd â’i dîm ymchwil, mae wedi dylunio cynhyrchion sydd wedi cyrraedd gwerthiannau o dros £3 biliwn ledled y byd.

Syniad newydd

Ym 1978, sylwodd James Dyson fod y ffilter aer yn ystafell chwistrell-orffennu Ballbarrow wastad yn tagu â gronynnau powdwr (yn union fel mae bag sugnwr llwch yn tagu â llwch). Felly aeth ati i ddylunio ac adeiladu tŵr seiclon diwydiannol oedd yn tynnu’r gronynnau powdwr drwy roi grymoedd allgyrchol mwy na 100,000 gwaith rhai disgyrchedd ar waith. Allai’r un egwyddor weithio mewn sugnwr llwch tybed? Rhoddodd James Dyson ei drwyn ar y maen. 5 mlynedd a 5,127 o brototeipiau’n ddiweddarach, creodd Dyson sugnwr llwch heb fag cyntaf y byd.

Y sugnwr llwch gwerth $2,000

Efallai ei fod yr un mor hurt â chario glo i Fflint ond aethpwyd â sugnwr llwch heb fag cyntaf James Dyson i’w werthu yn Japan, sef cartref cynhyrchion uwch-dechnoleg. Gyda’r enw ‘G Force’, enillodd wobr Ffair Ddylunio Ryngwladol 1991 yn Japan. Roedd ei berfformiad wedi creu argraff cystal ar y Japaneaid fel i’r G Force ddod yn symbol o statws, gan werthu am $2,000 yr un!

Y Dyson cyntaf

Gan ddefnyddio’r incwm o’r drwydded Japaneaidd, penderfynodd James Dyson weithgynhyrchu model newydd dan ei enw ei hun ym Mhrydain. Ym mis Mehefin 1993, agorodd ganolfan ymchwil a ffatri yn Wiltshire, nid nepell o’i gartref, a datblygu peiriant oedd yn casglu gronynnau hyd yn oed llai o lwch

Page 10: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloesedd(gronynnau microsgopig mor fân â mwg sigaréts). Y canlyniad oedd y DC01, sef y cyntaf yn yr ystod o sugnwyr llwch i sugno’n barhaus. Problem arall i’w datrys

“Dwi’n hoffi dy sugnwyr llwch di, ond pryd wnei di un nad oes rhaid i mi ei wthio o gwmpas?”. Sbardunodd y sylw ffwrdd-â-hi hwn feddwl creadigol James Dyson. Byddai cynhyrchu rhywbeth fyddai’n bownsio’n ddiamcan oddi ar y dodrefn ac yn codi ychydig iawn o lwch yn hawdd, ond mynnodd James Dyson y dylai’r robot Dyson DC06 lanhau’n drylwyr a hefyd ei arwain ei hun yn fwy rhesymegol nag y byddai person yn ei wneud. Cymerodd 3 cyfrifiadur mewnol, 50 dyfais synhwyro a 60,000 o oriau o ymchwil i greu robot glanhau effeithlon a threfnus.

Hunllef y patent

Bu bron i’r Dual Cyclone™ beidio â chael ei greu oherwydd costau cyfreithiol a thalu am batent. Yn wahanol i rywun sy’n ysgrifennu caneuon, sy’n berchen ar y gân y mae’n ei hysgrifennu, rhaid i ddyfeisiwr dalu ffioedd sylweddol i adnewyddu ei batentau bob blwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd datblygu, pan nad oedd gan James Dyson unrhyw incwm, bu bron i hyn ei wneud yn fethdalwr. Peryglodd bopeth, ac yn ffodus, talodd hynny ei ffordd. Yna, yn 1999, ceisiodd Hoover efelychu peiriant Dyson a gorfodwyd James Dyson yn ôl i’r llys i amddiffyn ei ddyfais. Ar ôl 18 mis, llwyddodd Dyson o’r diwedd i gael buddugoliaeth dros Hoover am dorri patent.

Root Cyclone™

Roedd gwyddonwyr Dyson yn benderfynol o greu sugnwyr llwch gyda hyd yn oed mwy o sugnedd. Felly aethant ati i weithio ar ddatblygu math newydd sbon o system seiclon. Bu iddynt ganfod fod seiclon â diamedr llai yn rhoi mwy o rym allgyrchol. Felly bu iddynt ddatblygu ffordd o gael 45% yn fwy o sugnedd na Seiclon Deuol a chael gwared â mwy o lwch, drwy rannu’r aer rhwng 8 seiclon llai, sy’n esbonio’r enw Root 8 Cyclone™.

Ceir rhagor o fanylion ar Eiddo deallusol gan ddilyn y ddolen isod:-https://www.gov.uk/government/organisations/intellectual-property-office

Page 11: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddMANYLEBAU DYLUNIO

Defnyddir manylebau fel canllawiau i’r dylunydd sicrhau y bydd y cynnyrch yn llwyddiannus. Bydd y dylunydd yn ceisio ateb holl bwyntiau’r fanyleb ac yn cyfeirio’n ôl at y fanyleb wrth ddylunio i sicrhau bod agweddau ar y dyluniad yn bodloni pwyntiau’r fanyleb.

Gelwir y rhain weithiau’n FEINI PRAWF PERFFORMIAD.

Nodweddion manyleb

Manyleb Gynradd

Dyma’r nodweddion hanfodol y mae’n rhaid i’r cynnyrch eu cael i weithio’n iawn, e.e. rhaid i garton llefrith ddal 1ltr o hylif. HANFODOL.

Manyleb Eilaidd

Mae’r rhain yn nodweddion dymunol neu ddewisol – byddai’n braf eu cael ond nid ydynt yn hanfodol i’r cynnyrch weithio’n iawn, e.e. rhaid i’r carton llefrith edrych yn ddeniadol i ddenu’r cwsmer.

Gellir categoreiddio pwyntiau manyleb yn ddau wahanol grŵp: Meintiol ac Ansoddol.

Manyleb Feintiol

Dyma bwyntiau manyleb y gellir eu mesur, e.e.

• rhaid i fatri chwaraewr MP3 bara 3 awr heb orfod ei ailwefru

• rhaid i gadair bwyso llai na 3Kg• rhaid i gar wneud 65 milltir i’r alwyn• rhaid i gynnyrch gostio llai na £3.50 i’w

weithgynhyrchu

Gellir profi a mesur manyleb feintiol. Gellir ateb pob un o’r pwyntiau uchod â ffeithiau.

Rhaid i’r cynhwysydd llaeth ddal swm penodol o laeth i fodloni ei fanyleb gynradd [Nodwedd Hanfodol].

Gellir dylunio’r cynhwysydd ag ymddangosiadau esthetig gwahanol i ddenu cwsmeriaid neu i sefyll allan ymysg cystadleuwyr. Gellir ystyried hyn fel manyleb eilradd [Nid yn nodwedd hanfodol i’r cynnyrch weithio]

Cadair Pysgota Cludadwy

Page 12: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddManyleb Ansoddol

Mae’r pwyntiau manyleb hyn yn anoddach eu mesur ac yn fater o farn bersonol gan amlaf.

e.e. Rhaid i’r gadair edrych yn dda. Rhaid i liw’r ffabrig fod yn lliw naturiol.

MANYLEB FEL OFFERYN DYLUNIODefnyddir manyleb yn bennaf fel offeryn dylunio i feirniadu ansawdd a pherfformiad syniadau dylunio yn ei herbyn;

1. Mae’n helpu’r dylunydd i ganolbwyntio ar brif ofynion y dyluniad.

2. Gall y dylunydd gyfeirio’n ôl at y fanyleb wrth ddylunio – i wneud yn siŵr ei fod ar y trywydd cywir – ARFARNIAD PARHAUS.

3. Gall y dylunydd gyfeirio’n ôl at y fanyleb ar ôl i’r cynnyrch gael ei weithgynhyrchu er mwyn ei werthuso neu ei brofi – a yw’r cynnyrch terfynol yn bodloni holl bwyntiau’r fanyleb? ARFARNIAD TERFYNOL

Cadair Pysgota Cludadwy

Page 13: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDefnyddio Llyfrau BraslunioMae braslunio yn rhan o'r broses ddylunio a bydd y rôl honno'n amrywio yn dibynnu ar y cynnyrch terfynol sy'n cael ei greu, maint a chwmpas y prosiect, arddull y dylunydd unigol, profiad, a llif gwaith.

Gall braslunio ddechrau'n rhydd, gan ddefnyddio cysyniadau sylfaenol. Yna gweithio ar gysodiadau neu gynlluniau. Ar ôl dewis y cyfeiriadau hyn, gellir mireinio'r cysyniadau ymhellach gyda brasluniau manwl.

Mae anodi yn bwysig iawn wrth fraslunio – dyma'r sgwrs bersonol a gaiff dylunydd wrth egluro syniadau sylfaenol a datblygedig, deunyddiau, elfennau a gorffeniadau arwyneb er enghraifft.

Mae braslunio yn ffordd wych o archwilio cysyniadau yn gyflym. Gallwch fraslunio am awr neu ddwy a llunio sawl datrysiad posibl mewn perthynas â'r broblem ddylunio dan sylw. Bydd yn arbed amser i chi er mwyn eich galluogi i weithio drwy gysyniadau ar bapur cyn troi at y cyfrifiadur. Er y gellir braslunio ar y cyfrifiadur, nid yw mor gyflym â braslunio sawl cysyniad ar bapur.

Mae dylunwyr cynhyrchion yn treulio llawer o amser yn braslunio. Os ydych am ddylunio'r esgid chwaraeon, dodrefnyn neu feic nesaf, nid mewn cyfrifiadur y mae'r syniad yn dechrau, ond ar bapur.

Mae brasluniau yn ffordd gyflym o greu cysodiad sylfaenol eich darluniad. Gallwch wneud cyfres o frasluniau bach, neu gallant fod yn fwy. Cyhyd â bod eich brasluniau yn ddigon da i gyfleu'r elfennau angenrheidiol, nid oes angen bod yn fedrus wrth ddarlunio.

Gall dangos brasluniau bach neu gysodiadau i gleientiaid arbed llawer o amser i chi.

Gellir defnyddio brasluniau fel gweithgaredd ymchwil i gofnodi ac archwilio eich diddordebau. Gellir hefyd eu defnyddio i archwilio sawl opsiwn y gallech eu cymryd mewn dyluniad penodol.

Mae angen mireinio wrth greu dyluniad neu ddarluniad yn ddiweddarach yn y broses.

Efallai y byddwch yn awyddus i osgoi braslunio a throi at y cyfrifiadur yn syth neu greu eich datrysiadau fel brasluniau digidol. Does dim yn bod ar hynny, yn enwedig ar gyfer eich gwaith arbrofi eich hun. Braslunio yw'r dull cyflymaf o archwilio sawl datrysiad gweledol.

Enghraifft o Lyfr Braslunio

Page 14: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddCYFATHREBU DYLUNIADGall dylunwyr ddefnyddio gwahanol dechnegau i gyfathrebu eu dyluniadau.

Gall y rhain amrywio o frasluniau 2D a 3D, lluniadau cyflwyno i fodelu CAD.

BRASLUNIO LLAWRYDD – Dangos sut y mae syniadau’n cael eu datblygu. Gellir eu cynhyrchu’n gyflym a’u hanodi i egluro nodweddion dyluniad, a gallant fod mewn 2D neu 3D.

LLUNIADAU CYFLWYNO – Lluniadau 3D o ansawdd dda sy’n dangos i’r cwsmer sut y bydd y cynnyrch yn edrych. Gall hefyd gynnwys mesuriadau a gorffeniadau.

MODELU CAD – Gellir creu lluniadau ar gyfrifiadur i ddangos i gwsmeriaid sut y bydd y cynnyrch yn edrych o wahanol onglau, gyda gwahanol orffeniadau ac ati. Bydd y rhain o ansawdd uchel.

Brasluniau llawrydd ar gyfer ffôn symudol

Darluniau cyflwyniad terfynol ar gyfer camera tanddwr a dril cludadwy.

Model CAD ar gyfer bloc 3D y gellir ei ddangos ar ffurf orthograffig

Model CAD o fwrdd modern mewn 3D sydd wedi cael ei rendro gydag effaith defnydd

Page 15: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDYLUNIAD MANWL

Mae dyluniad manwl yn rhoi manylion nodweddion y cynnyrch. Mae’r dyluniadau’n dangos gwybodaeth megis:

• DEUNYDDIAU I’W DEFNYDDIO• DIMENSIYNAU A MEINTIAU’R CYDRANNAU• MANYLION SUT Y CAIFF Y CYNNYRCH EI GYDOSOD A’I ROI AT EI GILYDD

Mae’r dyluniad hwn yn hynod ddefnyddiol i’r dylunydd ei basio ymlaen i’r gweithgynhyrchwr. O’r lluniadau hyn, gall y gweithgynhyrchwr wneud y canlynol:

• GWNEUD YN SIŴR FOD POSIB GWNEUD Y CYNNYRCH• PARATOI NEU BRYNU OFFER NEU BEIRIANNAU YN BAROD AR GYFER GWEITHGYNHYRCHU• PARATOI NEU BRYNU DEUNYDDIAU• GADAEL I’R DYLUNYDD WYBOD OS YW’N RHAGWELD UNRHYW BROBLEMAU GYDA

CHYDOSOD, UNO NEU’R DEUNYDDIAU A DDEFNYDDIR

Mae’r lluniadau hyn yn cynnwys manylion y defnyddiau a ddefnyddir a dulliau adeiladu a fyddai’n helpu’r gwneuthurwr i gynhyrchu’r cynnyrch.

Page 16: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddModelu 2DMath syml o ddelweddu

1. Gall hyn fod ar ffurf darlun, braslun, templed neu batrwm.

2. Dim ond DAU ddimensiwn o'r model y gallwch eu gweld.

3. Gallwch ddangos mesuriadau neu faint cynnyrch i'r dylunydd, e.e. uchder, lled a siâp ac ati

4. Gallwch brofi symudiadau mecanyddol syml e.e. LIFERI ac ati

5. DIM dyfnder – gall fod yn anodd profi'r model yn cael ei ddefnyddio. e.e. siâp cadair na allech eistedd arni.

6. Gallech brofi siâp neu faint cynnyrch.7. Gellir llunio modelau 2D o ddeunydd taflennol,

papur, cerdyn, metel, MDF.

Prif ddiben model yw:-

• fel y gall y dylunydd neu'r gynulleidfa darged WELD sut y bydd y cynnyrch terfynol yn edrych

• fel y gall y dylunwyr BROFI'R cynnyrch er mwyn gweld a fydd yn gweithio

• cyflymder gallu llunio prototeip y gellir ei weld a'i brofi fel y gellir rhoi adborth ar gyfer gwelliannau

• arbed costau deunyddiau yn hytrach na defnyddio'r deunyddiau cywir.

Model cerdyn 2D wedi’i gynhyrchu i bennu’r mesuriadau cywir

Model cerdyn 2D wedi’i gynhyrchu i brofi a fydd y mecanwaith yn gweithio.

Page 17: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddModelu 3D1. Gallwch weld TRI dimensiwn y model.2. Gallwch ddangos mesuriadau neu faint cynnyrch i'r

dylunydd, e.e. uchder, lled a dyfnder yn ogystal a siâp a ffurf y cynnyrch i'r dylunydd.

3. Gellir cynnal profion ar y cynnyrch, eistedd arno, cryfder, storio.

4. Gellir creu modelau 3D o unrhyw ddeunydd traddodiadol 'Rhad' fel Styrofoam, cerdyn, clai, MDF, metel, plastig, bwrdd sbwng ac ati.

Manteision

1. Deunyddiau ar gael yn rhwydd, yn rhad a gellir eu gweithio gyda chyfarpar a pheiriannau sylfaenol.

2. Gellir dangos syniadau yn effeithiol mewn 3D.

3. Gellir eu profi yn y sefyllfa wirioneddol.

4. Gellir creu modelau syml yn gymharol gyflym [arbed amser ac arian].

Anfanteision

1. Gall gymryd llawer o amser a sgiliau i greu model o ansawdd uchel [cost]

2. Os bydd y cwsmer yn gofyn am orffeniad neu siâp gwahanol, bydd yn rhaid creu model newydd a fydd yn cymryd amser.

Model cerdyn 3D i raddfa o gadair

Model ewyn styro 3D o set symud a siarad (walkie-talkie)

Model bwrdd ewyn 3D i raddfa o uned storio fodern

Page 18: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddPrototeipio Cyflym / Argraffwyr 3D

Gellir creu modelau’n gyflym.

Arbed Amser Aros – gall gweithgynhyrchwyr gyflwyno’r cynnyrch i’r farchnad yn gynt.

Gallu gwerthuso cynigion

• Adborth gan gleientiaid• Estheteg–sut mae'n edrych• Perfformiad mecanyddol–sut mae'n gweithio

Arbed Amser Paratoi – gall gweithgynhyrchwyr gael cynhyrchion ar y farchnad cyn eu cystadleuwyr.

Siapiau cymhleth y byddai’n amhosib eu creu â llaw.

Fe’i defnyddir yn y byd meddygol. Lle mae niwed wedi digwydd i asgwrn, gellir sganio’r lleoliad a bydd cyfrifiadur yn adeiladu proffil 3D o siâp fyddai’n ffitio’r man a niweidiwyd.

Byddai peiriant CAM 3D yn gallu cynhyrchu’r cynnyrch yn hynod fanwl gywir.

Brodwaith ar ddillad – gwaith cywir iawn y gellir ei wneud ar filoedd o eitemau.

Gellir cynhyrchu cydrannau cymhleth a phrototeipiau gyda pheiriannau argraffu 3D

Prototeip 3D o dril llaw

Pren haenog gwastad 2D wedi’i dorri â laser y gellir ei osod i gynrychioli gwrthrychau 3D

Gwaith a gynhyrchwyd gyda Pheiriant Brodwaith CNC

Page 19: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddArgraffu 3DMae'r broses gymharol fodern hon wedi galluogi dylunwyr cynnyrch i greu ffurfiau cywrain a chymhleth yn eithaf hawdd wrth ddatblygu a threialu syniadau.Mae'r broses yn cynnwys dylunio a chreu model/darlun cyfrifiadurol 3D y gellir ei anfon i argraffwr 3D i'w greu.

Fel arfer, caiff y cynnyrch ei greu o ffilament polymer, fel arfer PLA [Asid Poly-Lactig - Plastig Bioddiraddadwy] neu ffilament ABS [ Acrylonitrile Butadiene Styrene] sy'n seiliedig ar olew ac y mae angen lefel uchel o wres i'w doddi.

Mae angen gwres isel ar PLA er mwyn toddi'r ffilament fel y gellir creu'r model mewn amgylchedd agored o fewn yr argraffydd 3D. Mae'r math hwn o blastig ar gael mewn sawl lliw a gall greu gorffeniad arwyneb da a gellir ei argraffu ar arwyneb oer.

Mae angen arwyneb wedi'i gynhesu ar ABS i argraffu arno ynghyd ag amgylchedd amgaeedig yn yr Argraffydd 3D er mwyn cynnal lefel gyson o wres. Bydd y cynnyrch terfynol yn fwy gwydn na'r cynnyrch PLA ond bydd yn cymryd mwy o amser i'w argraffu.

Mae'r dechnoleg hon yn cynnig sawl mantais i'r dylunydd oherwydd y gellir cynhyrchu modelau cymhleth yn gyflym heb fod angen buddsoddi mewn cyfarpar a phrosesau gweithgynhyrchu cymhleth. Mae hefyd yn galluogi'r dylunydd i arbrofi gyda modelau a phrototeipiau gwahanol a fydd yn gywir iawn ac yn eithaf rhad i'w cynhyrchu.

Bydd hyn yn galluogi'r dylunydd i ddatblygu syniadau yn llawer cyflymach a rhoi eu cynhyrchion ar y farchnad yn llawer cyflymach.

Mae prisiau'r peiriannau hyn yn fforddiadwy iawn ac oherwydd prisiau rhad ffilamentau PLA ac ABS, maent yn eithaf rhad i'w rhedeg gan nad oes unrhyw ddeunyddiau'n cael eu gwastraffu.

Gellir cynhyrchu cynhyrchion ar alw i fanyleb fanwl.

Yr unig anfantais yw y gallai gymryd llawer o amser i argraffu ffurfiau cymhleth.

Am fwy o enghreifftiau o fodelau wedi’u hargraffu mewn 3D ewch i www.proto3000.com

Peiriant Argraffu 3D

Ffilament PLA ar gael mewn lliwiau amrywiol

Ffasgau prototeip rheoli o bell wedi’i argraffu mewn 3D

Page 20: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddMae argraffu 3D wedi creu cyfleoedd yn y proffesiwn meddygol lle gellir argraffu esgyrn neu goesau a breichiau sydd wedi torri mewn 3D i fanylebau manwl ar gyfer cleifion.

Gall llawfeddygon orthopedig ail-greu esgyrn sydd wedi torri drwy argraffu 3D.

Gellir creu coesau a breichiau prosthetig i'r union ddimensiynau ar gyfer y defnyddiwr.

Gellir creu adeiledd esgyrn sydd wedi’i ddifrodi gan ddefnyddio dulliau argraffu 3D.

Aelodau (limbs) prosthetig wedi’u hargraffu gan ddefnyddio Peiriant Argraffu 3D

Page 21: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddModelu a Grëwyd gan TGCh.

Mae dylunwyr cynhyrchion, penseiri a pheirianwyr heddiw yn wynebu heriau hynod anodd: mae strwythurau, dyluniadau a llifau gwaith yn mynd yn fwy cymhleth, ac mae modelu 3D yn ddefnyddiol ar gyfer osgoi gwneud camgymeriadau.

Maent yn eich galluogi i brofi ffactorau straen a goddefiant cynnyrch cyn ei adeiladu, gan arbed amser, arian a chanlyniadau a allai fod yn drychinebus. Mae model 3D hefyd yn eich galluogi i weld y canlyniad terfynol cyn iddo gael ei adeiladu, fel y gellir datrys problemau cyn y bydd yn rhy hwyr.

Gall cyfarpar dadansoddi datblygedig efelychu llif hylif i ddirgryniadau mesur mewn elfennau strwythurol allweddol. Mae efelychu'r ffactorau amgylcheddol hyn yn hanfodol wrth nodi namau yn y dyluniad a lleoli problemau adeiladu difrifol yn union.

Mae argraffu 3D yn galluogi dylunwyr i "argraffu" prototeipiau a modelau yn gyflym–gan leihau costau llunio prototeipiau.

Gyda gwaith modelu CAD 2D, caiff llawer o amser ei dreulio a llawer o egni ei ddefnyddio yn sicrhau bod eich cynllun, toriad a gweddlun yn cyfateb. Gyda gwaith 3D, bydd dylunwyr, penseiri a pheirianwyr yn gallu tynnu'r wybodaeth 2D honno o fodel cymhleth, gan roi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar y broses ddylunio.

Gyda meddalwedd CAD 3D, gall pob elfen unigol o strwythur hefyd gael ei harwahanu, dadansoddi, profi, cymeradwyo neu newid.

Un o'r prif fanteision sy'n gysylltiedig â meddalwedd 3D yw ei fanylder. Gellir dadansoddi a mesur pob elfen o gynnyrch, adeilad neu beiriant yn unigol.

Mae'n fanteisiol iawn gallu rhoi taith rithwir i gleientiaid o'u cynnyrch neu adeilad oherwydd y gall roi cynrychiolaeth weledol ryngweithiol o'r cynnyrch terfynol.

Gall cwmnïau sydd ag argraffydd 3D fynd un cam ymhellach a chreu cynrychiolaeth ffisegol o'u dyluniadau cyn cyfarfod â chleientiaid–am bris llawer rhatach na ffioedd mowldio ffatrioedd.

Caiff meddalwedd ai adeiladu ar gyfer addasu, lle gellir gwneud newidiadau yn gyflym, er enghraifft i ffurf, patrwm arwyneb neu fanylion gwead a mecanyddol.

Modelau 3D wedi’u cynhyrchu gyda CAD

Cas ffôn symudol wedi’i argraffu mewn 3D

Modelau Chwisg Llaw wedi’u hargraffu mewn 3D

Page 22: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddGall dylunwyr ddefnyddio gwahanol ddulliau i gasglu gwybodaeth i’w helpu i ddatrys problemau.

1. Ymchwil Gynradd2. Ymchwil Eilaidd

Ymchwil GynraddDyma ymchwil y bydd rhaid i CHI EICH HUN ei wneud yn uniongyrchol. Nid yw’r gwaith ymchwil hwn wedi’i wneud o’r blaen gan eraill.

1. Ffonio pobl i ofyn am eu barn.2. Creu eich holiadur eich hun.3. Ymweld â phobl.4. Profi deunyddiau eich hun.

Ymchwil Eilaidd1. Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi’i wneud i chi’n

barod.2. Chwilio’r we.3. Chwilio mewn llyfrau/cylchgronau.4. CD Roms.

Ffynonellau TGChGall dylunwyr ddefnyddio ffynonellau TGCh i’w helpu gyda’u hymchwil.

Defnyddio CD Roms sy’n cynnwys gwybodaeth. Gwyddoniaduron ar DVD.

Defnyddio’r rhyngrwyd i chwilio am ddeunyddiau neu gynhyrchion sydd eisoes yn bodoli. Anfon negeseuon e-bost at bobl i ganfod gwybodaeth am brisiau neu fesuriadau cynnyrch neu dechnegau gweithgynhyrchu.

Anfon atodiadau o luniadau i gwsmeriaid eu cymeradwyo. Mae’r rhyngrwyd yn golygu bod yr wybodaeth fel arfer wedi’i diweddaru, ond rhaid i chi gymryd gofal o ran pa mor ddibynadwy yw rhai gwefannau.

Holiaduron syml neu ffonio pobl

Cyfweld cwsmeriaid neu gleientiaid

Ffynonellau TGCh y gellid eu defnyddio

Page 23: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddHoliaduronGellir eu creu a’u hanfon i filoedd o bobl yn eithaf rhwydd. Gellir eu hanfon dros e-bost (TGCh) yn llawer rhatach na thalu am stampiau. Ystyriol o’r amgylchedd.

Problemau• Wyddoch chi ddim faint gaiff eu dychwelyd.• Dim ond atebion i’r cwestiynau rydych chi wedi’u

gofyn a gewch chi – dim gobaith o ganfod unrhyw beth arall, e.e. gall sgwrs grwydro oddi ar y testun gan arwain at ganfod rhywbeth arall.

• Ni ellir herio na chwestiynu’r data.• Rhaid cynllunio cwestiynau’n ofalus er mwyn

canfod yr wybodaeth gywir.

Galwadau ffôn• Siarad â’r person i ddod o hyd i union anghenion y

cwsmer.• Nid yw’n bersonol iawn o’i gymharu â siarad wyneb

yn wyneb.• Mae pobl yn rhoi’r ffôn i lawr oherwydd galwadau

niwsans.

Cyfweliad• Rhaid ei gynllunio’n ofalus.• Mae’n cymryd cryn dipyn o amser.

Grwpiau BarnGrŵp o bobl sy’n rhoi adborth ar gynhyrchion. Bydd y grŵp yn defnyddio cynnyrch dros gyfnod o amser ac yn casglu eu barn ar ei berfformiad. Mae’r adborth yn fwy cyffredinol a chywir gan ei fod yn cyfleu safbwynt y grŵp yn hytrach na barn bersonol unigolyn allai fod wedi cael profiad gwael o ddefnyddio’r cynnyrch.

Page 24: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddCronfeydd dataCasgliad o wybodaeth yw cronfa ddata a drefnwyd er mwyn gallu ei hadfer yn effeithlon. Gallai'r wybodaeth a gasglwyd fod mewn unrhyw nifer o fformatau (electronig, argraffedig, graffig, sain, ystadegol, cyfuniadau). Ceir cronfeydd data ffisegol (papur/print) ac electronig.

GWYDNWCH BREUDER HYDWYTHEDD HYDRINEDD GWRTHSAFIAD i GYRYDIADCopr Haearn bwrw Plwm Aur AurNicel Efydd Tun Arian SincArian Pres Sinc Copr PlwmAur Sinc Aur Alwminiwm AlwminiwmSinc Tun Alwminiwm Tun TunPlwm Manganîs Arian Plwm NicelHaearn Dur wedi'i

Galedu

Gallai cronfa ddata fod mor syml ag enwau wedi'u rhoi yn nhrefn yr wyddor mewn llyfr cyfeiriadau neu mor gymhleth â chronfa ddata sy'n darparu gwybodaeth mewn cyfuniad o fformatau.

Gwybodaeth wedi'i threfnu mewn ffordd sy'n golygu y gall rhaglen gyfrifiadurol ddewis darnau o ddata dymunol yn gyflym. Gallwch feddwl am gronfa ddata fel system ffeilio electronig.

Caiff cronfeydd data traddodiadol eu trefnu yn ôl meysydd, cofnodion a ffeiliau. Un darn o wybodaeth yw maes; un set gyflawn o feysydd yw cofnod; a chasgliad o gofnodion yw ffeiliau.

Caiff data eu trefnu yn rhesi, colofnau a thablau, a chânt eu mynegeio er mwyn eu gwneud yn haws i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol. Caiff data eu diweddaru, eu hehangu a'u dileu wrth i wybodaeth newydd gael ei hychwanegu.

Gellir defnyddio pecynnau cronfa ddata i gofnodi a dadansoddi data arolygon.

Gellir defnyddio meddalwedd taenlen i wneud siartiau Gantt neu siartiau cynllunio eraill, i lunio graffiau a siartiau, ac i helpu wrth gostio prosiectau

Enghraifft o grwpiau barn Cronfa ddata o ganlyniadau

Cronfa ddata o briodweddau metel

Page 25: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDadansoddi ProblemauYn aml, bydd dylunwyr yn dechrau drwy edrych ar waith dylunwyr eraill a dadansoddi’r dewisiadau a wnaed ganddynt. Maent yn ystyried pa mor llwyddiannus y mae'r cynnyrch yn bodloni'r meini prawf hyn a beth y gellid ei wneud i'w newid.

Mae dylunwyr a gweithgynhyrchwyr yn gwerthuso ar sail barhaus wrth ddatblygu dyluniad ac wrth weithgynhyrchu. Mae'n hanfodol cymharu yn erbyn y fanyleb dylunio a gwneud a chofnodi barnau, gwelliannau a safbwyntiau defnyddwyr.

Gellir dechrau dadansoddi sefyllfaoedd neu gyd-destunau dylunio drwy ofyn cwestiynau sylfaenol:

1. A yw'n addas at y diben?2. A yw'n diwallu anghenion y farchnad darged?3. Pa mor dda y mae wedi cael ei ddylunio a'i wneud?

Bydd dylunwyr yn ystyried y cwestiynau hyn wrth ddadansoddi eu dyluniadau eu hunain a gwaith dylunwyr eraill. Fel arfer, er mwyn ateb y tri chwestiwn uchod, bydd angen gwerthuso'r canlynol:

• Y fanyleb dylunio, yn seiliedig ar ofynion y farchnad darged a'r cyfleusterau gweithgynhyrchu sydd ar gael.

• Beth yw anghenion y farchnad darged?• Perfformiad y cynnyrch a pha mor addas y mae ar

gyfer ei ddefnydd terfynol?• Ansawdd y deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth

weithgynhyrchu'r cynnyrch.• Apêl esthetig neu rinweddau arddulliol y

cynnyrch.• A yw'r cynnyrch yn cynnig gwerth am arian?• Unrhyw fater diogelwch,

moesegol neu amgylcheddol? A yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a beth yw ei effaith ar yr amgylchedd?

Page 26: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddStrategaethau DylunioMae dylunwyr yn defnyddio dulliau o feddwl am syniadau

Gwrthdroi:Troi’r broblem ar ei phen, edrych arni mewn ffordd wahanol. “Sut alla’ i fynd i’r gwaith?” – trowch y broblem ar ei phen – “Sut alla’ i gael y gwaith i ddod ata’ i?”

Ysgrifennu syniadau:Grŵp o tua 10 i 14 o bobl, o wahanol gefndiroedd yn ddelfrydol. Bydd un person yn cymryd rôl ysgrifennydd ac yn nodi’r holl syniadau a gynigir ar bapur. Bydd pawb yn awgrymu ateb posib i’r broblem, waeth pa mor wirion neu amhosib yw’r ateb hwnnw. NI DDYLID BEIRNIADU AR Y CAM HWN. Gallai beirniadaeth atal pobl rhag dweud rhywbeth – gallent fod ofn i eraill wneud hwyl am eu pennau. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y grŵp yn trafod yr atebion i weld pa rai sydd â’r potensial i’w datblygu ymhellach.

Dadansoddiad morffolegol:Darganfod nodweddion allweddol cynnyrch ac yna ystyried gwahanol ffyrdd o greu’r nodweddion hynny. E.e. mae gan ferfa gorff dur a ffrâm ddur, dwy handlen, un olwyn niwmatig ac mae’n cael ei gwthio. Gellir ystyried nifer o wahanol gyfuniadau i ganfod cannoedd o wahanol atebion.

DADANSODDIAD MORFFOLEGOL - BerfaDeunydd y

corffDeunydd y

ffrâmHandlenni Olwynion Math o

olwynSymudiad

Opsiwn 1 Dur Meddal Dur Meddal 2 1 Niwmatig Gwthio

Opsiwn 2 Pren Dur Meddal 2 2 Solet Gwthio

Opsiwn 3 Canfas Dur Meddal 2 1 Niwmatig Gwthio

Opsiwn 4 Polypropylen Pren 1 3 Pêl Gwthio

Tabl yn rhoi opsiynau gwahanol ar gyfer dylunio berfa

Page 27: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddMeddwl ochrolMeddyliwch am y broblem o safbwynt arall. E.e. Edward Jenner wrth ddarganfod brechlyn i wella’r Frech Wen: roedd pawb arall yn meddwl, “Pam fod pobl yn dal y frech wen?”, ond meddyliodd Jenner, “Pam nad yw rhai pobl yn dal y frech wen?”. Yn y pen draw, bu iddo ganfod pam nad oedd rhai pobl yn dal y frech wen a darganfod triniaeth. Drwy feddwl yn ochrol ac ystyried y broblem yn y modd yma, datblygwyd brechlyn i wella pobl oedd yn dioddef o’r afiechyd.

DatgymaluTynnu pethau oddi wrth ei gilydd i weld sut maent yn gweithio, yna datblygu gwell syniadau.

Strategaethau uwchben ac o dan y llinell

Uwchben y llinell

Dadansoddi cynnyrch a nodi sut y mae’r nodweddion allanol uwchben y llinell yn gweithio. Siâp allanol, ymddangosiad (estheteg), lliw, gwead, rhyngwyneb y defnyddiwr – botymau, sgriniau ac ati. Yr hyn y gall y cwsmer ei weld.

O dan y llinell

Mae’r rhain fel arfer yn nodweddion cudd nad ydynt yn amlwg i’r defnyddiwr. Y tu mewn i’r cynnyrch, sut y mae’n gweithio, y dechnoleg, y mathau o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd, sut mae’r cynnyrch wedi’i weithgynhyrchu, cylchedau trydanol. Mae’r rhain oll yn bwysig iawn i lwyddiant y cynnyrch.Gall dylunydd ddefnyddio’r nodweddion hyn i ysbrydoli neu sbarduno ei syniadau ei hun.

Lamp IKEA wedi’i dynnu’n ddarnau i ddeall sut mae cydrannau’n cael eu gweithgynhyrchu a’u rhoi at ei gilydd

Page 28: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddPeirianneg groes:Tynnu cynnyrch oddi wrth ei gilydd i weld sut mae’n gweithio. Byddai hyn yn galluogi’r dylunydd i werthuso nodweddion da a gwael y cynnyrch a gweld sut mae pethau’n gweithio. Gwnaeth Dyson hyn gyda’r hen sugnwyr llwch i weld pam nad oedden nhw’n gweithio mor effeithlon ag y dylent.

Cynulleidfa Darged / Nawsfwrdd / Bwrdd CysyniadauMae’n bwysig iawn i ddylunydd cynnyrch wybod pa farchnad neu gynulleidfa yr anelir y cynnyrch ato. Gall greu Nawsfwrdd i greu proffil o’r math o berson fyddai’n prynu’r cynnyrch.

O wneud hyn, gall y dylunydd sefydlu ffordd o fyw ac anghenion y person. Wrth hyrwyddo’r cynnyrch, bydd yn gwybod lle i hysbysebu – pa gylchgronau a rhaglenni teledu y mae’r person hwn yn eu darllen a’u gwylio.

Lluniadau Cysyniad Terfynol ar gyfer y cleient

Lluniadau Cysyniad Terfynol y gallai’r dylunydd eu dangos i gleient er mwyn cael adborth cyn gweithgynhyrchu

Llygoden cyfrifiadur wedi’i thynnu’n ddarnau i ddeall sut mae’n gweithio

Page 29: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddJonathan IVE iMacCipiodd tîm Ive sylw’r byd ym 1998 drwy ryddhau’r iMac cyntaf. Gwerthwyd dros ddwy filiwn ohonynt yn y flwyddyn gyntaf, a disgrifiwyd dyluniad yr iMac fel “un o ddelweddau parhaus y ganrif” gan BusinessWeek. Aeth yr iMac ymlaen i ennill nifer o gystadlaethau dylunio.

Dylunydd Prydeinig a ddatblygodd yr iMac.Roedd cwmni cyfrifiaduron Apple ar fin mynd i’r wal. Ni allai gystadlu â chyfrifiaduron oedd yn defnyddio Windows.

Datblygodd Jonathan Ive fath newydd yr olwg o gyfrifiadur, sef yr iMac.

Roedd pob cyfrifiadur yn y gorffennol wedi’u dylunio mewn plastig lliw llwydfelyn. Roedd yr holl ddatblygiadau oedd yn digwydd yn ymwneud â’r dechnoleg ei hun - cardiau graffeg cyflymach, gwell gyrwyr caled, gwell cof ac ati. Yn y bôn, arhosodd ymddangosiad allanol y cyfrifiadur yr un fath. Roedd holl ddatblygiadau’r cyfrifiadur wedi’i seilio ar ‘Wthiad y Dechnoleg’ [y dechnoleg yn pennu sut roedd cynhyrchion yn cael eu gwella].

NODWEDDION DYLUNIO ALLWEDDOL

• Ystyriodd Jonathan Ive estheteg [ymddangosiad] cyfrifiadur am y tro cyntaf. Datblygodd yr iMac, sef un cyfrifiadur gyda monitor yn rhan ohono. “Sori, dim llwydfelyn”

• Cynnig gwahanol liwiau neu ‘Flasau’ – llus, tanjerîn, mintys - dim defnyddio enwau lliwiau.

• Dim gyrrwr disg hyblyg [ystyriodd Ive y disg hyblyg fel rhywbeth oedd yn perthyn i’r gorffennol].

• Gellid defnyddio’r cyfrifiadur hwn yn unrhyw ystafell yn y tŷ – byddai’r lliwiau’n gweddu. Nid oes angen ei gyfyngu i’r swyddfa neu’r stydi.

• Y cyfrifiadur yn rhan o fywyd pob dydd – y rhyngrwyd ac ati – peiriant amlgyfrwng.

• Dilynodd nifer o weithgynhyrchwyr yr un trywydd, e.e. cynigiodd Hewlett Packard ac Epson berifferolion megis argraffwyr a sganwyr gyda’r un math o blastig i gyd-fynd.

• Mae’r gwahanol arddulliau hyn o gyfrifiaduron wedi datblygu, e.e. Apple G4, Mac Air Book.

Page 30: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddGallai’r prynwr ddewis cyfrifiadur oedd yn gweddu i ystafell arbennig. Roedd Ive o’r farn fod cyfrifiadur yn rhan o fywyd beunyddiol pobl, ac y dylai fod wedi’i osod yn yr ystafell fyw yn hytrach na’r swyddfa neu ystafell wely. Fe ddylen nhw fod yn rhywbeth deniadol i edrych arnynt.

Slogan farchnata a ddefnyddiwyd gan Apple: ‘Sori, ddim ar gael mewn llwydfelyn”.Mae’r dyluniad hwn wedi cael cryn ddylanwad ar ddyluniadau cyfrifiaduron. Dylunnir mwyafrif y cyfrifiaduron bellach gydag estheteg mewn golwg – siâp ac arddull. Mae argraffwyr a sganwyr hyd yn oed ar gael mewn gwahanol liwiau i gyd-fynd â lliw’r cyfrifiadur.

Mae Apple wedi datblygu cynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig â’r iMac, sef yr iPod, yr iBook ac ati.

iPod

iBook

Apple G4

Mac Air Book

Page 31: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDYLUNIO AMGYLCHEDDOL

HOWIES - Dillad

Cynnyrch o ansawdd uwch sy’n siŵr o bara’n hirach. Bydd yn parhau i berfformio yn ôl ei ddyluniad am gyfnod hirach cyn bod angen prynu un newydd. Felly dros hyd ei oes, bydd wedi defnyddio llai o adnoddau gwerthfawr na chynnyrch israddol y byddai’n rhaid prynu un newydd yn ei le droeon.

Dyma pam ein bod yn gwneud cynhyrchion o’r ansawdd gorau ag y gallwn, oherwydd yn y pen draw, y peth gorau y gallwn ei wneud i’r amgylchedd yw gwneud i’n stwff bara am amser maith.

Ymarferoldeb

Rydym yn credu mewn gwneud cynhyrchion sy’n ateb diben ac a ddeil brawf amser. Rydym yn osgoi ffasiynau’r dydd ac yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein cynhyrchion mor ymarferol a syml ag sy’n bosib.‘Yr hyn sydd â’r defnydd mwyaf sydd harddaf’.

Ein diben

Pam ein bod ni mewn busnes? I ni, nid yw gwneud elw mor syml â hynny. Fel unrhyw gwmni arall, mae angen i ni wneud elw i aros mewn busnes. Ond nid dyma’r rheswm pam y cychwynnom ni’n busnes. Yr hyn sydd wedi bod yn sefydlog ers y diwrnod cyntaf yw’r awydd i wneud i bobl feddwl am y byd rydym ni’n byw ynddo. Dyma pam ein bod ni mewn busnes.

Treth y Ddaear

Rydym yn addo rhoi 1% o’n trosiant, neu 10% o’n helw cyn treth (pa un bynnag sydd fwyaf) i brosiectau amgylcheddol a chymdeithasol ar lefel sylfaenol. I ddysgu mwy am ein cyfraniadau, ewch at y wefan. Dim ond swm bychan yw hyn, ond wrth i’n cwmni dyfu, byddwn yn gallu rhoi mwy. Sy’n rhoi rheswm braf i ni fod eisiau tyfu.

Hwyl

Rydym yn ceisio taro’r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a hamdden. Byddai’n drueni gwastraffu chwip

Jîns Kaizen cywarch

£225.00 Gwnaethpwyd y jîns hyn drwy gymysgu cywarch organig

gyda chotwm organig. Mae cywarch ddwywaith mor gryf â chotwm.

Page 32: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloeseddo ddiwrnod braf. Felly os byddwch chi’n ffonio a neb yn ateb yma, peidiwch â phoeni – rydyn ni allan yn mwynhau ein hunain. Felly gadwch neges ac mi fyddwn ni’n siŵr o’ch ffonio’n ôl.

Prawf y gadair siglo

Mae pob cynnyrch rydym ni’n ei wneud wedi pasio’r ‘prawf cadair siglo’. Dyma rywbeth rydym ni’n ei ddefnyddio i’n harwain ar hyd ein llwybr. Felly pan fyddwn ni’n hen a pharchus yn eistedd yn ein cadeiriau siglo, gallwn edrych yn ôl ar y cwmni y bu i ni ei greu gyda gwên. Dyma pam ein bod yn trafferthu defnyddio’r defnyddiau o’r ansawdd gorau i sicrhau y bydd ein dillad yn para’n hirach. Yr hiraf yn y byd y bydd ein dillad yn para, y lleiaf yn y byd o effaith y byddant yn ei gael ar yr amgylchedd, a’r mwyaf yn y byd fydd ein gwên ni.

Page 33: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddAstudiaeth Achos

O'r Syniad i'r Farchnad

DECHREUODD GYDA SYNIAD – TrunkiBrand o gesys y gellir eu reidio i blant, wedi'u dylunio gan Rob Law, yw Trunki. Penderfyniad llwyr sy'n gyfrifol am lwyddiant Rob Law............dylech gymryd cymaint o gyngor ag y gallwch a deall anghenion eich cwsmeriaid er mwyn sicrhau eich bod yn cynhyrchu cynnyrch y maent am ei brynu. Y peth pwysicaf am ddatblygu cynnyrch a'i gael ar y farchnad yw deall eich defnyddiwr. Ar y ffordd mae angen i chi gael cyngor ariannol, cyngor gweithgynhyrchu, cyngor marchnata, gwerthiannau, logisteg, y gadwyn gyflenwi (does neb yn gwybod am y pethau hyn ar y dechrau, ond mae'n rhaid i chi fynd ati i ddysgu amdanynt)

Llinell Amser..........

1997 Cymerodd Rob Law ran mewn cystadleuaeth yn y brifysgol i ddylunio cês. Aeth i siop adrannol i gael ysbrydoliaeth a bu'n edrych ar deganau y gellir eu reidio. Bu'n meddwl sut i ddefnyddio'r gofod segur, a chafodd y syniad ar gyfer Trunki. Aeth Rob ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

2003 Cafodd Rob grant gan y Prince's Trust i roi ei fusnes ar ben ffordd. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, llofnododd gytundeb trwydded gyda chwmni teganau o Saudi Arabia.

2005 Aeth y cwmni teganau i'r wal. Nid hwnnw oedd y dechrau yr oedd Rob wedi gobeithio amdano, felly penderfynodd fentro ar ei ben ei hun.

2006 Ganwyd Trunki eto - cyrhaeddodd y cynhwysydd cyntaf o gesys y gellir eu reidio Trunki yn Avonmouth heb wybod y byddent yn chwyldroi profiadau teithio i deuluoedd.

2006 Aeth Rob Law â Trunki i Dragon's Den ond methodd â sicrhau buddsoddiad.

2010 Gyda thîm a oedd yn tyfu'n gyflym, symudodd y

Rob Law, Prif Swyddog Gweithredol Trunki

Page 34: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloeseddcwmni i swyddfa newydd - capel wedi'i drawsnewid a elwir yn 'the Mother ship', sy'n cynnwys ystafell gemau a llithren!

2011 Un filiwn o gesys y gellir eu reidio Trunki wedi'u gwerthu.

2012 Y Trunki cyntaf a wnaed yn y DU yn rholio oddi ar y llinell gynhyrchu yn y ffatri yn Plymouth.

2013 Trunki yn hysbysu ar y teledu am y tro cyntaf.

2013 Trunki yn ennill ei 90ain gwobr gan Syr Richard Branson ac yn ymddangos yn y 42il safle yn y Sunday Times FT 100, ac yn ennill y wobr arloesedd glodwiw. Dwy filiwn o gesys y gellir eu reidio Trunki wedi'u gwerthu.

2014 Cês Trwyddedig Hello Kitty yn cael ei lansio, a oedd yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig ledled De-ddwyrain Asia. Trunki yn cyrraedd UDA!Lansiad Trunki Made4Me yn galluogi cwsmeriaid i fynd ar-lein a dylunio eu Trunki arbennig eu hunain, gyda biliwn o gyfuniadau lliw i ddewis ohonynt.Boris, Bws Llundain yn gwibio i'r safle cyntaf yn Ffair Deganau Llundain

2015, gan ennill y wobr am y tegan arbenigol gorau.

Dal i ffynnu - heddiw, mae tîm Trunki ym Mryste yn gweithio mor galed ag erioed, yn dosbarthu cynhyrchion i fwy na 97 o wledydd ledled y byd.

Esblygu Cynnyrch – Trunki

Ar bob cam, mae Rob Law wedi pwysleisio pwysigrwydd gwerthuso eich cynnyrch yn barhaus a'r ystyriaethau allweddol ar eich taith dylunio - effaith deunyddiau a gweithgynhyrchu ar gost, ymarferoldeb a diogelwch eich cynnyrch ac, wrth gwrs, dylai eich defnyddiwr fod wrth wraidd popeth a wnewch.

Mae angen i ddylunwyr cynnyrch wella eu cynnyrch/cynhyrchion yn barhaus drwy adborth gan ddefnyddwyr a manwerthwyr.........

Model Sbwng Gwreiddiol – deall y defnyddiwr.

Trixie - un o'r fersiynau cyntaf, yn datblygu dulliau gweithgynhyrchu costeffeithiol.

Page 35: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloesedd

Bernard y 3ydd Trunki - stacio a datblygu nodweddion diogelwch.

4ydd Trunki – nodweddion ychwanegol ar gyfer gwerthiannau yn America

5ed Trunki - gwnaed yn y DU, wedi'i ailddyfeisio, dim

sgriwiau, cliciedi platig arloesol, handlenni sy'n clepian i'w lle.

Astudiaeth Achos - Diogelu eich DyluniadauYn ôl yn 1996, pan ddarluniodd Rob Law ei syniad am gês y gellir ei reidio am y tro cyntaf, ychydig a wyddai ei fod yn braslunio ei ffordd i'r llwyddiant y mae'r cês y gellir ei reidio Trunki wedi'i gyrraedd heddiw! Gan werthu mwy na 2 filiwn mewn bron i 100 o wledydd ledled y byd, mae dyfais Rob Law yn y Brifysgol wedi sicrhau llwyddiant ledled y byd.

Fodd bynnag, ni thâl ffalsio ar ffurf fersiynau ffug, gan mai ei greadigaeth yw bywoliaeth dylunydd cynnyrch. Pan fydd pobl yn copïo eich dyluniadau gwerthfawr, mae'n niweidiol i'ch brand a'ch gwerthiannau, yn ogystal â bod yn hollol dorcalonnus pan fyddwch wedi gweithio mor galed i arloesi'r fersiwn wreiddiol a gorau.

Ers ei lansio yn 2007, mae copïau o'r dyluniad ar werth ar-lein ac all-lein ledled y byd, ac mae mwy yn dod i'r amlwg bob diwrnod. O'r dechrau, roedd gan Trunki y rhagwelediad i fuddsoddi mewn ffurfiau gwahanol o ddiogelwch Eiddo Deallusol, sy'n golygu bod ganddynt y gefnogaeth gyfreithiol i ymladd pan fydd pobl yn dwyn eu syniadau.

Mae pedwar prif fath o Eiddo Deallusol:

Mae Nodau masnach yn diogelu enwau brand. Mae creu brand ar gyfer eich cynnyrch yn ffordd dda o ychwanegu gwerth ac o helpu pobl i nodi syniadau. Gall ddiogelu geiriau a symbolau graffig ac mae diogelwch nod masnach yn para am 10 mlynedd.

Mae Patentau yn diogelu datrysiad technegol gwreiddiol. Ni allwch roi patent ar y syniad

Page 36: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac Arloeseddo gês y gellir ei reidio ond gallwch ddiogelu'r elfen o heriau technegol rydych wedi'u datrys mewn ffordd wreiddiol, er enghraifft mae dyluniad newydd y glicied ar y Trunki wedi'i batentu. Mae angen adnewyddu patentau bob pedair blynedd o ddyddiad eu cofnodi.

Mae Hawliau Dylunio yn diogelu siâp cynnyrch. Mae dau fath, anghofrestredig a chofrestredig.

Caiff dyluniadau anghofrestredig eu diogelu pan fyddwch yn eu creu ar yr amod bod gennych brawf o'r dyddiad creu. Flynyddoedd yn ôl, arferai pobl anfon eu dyluniadau at eu hunain gan ddefnyddio post cofrestredig fel prawf eu bod yn perthyn iddynt! Felly, dylech bob amser ddyddio eich dyluniadau pan fyddwch yn eu cynhyrchu. Dim ond yn y DU y mae hawliau anghofrestredig yn diogelu eich dyluniad ac maent yn ddilys am hyd at 15 mlynedd.

Gellir cofrestru dyluniadau cofrestredig dim ond yn y DU neu ledled Ewrop gyfan drwy Swyddfa Cysoni'r Farchnad Fewnol, OHIM. Mae hyn yn cynnig diogelwch llawer cryfach na dyluniadau anghofrestredig. Mae dyluniadau cofrestredig yn para hyd at 25 mlynedd ond rhaid eu hadnewyddu bob pum mlynedd.

Mae Hawlfraint yn atal eraill rhag arddangos eich gwaith – delweddau, dyluniadau, ffotograffau, graffeg ac ati – heb eich caniatâd ymlaen llaw ac mae'n para o 25 mlynedd i oes yn dibynnu ar y math o greadigaeth y mae'n ei diogelu.

Mae Patentau, Nodau Masnach a Dyluniadau Cofrestredig yn costio arian ond maent yn werthfawr iawn wrth ddiogelu brand a chynhyrchion Trunki – yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig Laura Breen (Cadlywydd Criw Trunki)

Page 37: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddPROFI DEUNYDDIAU A CHYNHYRCHION

PROFI ANSODDOL

• Profi gorffeniadau, modelu siapiau, estheteg.• Chwaeth bersonol – gall fod yn anodd ei fesur.

PROFI MEINTIOL

• Pa mor gryf yw’r deunydd? A yw’n gallu cynnal pwysau?

• Profi’r deunydd dan ddŵr i weld pa mor hir y byddai’n para yn yr awyr agored.

• Cymharu cost deunyddiau• Car yn gwrthsefyll gwrthdrawiad• Gellir profi â chyfrifiadur – efelychiad o bont o dan

bwysau

Fel arfer, gellir profi’r profion hyn yn wyddonol.

Tensileometer

Mae'n profi pa mor gryf yw deunydd o dan rym tyniant [tynnu]

Page 38: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddAstudiaethau DichonoldebMae astudiaethau dichonoldeb yn sicrhau y bydd eich buddsoddiad dylunio a datblygu yn werth chweil.

Mae ein hastudiaethau dichonoldeb dylunio yn hanfodol er mwyn lleihau eich amser a'ch costau datblygu. Mae cymryd amser i archwilio costau a'r buddsoddiad sy'n ofynnol i gwblhau'r prosiect yn sicrhau:

• Llai o risg i'r prosiect drwy archwilio dichonoldeb technegol cyn y gwneir unrhyw fuddsoddiad mawr.

• Os yw prosiect yn ddichonadwy yn fasnachol. Bydd hefyd: yn nodi meysydd ar gyfer lleihau costau, yn rhoi ffocws clir ar gyfer cam datblygu dyluniad effeithlon ac yn gwneud y gorau o'ch buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu yn gyffredinol.

• Nodi prosesau technoleg a chynhyrchu deunyddiau addas er mwyn sicrhau bod eich cysyniad yn ddichonadwy i'w ddatblygu a'i weithgynhyrchu yn y niferoedd a ddisgwylir.

• Rhoi hyder masnachol i'ch busnes eich bod wedi dewis y dyluniad â'r cysyniad mwyaf priodol i'w ddatblygu.

Page 39: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddModelu Perfformiad.Dyma'r broses o allu profi cynhyrchion i weld sut y byddent yn perfformio mewn sefyllfa go iawn.

Gellir cynnal profion syml er mwyn gweld pa mor gryf yw darn o bren, pa mor gryf yw uniad penodol ac ati.

Profion Meintiol yw'r enw ar hyn lle caiff y cryfder neu bwysau y gellir ei gynnal ei fesur.

Modelu Perfformiad CyfrifiadurolByddai hyn fel arfer yn cael ei gynnal mewn sefyllfaoedd ffug lle byddai cyfrifiaduron yn cyfrifo grymoedd, pwysau neu straeniau gwahanol ar y cynnyrch wrth iddo gael ei ddefnyddio.Byddai hyn yn galluogi'r dylunydd i adnabod meysydd y mae angen eu datblygu neu eu gwella er mwyn gwneud y cynnyrch yn fwy diogel neu wneud iddo berfformio'n well.

Mae hon yn rhan bwysig iawn o ddatblygu cynnyrch, er mwyn sicrhau y bydd y cynnyrch yn perfformio'n dda ac yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Byddai'n llawer rhatach defnyddio cyfrifiaduron a phrofi deunyddiau modelu er mwyn dod o hyd i broblemau y mae angen eu dileu yn hytrach na chreu'r cynnyrch terfynol priodol ac yna darganfod nad yw'r cynnyrch yn ddiogel neu nad yw'n addas at ei ddiben.

Profi meintiol. Gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron i brofi cynhyrchion i weld a fyddant yn gweithio neu a fyddant yn addas at y gwaith.

Gellir cynnal Profion Gweledol neu Esthetig ar fodelau cyfrifiadurol - gellir newid gorffeniadau neu ymddangosiad deunydd ar gynnyrch fel y gall y cleient weld sut y bydd y cynnyrch yn edrych go iawn.

Profi faint o bwysau y gall darn o bren ei gefnogi cyn torri

Efelychiad cyfrifiadurol i adnabod pwyntiau gwan/straen yn nyluniad corff carafán

Rendro cyfrifiadurol i weld sut byddai cynnyrch yn edrych gyda gorffeniad gwahanol

Page 40: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddERGONOMEGDyn a’i amgylcheddau. Cynhyrchion sydd wedi’u dylunio gan roi ystyriaeth i synhwyrau dynol. Golwg, arogliad, cyffyrddiad, cysur, sŵn, tymheredd.

Ergonomeg: (Groegaidd) Ergos – gwaith, Nomos – cyfreithiau. Yn llythrennol, cyfreithiau gwaith.

Os yw cynnyrch wedi’i ddylunio’n ergonomig, mae’n fwy na thebyg y bydd yn llwyddiannus. Bydd y defnyddiwr yn gallu defnyddio’r cynnyrch yn gyfforddus ac yn well.

I sicrhau bod cynhyrchion yn gyfforddus ac yn hawdd eu defnyddio, mae dylunwyr yn defnyddio DATA ANTHROPOMETRIG i wneud yn siŵr bod y cynnyrch yn addas i bobl ei ddefnyddio.

Dyma enghreifftiau o gynhyrchion y mae’r dylunwyr wedi defnyddio ystyriaethau ergonomig wrth eu dylunio.

Hawdd gafael ynddynt a’u defnyddio, pwysau hawdd i’w gludio ac ati.

Gellir dylunio ystyriaethau ergonomig ar y cynhyrchion hyn i fod yn gyfeillgar i fodau dynol ac yn haws eu defnyddio.

Llaw a chyfforddusrwydd y gafael wedi cael eu hystyried.

Page 41: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddANTHROPOMETREG.Anthropometreg yw gwyddor casglu data ystadegol am fesuriadau’r corff. Cesglir data ar gyfer oedolion a phlant. Bydd gweithgynhyrchwyr teganau’n defnyddio data o’r llyfr hwn wrth ddylunio cynhyrchion neu deganau ar gyfer plant.

Y berthynas rhwng Ergonomeg ac Anthropometreg

Byddai dylunydd yn defnyddio’r data hwn i wneud yn siŵr fod ei gynnyrch wedi’i ddylunio’n dda yn ergonomig: yn gyfforddus i eistedd arno, yn gyfforddus i’w ddal ac ati.

Mae rhai pobl y tu allan i’r amrediad cyfartalog o fesuriadau corff. Ystyrir fod y rhain yn y 5ed a’r 95ain canradd – pobl sydd yn fwy neu’n llai na’r cyfartaledd.

Mewn rhai achosion, rhaid i ddylunwyr ystyried y ffactorau hyn.

DATA Anthropometrig

Edrychwch ar y cynhyrchion canlynol ac ystyriwch pa fath o ddata anthropometrig y byddai’r dylunydd yn edrych arno wrth eu datblygu.

5ed canraddLlai na’r cyfartaledd

CYFARTALEDD 95ain canraddMwy na’r cyfartaledd

Cadair ergonomig

Cegin ergonomig

Sbectol haul Desg a Chadair Plentyn Siswrn Sugnwr llwch Dyson cludadwy

Page 42: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddCAD - Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i luniadu pethau’n fanwl gywir.

Gellir ei ddefnyddio ym mhob math o feysydd Dylunio:

• Pensaernïaeth• Dylunio cynnyrch• Peirianneg• Dylunio tecstilau/ffasiwn

PRIF NODWEDDION CAD

• Gellir golygu lluniadau’n gyflym o gymharu â defnyddio lluniadau ar bapur.

• Gellir gweld y cynnyrch o wahanol onglau – golwg 3D.

• Gellir newid o olwg 3D i 2D drwy bwyso botwm.• Gellir gosod gwahanol rendrad neu orffeniadau

arwyneb i weld sut y byddai’r cynnyrch yn edrych; gall y cwsmer ddewis y cynnyrch yr hoffent ei gael yn gynt a chyflwyno’r cynnyrch i’r farchnad cyn y cystadleuwyr.

• Gall meddalwedd brofi cryfder rhith fodelau cyn eu gweithgynhyrchu.

• Cerdded drwodd – gellir symud o gwmpas yr adeilad, rhith daith.

• Gellir chwyddo’r lluniad i weld y mân fanylion.• Gellir creu lluniadau ffrâm wifren i weld y manylion

cudd.

Gellir anfon lluniadau CAD i offer CAM i’w torri allan neu i greu modelau 3D.

Gellir ei ddefnyddio ar gyfer senarios Modelu Perfformiad. Gellir creu model ar CAD a’i brofi mewn gwahanol ffyrdd:

Profion gweledol esthetaidd – gellir rendro’r model â gwahanol orffeniadau er mwyn i’r cwsmer allu penderfynu pa un yw’r gorau.

Prawf perfformiad – gellir ei brofi dan amodau gweithio i weld sut y byddai’r cynnyrch yn perfformio wrth ei ddefnyddio, e.e. dyluniad pont gan lwytho cerbydau a’r tywydd arno.

Lluniad CAD pensaernïol

Pwysleisio lluniad CAD i wirio perfformiad

Page 43: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDefnydd Arloesol o Ddeunyddiaugan ddylunwyr mewn ymateb i faterion amgylcheddolMacbook Air - Peiriant gwyrdd

Pwyntiau Allweddol o ran Nodweddion Dylunio sy’n rhoi ystyriaeth i faterion amgylcheddol:

Gweithgynhyrchu’r casin

Mae’r cas wedi’i stampio o ddeunydd dalennog – defnyddio llai o ddeunyddiau a llai o wastraff.Cas Aloi Alwminiwm yn hytrach na Pholycarbonad - mae alwminiwm yn llawer haws i’w ailgylchu na pholycarbonad.

Llawer mwy gwydn na’r casys plastig blaenorol (caletach - ni fyddai’n cracio pe bae’n cael ei ollwng).

Dargludo gwres yn well – defnyddir y casin fel ‘sinc’ gwres i gael gwared â’r gwres o’r prosesydd – dim angen ffan oeri i oeri’r prosesydd. Gwell bywyd i’r batri am nad oes yna ffan - 7 awr, sy’n llawer gwell nag unrhyw liniadur arall. Dim angen ei wefru mor aml.

Deunydd pacio a ddefnyddir ar gyfer y MacBook – cynnyrch wedi’i ailgylchu, defnyddio 56% yn llai na deunydd pacio tebyg a ddefnyddir ar gyfer gliniaduron. Dim polystyren na pholythen.

Dyluniad mwy gwyrdd

Ôl olau LED ar gyfer yr uned arddangos LCD – defnyddio llai o ynni na gliniaduron arferol.Defnyddio gwydr heb arsenig.Deunyddiau sy’n ystyriol o’r amgylchedd – casin aloi alwminiwm y gellir ei ailgylchu.

Plastig Polyfinyl Clorid (PVC) a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o gynhyrchion i ynysu gwifrau; defnyddir Bromin i greu PVC, sydd yn beryglus ac yn ddrwg i’r amgylchedd.

Nid yw’r MacBook yn defnyddio unrhyw PVC wrth ei weithgynhyrchu – hyd yn oed yn y ceblau ac ynysiad y gwifrau. Ceblau heb PVC.

Yr holl ddefnydd pecyn cerdyn sy’n gallu cael ei ailgylchu

Page 44: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddARLOESEDDEntrepreneur yw perchennog neu reolwr menter busnes sy'n gwneud arian drwy fenter a/neu risg.

Yn draddodiadol, caiff entrepreneuriaeth dylunio cynnyrch ei diffinio fel y broses o ddylunio, lansio a chynnal cynnyrch neu fusnes newydd, sydd, yn nodweddiadol, yn dechrau fel busnes bach, megis cwmni newydd, gan gynnig cynnyrch, proses neu wasanaeth i'w brynu neu ei logi, a gelwir y bobl sy'n gwneud hynny yn entrepreneuriaid.

'Caiff yr entrepreneur ei ystyried yn arweinydd busnes ac yn arloeswr syniadau newydd a phrosesau busnes.' Mae entrepreneuriaid yn tueddu i fod yn dda am ganfod cyfleoedd busnes newydd ac yn aml yn cymryd risgiau sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o fanteisio ar y cyfle. Yn hytrach na gweithio fel cyflogai, mae entrepreneur yn rhedeg busnes bach ac yn cymryd yr holl risgiau a gwobrau a ddaw yn sgil menter, syniad neu wasanaeth penodol a gynigir i'w werthu.

Mae Hyrwyddwr Cynnyrch yn aelod o sefydliad sydd â gweledigaeth entrepreneuraidd ar gyfer nwydd neu wasanaeth newydd ac sy'n ceisio ennyn cefnogaeth ar gyfer y broses o'i fasnacheiddio.Mae hyrwyddwr cynnyrch yn rhywun sy'n gweld gwerth mewn cynnyrch, ac sy'n creu ac yn datblygu'r cynnyrch a hefyd yn annog y sawl sy'n gwneud penderfyniadau i fuddsoddi yn y cynnyrch, ei werthu neu ei hyrwyddo. Mae'r hyrwyddwr cynnyrch hefyd yn sicrhau bod y cynnyrch ym meddyliau'r defnyddwyr o hyd. Ni fydd rôl hyrwyddwr cynnyrch yn dod i ben pan fydd y cynnyrch wedi'i sefydlu ac ar y farchnad. Mae sicrhau bod y cynnyrch ym meddyliau'r defnyddiwr o hyd yn rôl arall a gyflawnir ganddynt.

Mae Richard Seymour a Dick Powell yn entrepreneuriaid sydd wedi datblygu a dylunio cynhyrchion ar gyfer nifer o

gwmnïau ledled y byd.

Steve Jobs — mae APPLE yn enghraifft dda o Hyrwyddwr Cynnyrch yr oedd ganddo weledigaeth i allu marchnata a hyrwyddo ei gynnyrch yn fasnachol ledled y byd.

Cynllun mewnol ar gyfer awyrennau a threnau. Offer cegin, defnydd pecyn cosmetig ac ati. Am fwy o wybodaeth am eu cynhyrchion, cliciwch ar y cyswllt isod

Page 45: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddMae Arloeswyr yn creu 'syniadau, dyfeisiau neu ddulliau newydd.'Yn aml, caiff arloesedd ei ystyried yn gymhwyso datrysiadau gwell sy'n diwallu anghenion newydd, neu anghenion presennol y farchnad. Cyflawnir hyn drwy gynhyrchion, prosesau, gwasanaethau a thechnolegau mwy effeithiol sydd ar gael yn rhwydd i farchnadoedd a chymdeithas. Gellir diffinio'r term 'newyddbeth' fel rhywbeth gwreiddiol a mwy effeithiol ac, o ganlyniad, newydd, sy'n 'torri drwodd' i'r farchnad neu i gymdeithas. Mae'n gysylltiedig â dyfeisiad, ond nid yw'r un peth.

Er y caiff dyfais newydd yn aml ei disgrifio fel newyddbeth ac yr ystyrir yn gyffredinol ei bod yn ganlyniad proses sy'n dwyn ynghyd sawl syniad newydd mewn ffordd sy'n effeithio ar gymdeithas. Caiff newyddbethau eu creu a'u canfod er mwyn bodloni gofynion cynyddol defnyddwyr. Yn y pen draw, mae hyrwyddwr cynnyrch yn paratoi'r ffordd ar gyfer cynnyrch newydd; ei ddatblygu, a'i gyflwyno i bobl.

Thomas Heatherwick

Cadair metel trowasgBws newydd Llundain

Fflam Olympaidd Llundain 2012

The Hive — Canolfan Ddysgu ym Mhrifysgol

Singapore

Mae Thomas Heatherwick yn enghraifft dda o Arloeswr ac maen gyfrifol am ddylunio a datblygu nifer o gynnyrch megis nwyddau tŷ, trafnidiaeth a phensaernïaeth.

Page 46: 1. Dylunio ac Arloesedd - resource.download…resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc... · Dylunio ac Arloesedd 1. ... AGPTEK 16Gb £21.99 Apple iPod Nano 16Gb £149.99.

1. Dylunio ac ArloeseddDATBLYGU CYNIGION

Dull system o ddylunio

Prif nod dylunio system yw sefydlu dull dylunio sy'n cyflawni'r swyddogaethau a ddisgrifir yn y ddogfen gofynion system.

Bydd dylunio system yn llunio cynllun peirianyddol sy'n integreiddio disgyblaethau ar gyfer y dyluniad arfaethedig, yn deall y risgiau technegol, yn archwilio cyfaddawdau, ac yn pennu amcangyfrifon ar gyfer perfformiad a chost i gwblhau.

Mae'r broses yn dechrau gyda Gofynion System Dogfen:

• Sefydlu swyddogaethau system• a pherfformiad gofynnol• Sefydlu anghenion a nodweddion y defnyddiwr• Cwblhau'r cylch oes a ystyriwyd – datblygu a

gweithrediadau• Dechreubwynt ar gyfer datblygu datrysiad i

ddiwallu anghenion• Integreiddio pob disgyblaeth

Defnyddio'r dull system

Mae cymhwyso'r dull system wrth ddylunio a chreu cynhyrchion yn arbed amser ac ymdrech, ac yn lleihau gwastraff, er enghraifft:

Wrth gynllunio eich gwaith, mae'n debyg y bydd angen i chi lunio siart llif er mwyn egluro dilyniant rhesymegol tasgau.

Pan fydd angen i chi greu sawl elfen, neu sawl cynnyrch sydd yr un fath, mae'n debyg y byddwch yn defnyddio dulliau swp gynhyrchu.