Dafydd ap Gwilym - ‘Yr Wylan ’

Post on 03-Jan-2016

99 views 1 download

description

Dafydd ap Gwilym - ‘Yr Wylan ’. Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu : Adnabod nodweddion cerdd llatai Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym (I gyd yn gywir a heb gymorth ). Yr Wylan ( Rhan 1) Yr wylan deg ar lanw , dioer , - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of Dafydd ap Gwilym - ‘Yr Wylan ’

Dafydd ap Gwilym

-‘Yr Wylan’

Amcanion

Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:

-Adnabod nodweddion cerdd llatai

-Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym

(I gyd yn gywir a heb gymorth)

Yr Wylan (Rhan 1)

Yr wylan deg ar lanw, dioer, 

Unlliw ag eiry neu wenlloer, 

Dilwch yw dy degwch di, 

Darn fal haul, dyrnfol heli. 

Ysgafn ar don eigion wyd, 

Esgudfalch edn bysgodfwyd. 

Yngo'r aud wrth yr angor 

Lawlaw â mi, lili môr. 

Llythr unwaith lle'th ariannwyd, 

Lleian ym mrig llanw môr wyd. 

 

  

(Rhan 2)Cyweirglod bun, cai'r glod bell,

 Cyrch ystum caer a chastell.

 Edrych a welych, wylan,

 Eigr o liw ar y gaer lân.

 Dywaid fy ngeiriau dyun,

 Dewised fi, dos hyd fun.

 Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,

 Bydd fedrus wrth fwythus ferch

 Er budd; dywaid na byddaf,

 Fwynwas coeth, fyw onis caf.

  

 

(Rhan 2 parhad)

Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd, 

Och wŷr, erioed ni charawdd 

Na Merddin wenithfin iach, 

Na Thaliesin ei thlysach. 

Siprys dyn giprys dan gopr, 

Rhagorbryd rhy gyweirbropr. 

(Rhan 3)Och wylan, o chai weled

 Grudd y ddyn lanaf o Gred,

 Oni chaf fwynaf annerch,

 Fy nihenydd fydd y ferch.

 Dafydd ap Gwilym

www.dafyddapgwilym.net

Cynnwys Yr Wylan

Castell Cricieth

Castell Aberystwyth

Eigr

Enw mam y Brenin Arthur.

Un o ferched harddaf Prydain yn ôl Brut y Brenhinoedd.

Roedd Beirdd y Tywysogion yn aml yn cyfeirio ati.

Myrddin Cymeriad pwysig yn    llenyddiaeth Cymru.

Cysylltiedig â’r hanesion am Arthur.

Bardd o’r 6ed ganrif.

 Ymwybyddiaeth o’i gefndir barddol.

Awyddus i gadw cysylltiad â’r traddodiad hwnnw.

Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o Ffrainc o'r 13eg ganrif.

Taliesin•Bardd llys yn yr Hen Ogledd.

•6ed ganrif.

•Nifer o gyfeiriadau ato gan Feirdd y Tywysogion.

•Ymwybyddiaeth o gyfoeth y traddodiad barddol.

Cywydd llatai

Bardd yn anfon yr wylan gyda neges serch at ei gariad.

Merch di-enw.Byw mewn tref lan-y-môr sydd gyda chastell.

D.J. Bowen = AberystwythAnthony Conran = Cricieth

Agor trwy ganmol yr wylan.Disgrifiad o’r ferch hefyd?

Ai Morfudd yw’r ferch?

Mynd ymlaen i ofyn wrth yr wylan ddwyn neges i’w gariad.

Cloi’r gerdd gyda chonfensiwn poblogaidd y canu serch y bydd y ferch yn achosi ei farwolaeth.

Croen golau = harddwch yn yr Oesoedd Canol

Lliw haul = harddwch heddiw

Llun:www.flickr.co.uk

Cefndir Yr Wylan

Pam dewis yr wylan fel llatai?

Cyflymder

Hedfan yn syth i’r man a ddynodwyd.

Symbol o brydferthwch y ferch. Pam?

Dylanwadau - Beirdd y Tywysogion

• Gwreiddiau’r confensiwn i’w darganfod yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion yn y 12fed a’r 13eg ganrif.

• Cynddelw Brydydd Mawr = gyrru march fel negesydd serch ar ei ran.

• NID OES enghraifft arall o adar neu anifeiliaid fel negesyddion serch yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr.

Dylanwadau – Pedair Cainc Y Mabinogi

Chwedl Branwen ferch Llŷr

• Atgoffa o’r ddrudwy a yrrodd Branwen gyda llythyr i’w brawd yng Nghymru.

Tasg

Yn unigol, lluniwch siart bry cop gan gynnwys y penawdau y byddwch chi’n ei drafod am gefndir Yr Wylan a Dafydd ap

Gwilym.

Er enghraifft: Uchelwr

Cefndir Dafydd ap Gwilym

fl. 1340-1370

UchelwrCymeriad lliwgar

Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr

Bardd natur a serch

Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.

Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol

28 copi mewn llawysgrifau e.e. Peniarth 49

Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus

Lleoliad – D. J. Bowen yn awgrymu Castell Aberystwyth.Anthony Conran – Castell Cricieth

Cywydd llatai, serch a natur

Merch di-enw

Morfudd?

Morfudd =

•Un o brif gariadon Dafydd• Gwraig briod• Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth• Dod o deulu da• Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi• 80 o gerddi iddi

Y System Nawdd

Beirdd yr UchelwyrUchelwyr yn noddi’r beirdd ac 

yn dechrau barddoni eu hunain Clera

1282 – Cwymp y Tywysogion

Diwedd nawdd  Dosbarth newydd o dirfeddianwyr 

Beirdd y Tywysogion

2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd

Datblygiad y Cywydd

Traethodl  Cywydd

Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell.

Yr Wylan - Cerdd Serch• 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur.

• Beirdd y Tywysogion:

- Awdlau serch Hywel ab Owain- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd  yn  gyfarwydd  â  cherddi  Hywel  ab  Owain .

Yr Wylan – Serch Cwrtais

Perthynas rhwng y cerddi llatai â chysyniad Serch Cwrtais Cyfandirol:

• Anfon llatai – delwedd o’r ferch fel un anghyraeddadwy

• Dafydd – y carwr dioddefus

• Claf o gariad

Yr Wylan – cerdd natur

• Cerddi Ffrangeg alegoriol lle mae’r adar yn trafod pynciau serch ynddynt.

• Gramadeg Einion Offeiriad:Hen englynion sy’n cyfuno doethineb  â disgrifiadau cryno o fyd natur. Hefyd, mae adar yn cael eu personoli i fod â nodweddion dynol ynddo yn union fel mae Dafydd yn ei wneud yn y cywydd hwn.

Yr Wylan – cerdd natur

•Natur yn mynd law yn llaw â serch.

•Cerdd llatai – creadur o fyd natur yn cynorthwyo Dafydd ar lwybr serch.

•Disgrifiad llachar o wynder yr Wylan – hefyd yn awgrymu rhinweddau’r ferch.

•Yr wylan yn ddelwedd adnabyddus am harddwch merch.

Yr Wylan – cerdd natur

Unigryw:

Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw manylder synhwyrus Dafydd –

Disgrifiadau  y  mae  a  wnelont  fwy  â  phrofiad  a  sylwgarwch  y  bardd  nag  ag  unrhyw  gonfensiwn  llenyddol.  

Camp Dafydd ap Gwilym

Soniodd Huw Meirion Edwards am allu Dafydd ap Gwilym i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn gan greu, o ganlyniad, waith cwbl newydd a ffres:

“Pwysicach  na  phob  dylanwad  yw  dychymyg  ac  egni  creadigol  cynhenid  Dafydd,  a’i  galluogodd  i  drawsnewid  yr  hyn  a  glywodd  ac  a  ddarllenodd  ym  mhair  ei  weledigaeth  ef  ei  hun.”

Tasg

Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr

Wylan.

Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu.

Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.

Amser: 10 munud.

Tasg

Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich

traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd ‘Yr

Wylan’.

Gwaith Cartref:

Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr Wylan gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y

dosbarth heddiw fel sylfaen i’r gwaith.

Erbyn wythnos i heddiw.

Cefndir

1. Cywydd llatai + serch a natur

2. Lleoliad - Aberystwyth?/Cricieth?

3. Morfudd?

5. Bardd = - Pwy?- Beth?- Pryd?- Lle?

4. 28 copi mewn llawysgrif

6. System nawdd

7. Datblygiad y cywydd

8. Serch – Beirdd y Tywysogion

9. Serch – Y Trwbadawriaid

10. Serch Cwrtais

11. Branwen ferch Llŷr

12. Natur – cerddi Ffrengig

13. Natur – Gramadeg Einion Offeiriad

14. Unigryw